Adolygiad: Monster Magnet
Cefais fy nghyflwyno i Monster Magnet pan roeddwn yn rhannu tŷ gyda llwyth o stoners.
Roedd un ohonynt, Jim (ddes i ar draws yn y sioe hon am y tro cyntaf ers blynyddoedd), efo Dopes To Infinity, y trydydd albwm, yn chwarae drosodd a drosodd yn ei ‘stafell llawn mwg.
Roeddwn i wedi fy machu yn syth, ond tiwniais allan ar l eu halbwm nesaf, y Powertrip llwyddiannus iawn, am ddim rheswm penodol.
Heno oedd y tro cyntaf i mi eu gweld yn fyw, ac er nad oes yr un aelod gwreiddiol yn dal i fod gyda’r prif ddyn, Dave Wyndorf, roeddwn i’n edrych ymlaen at y profiad seicadelig llawn.
I gychwyn roedd Seventh Void, y band tynged o Frooklyn yn cynnwys Johnny Kelly a Kenny Hicky o Type O Negative ar llais/gitr a drymiau.
Fel ffan fawr o Type O roedd hi’n grt gweld dau o’i aelodau yn agos ac yn perfformio, ac er nad ydw i (cywilydd mawr) wedi clywed eu halbwm cyntaf, Heaven Is Gone, roedd nifer o deyrngedau i Peter Steele, prif ddyn Type O fu farw yn ddiweddar, gan gynnwys fersiwn o World Coming Down.
Roedd chwyrlad o oleuadau lliwgar a mwg yn marcio Monster Magnet yn cychwyn a Nod Scene wedi’i ddilyn gan Tractor. Ni fu diffyg y gorau o’r gorau yn beth ddilynodd, ac er ei bod hi’n saff dweud fod y rhan fwyaf oedd yno yn hoff iawn o’r stwff hŷn, ni wnaeth stopio’r Millennium Music Hall llawn i ddal ar bob gair gan Wyndorf.
Roedd digon o chwarae gyda sŵn a ffidlan gyda botymau i alw egwyl o sŵn hir y ffans yn chwythu gwallt Wyndorf wrth iddo chwarae gyda phen ei amp yn creu hwyl adloniant grt ac roedd y band fel criw yn berffaith yn dechnegol fel maent bob tro.
Uchafbwynt y noson i mi oedd Look To Your Orb For The Warning, ac roedd digon o ddatseinedd ac adborth tawel drwyddo fel bod pawb yn cael atgofion o gyfnod anterth y band.
Clowyd y set cychwynnol gyda Space Lord, ac yna cafwyd ugain munud arall o berffeithrwydd MM wrth i’r encr gynnwys Gods And Punks ac, i orffen, y Powertrip gwych.
Wrth adael gwelais fy cyn cydletywr, Jim, oed yn mynnu fod ei wyneb newydd gael ei doddi gan un o’i hoff fandiau. Dwi’n meddwl fod hyn yn wir i bawb.
Monster Magnet
Seventh Void
Napalm Records
Millennium Music Hall
Mwy o Newyddion Cerddoriaeth
Tudalen Gwybodaeth Cerddoriaeth theSprout