Adolygiad: Skyrim
Ar l bron i flwyddyn o ddisgwyl, daeth The Elder Scrolls V: Skyrim allan. Bethesda ydy wir feistr y genre Gm Chwarae Rhan Orllewinol, yn creu un o gemau gorau'r genhedlaeth hon. Er mwyn i ti gael gwybod, dwi wedi chwarae mwyafrif y gm ar fy PC ac ychydig yn nh? fy ffrind ar ei Xbox, a gallaf ddweud fod y fersiwn PC yn llawer mwy uwchraddol, felly wedi'r cwbl, os wyt ti'n cysidro cael Skyrim ar gonsol, tynna 0.2 oddi ar y sgr terfynol. Nawr, ymlaen gyda'r adolygiad!
Os oes gen ti rig hanner addas yna mae Skyrim yn edrych yn anhygoel. Mae'r manylder yn y byd yn hollol anhygoel, yn gwneud i mi anghofio dros dro nad oeddwn i'n edrych ar y llun. Mae'r holl greaduriaid yn edrych yn anhygoel, yn enwedig y dreigiau (mwy am hynny wedyn) ac mae'r dirwedd yn wych. Problem fach gyda hyn ydy yn rhai o'r coridorau manwl, gall y radd ffrm ollwng os nad oes gen ti tsip graffeg digon da. Hefyd, heb addasiadau wedi'u gosod cynt, mae rhai wynebau yn edrych yn afrealaidd, yn hyll ar adegau, yn enwedig y corachod. Mae'r pellter llunio yn eithaf anhygoel hefyd, sydd yn golygu galli di edrych am filltiroedd, ond mae'r mynyddoedd yn edrych yn frwnt yn y cefndir a'r d?r yn edrych yn fflat.
Mae'r chwarae gm yn gymysg. Tra mae bod yn ddirgel fel saethwr neu'n castio hud yn wych yn safbwynt person cyntaf, mae swingio arf mle yn anodd. Gallai hyn fod wedi cael ei ddatrys yn hawdd gyda sustem cloi ar fel yn Dead Island, ond mae'n ymddangos fel bod Bethesda wedi penderfynu peidio cynnwys un. Yn ddiolchgar, mae ymladd yn y trydydd person yn llawer mwy boddhaol. Er bod hi'n anoddach anelu gydag arfau amrywiol a hud, mae hud mle a thaflwr fflam pellter byr yn llawer mwy o hwyl. Mae anelu yn dod yn haws yn od iawn a dydy gelynion ddim yn osgoi dy saethiadau di ar hap. Byddwn i yn awgrymu chwarae Skyrim ar PC mewn trydydd person, ond ar y consolau, mae'n llawer haws yn y person cyntaf gan fod slamio'r trigerau yn y drydydd person yn teimlo'n od.
Doeddwn i ddim yn meddwl fod prif stori'r cwest yn afaelgar iawn. Am ryw reswm, ti ydy Dragonborn, sydd yn golygu medri di ddysgu i Thu'um , neu saethu, yn hawdd. Mae hefyd yn ymddangos mai ti ydy'r unig un sydd yn gallu stopio dyfodiad y dreigiau ac felly dinistriad y byd. Ar hyd y ffordd byddi di'n ceisio stopio rhyfel cartref, dysgu sut i feistroli hud a lledrith a chwblhau cannoedd o gyrchoedd eraill. Mae dros gant o oriau o chwarae yn hawdd yn Skyrim, a chyn hir, bydd bywyd go iawn yn diflannu i wneud lle i ddysgu geiriau o b?er a rhoi ysbeilwyr ar dn. Yn anffodus, roedd fy llwybr o ddod yn gorrach coed heddychol ddim wedi digwydd fel yr oeddwn wedi'i gobeithio ar l i mi orfod pasio i un o'm ffrindiau i gwblhau cwest, gan arwain at ddau funud cyfan o dristwch. Ar y cyfan, fel yn y mwyafrif o Gemau Chwarae Rhan (RPG), mae'r cyrchoedd bach yn llawer mwy deniadol na'r prif gwest.
Yn syndod, y gerddoriaeth ydy rhan gorau'r gm bron. Nid am fod y gm yn dda i ddim, ond am fod y gerddoriaeth yn anhygoel. Y dn lleddfol fel ti'n gyrru dy geffyl sydd wedi’i ddwyn ar draws y caeau tu allan i Whiterun, cymysg syfrdanol o Rohan o Lord of the Rings a Hyrule Fields o The Legend of Zelda, yn gosod y tn yn wych. Mae'r gerddoriaeth o'r hysbyslun gwreiddiol fel arfer yn cychwyn yn ystod yr ymladd gyda'r dreigiau ac yn gwneud i t deimlo fel arwr o'r hen amser, yn lladd gelynion yn ddewr er mwyn achub y morwynion mewn perygl. Mae'r gerddoriaeth mor dda, i ddweud y gwir, fel ei fod ar fy iPod, sydd yn fraint fawr i gemau gan mai'r caneuon eraill sydd arno ydy un ai Zelda, Mario neu Portal.
Dwi wedi cadw'r gorau o Skyrim tan ddiwethaf, a hynny yw, fy ffrindiau, yr ymladd dreigiau. Yn cyfuno'r pedwar agwedd gorau o'r pedwar paragraff diwethaf, rhain ydy rhai o uchafbwyntiau 2011. Mae'n cymryd llawer o fedr i ladd draig, gan fod angen saethau neu hud i'w anafu tra mae yn yr awyr, ac yna mae'n rhad i ti ddelio gydag ef ar l iddo lanio a dechrau rhuthro tuag atat ti. Mae'r gelynion ymlusgol enfawr yma yn edrych yn anhygoel, yn enwedig gyda'r addasiadau ansawdd cywir wedi'u gosod, sydd yn golygu dwi fel arfer yn cael fy lladd yn syth pan fydd un yn glanio o'm mlaen gan fod i wedi synnu cymaint gyda’r prydferthwch. Maent hefyd yn profi i fod yn sialens galed, ac angen y cydbwysedd cywir o niwed amrywiol ac agos i ladd un. Er fel arfer dim ond esgyrn draig a chennau sydd yn cael ei ollwng wrth iddynt farw, mae gen i addasiad wedi'i osod sydd yn golygu eu bod yn gollwng eitem o ddefnydd wrth farw, sydd yn golygu ei bod hi'n fuddiol i ladd draig. Lladd dreigiau ydy'r unig ffordd sydd ddim yn gyrch, i fedru dysgu gwaedd, sydd yn gadael i ti ladd mwy o ddreigiau, sydd yn gadael i ti ennill mwy o waedd, byth bythoedd.
Ar l buddsoddi oriau i mewn i The Old Republic yn ddiweddar, mae Skyrim yn teimlo'n ysgafn iawn ar RPG. Ti'n lefelu dy sgiliau i fyny wrth ddefnyddio arf penodol, sydd yn golygu os wyt ti'n swingio dy gleddyf mawr o gwmpas, byddi di'n lefelu fyny mewn deulaw ac os wyt ti'n saethu hud mellt tn at elynion, byddi di'n mynd i fyny mewn dinistr. Golygai hyn fod lladd gelynion yn eithaf diwerth gan nad wyt ti'n ennill XP a fedri di lefelu i fyny yn sydyn iawn drwy sleifio i fyny tu l i bobl ddall neu wario arian ar sgiliau dysgu sydyn. Ond unwaith ti'n lefelu i fyny galli di wario pwynt ar gilfantais, gallai fod yn rhywbeth o fedru anelu dy fwa yn well neu fedru deuol hud trin i greu un hud mawr pwerus, i wella'r difrod sydd yn cael ei greu gan fwyell yn gostwng cost magika hud. Mae pob cilfantais yn ddefnyddiol, ond mae'n cymryd amser hir i lefelu i fyny sydd yn golygu gallai gymryd oriau i ddysgu sut i arafu amser wrth anelu dy fwa, ac erbyn hynny efallai byddi di eisiau'r gallu i wenwyno pobl pan ti'n pigo poced nhw, felly gwna dy benderfyniadau yn ofalus.
Yn anffodus mae yna ychydig o ddiffygion. Mae gelynion weithiau yn pylu i mewn i fodolaeth o dy flaen, yn gwbl annisgwyl ac yn gwastraffu dy ddiod iechyd gwerthfawr. Mae rhai gelynion hefyd yn catapwltio i mewn i wingfa ar hap, yn hedfan dros y sgrin i gyd, yn ei gwneud yn amhosib lladrata'r corff marw. Mae hefyd ychydig o broblemau efo'r safio sydyn, sydd yn golygu os wyt ti'n safio ar ddamwain wrth i ddraig ladd ti, byddi di'n sownd yn gwylio'r animeiddiad marwolaeth drosodd a throsodd.
Sgr Terfynol = 94%
Yn hawdd, dyma un o gemau gorau 2011, a byddaf yn mynd mor bell dweud mai dyma un o'r gemau gorau erioed. Mae Skyrim yn hanfodol i unrhyw un sydd yn meddwl eu bod nhw'n gemwr. Os nad wyt ti'n talu hwn, ti'n methu allan ar un o bleserau mwyaf bywyd modern. Felly, yng ngeiriau Chris Loki, edrychwch tuag at yr awyr teithwyr. Nawr, esgusoda fi, mae gen i ddreigiau i'w lladd
O ia, a FUS RO DAH!
Poeni am fethu un o adolygiadau Jeff the Fridge? Cadwa olwg ar adran Cyfres TheSprout ar dudalen ffan newydd Facebook.