Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Adolygiad: Amnesia: The Dark Descent (PC)

Posted by Jeff the Fridge from Cardiff - Published on 12/08/2011 at 12:39
0 comments » - Tagged as Technology

  • amnesia

English verison

Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer categori Aolygiad Gorau yng Ngwobrau CLIC 2011.

Nid oes llawer o gemau sydd yn dy ddychryn ddim mwy. Roedd y gm Resident Evil diweddaraf yn fwy o saethwr,  doedd F.3.A.R. ddim yn dychryn ac roedd Dead Space yn defnyddio angenfilod yn neidio i dy wyneb fel mae trn ysbrydion yn ymwthio cyn i ti rwygo nhw i ddarnau gyda dy dorrwr plasma ffyddlon.

Yr unig gm oedd yn dod yn agos at yr un lefel o ddychryn ag Amnesia yn y blynyddoedd diweddar oedd y lefel "we don't go to Ravenholm" yn Half-Life 2, oedd yn wir yn dychryn fi. Mae Amnesia yn cyflwyno rhywbeth newydd i'r genre arswyd drwy fod o safbwynt y person cyntaf ond nid oes arfau gen ti. Pan ti'n gweld anghenfil, yr unig beth gall wneud ydy rhedeg a chuddio yn y tywyllwch.

Mae'r gm yn cychwyn gyda thi yn baglu i lawr cyntedd yn dweud yn feddw "Fy enw i ydy Daniel". Roedd y llinell yno yn sownd yn fy mhen am oes felly pam fydda fy ffrindiau yn dechrau siarad am gemau byddwn yn rhoi hwnnw i mewn n y drafodaeth. Roedd hyn yn eu gwylltio. Mae'r gm yn dechrau efo tiwtorial syml ond roedd yn ddigon i ddychryn fi go iawn, gyda drysau yn byrstio ar agar a goleuadau yn dod ymlaen ac yn mynd i ffwrdd bob eiliad. Mae'r peiriannydd callineb yn cael ei ddefnyddio i effaith gwych os wyt ti'n aros yn y tywyllwch neu'n edrych ar anghenfil, ti'n mynd yn wallgof yn araf nes yn y diwedd ti'n gorwedd ar y llawr yn ddiymadferth. Yr unig ffordd i adennill dy gallineb ydy drwy edrych i mewn i'r golau. Pam gyfarfuasai i 'n hanghenfil cyntaf cuddiais mewn cornel tywyll am bum munud cyn rhedeg at lamp i gael fy nghallineb yn l. Yr unig broblem oedd bod yr anghenfil nawr yn gallu fy ngweld. Yn lwcus doedd fy rhieni ddim adref i glywed fi'n sgrechian wrth iddo daro fy ysgwydd a rhuo yn fy wyneb.

Nid yw'r raffeg yn wych ond mae'r steil celf gymylog yn dda iawn. Mae'r anghenfil yn dda iawn ac mae'n amlwg fod F.3.A.R. wedi dwyn y cythraul o A:TDD. Ond, nid oes esgus am beiriant graffeg wedi dyddio. Bob hyn a hyn mae pylu ar y sgrin a rhwygo wrth i ti redeg trwy'r tywyllwch i ffwrdd oddi wrth yr angenfilod, ond mae hyn yn gwneud y peth yn fwy realistig. Mae'r effaith dwr yn dda, yn enwedig pan mae'r anghenfil dwr yn sblasio ar dy l, ond nid yw'n ddim arbennig. Nid yw'n syndod fod y raffeg ddim cystal gan mai datblygwr bach ydy Frictional Games, yn anaml yn ymddangos o'r Steam cymylog ac i mewn i siopau. Dwi ddim yn dweud fod Steam yn ddrwg, ond gall wneud mwy o arian oddi ar gm os ydyw mewn siop ar ddisg ar gyfer consolau fel y PS3 neu'r Xbox 360.

Dyw'r stori yn ddim arbennig chwaith. Ti'n cerdded yn dy flaen i'r gl derfynol o ladd Alexander (os wyt ti'n dewis hyn), ond nid yw'r mwyafrif o ystafelloedd mewn trefn gadarn. Gallai hyn fod wedi bod wedi cael ei greu gyda mwy o ddewis,  hynny yw, os wyt ti'n mynd i mewn i ystafell gyda thri drws, dewis pa un i fynd drwyddo, gorffenna’r prawf ac yna cer yn l i'r ddau ddrws arall. Mae'n iawn, ond gallai wella arno.

Mae ychydig o bosau syml yn ymddangos ar y cychwyn sydd yn dod yn anoddach yn raddol, ond mae'n amlwg nad nid dyma gryfder y gm. Mae Frictional Games wedi gwneud arswyd goroesiad gwych, ond maen nhw wir angen cael cymorth gan Valve ar y posau. Os fysa nhw wedi cael cymorth gan y datblygwyr mawr, yna mae'n debyg bydda'r gm wedi bod efo graffeg llawer gwell a mwy o bosau cymhleth. Ond wedi dweud hyn, mae'r posau yn well na'r cynigion sl yn Duke Nukem Forever (sychu deigryn o'r llygaid).

Nid yw Amnesia ar gyfer rhai sydd yn wan y galon. Mae Alexander yn arteithiwr gwyllt ac fe fyddi di'n darganfod pennau c?n wedi'i datgymalu wrth i ti glywed dy atgof o Alexander yn torri nhw i ffwrdd. Ti hefyd yn cael dy orfodi i fynd i mewn i siambrau artaith ble ti'n gweld Alexander yn gorfodi Daniel i wneud pethau afiach i ddioddefwyr anlwcus. Os oeddet ti'n meddwl fod Limbo yn waedlyd ac yn treulio'r mwyafrif o dy amser ar Mario neu gemau Wii grt sy'n gyfeillgar i'r holl deulu, yna mae'n debyg byddai'n well i ti osgoi Amnesia. Tyrd i arfer gyda'r genre gwaedlyd yma drwy gychwyn yn araf gyda darnau o facwn ac asennau'r gwyddonwyr yn Splosion Man yr holl ffordd i fyny i'r datgymaliad strategol yn Dead Space. Os wyt ti'n mynd yn syth i Amnesia o New Super Mario Brothers mae'n debyg byddet yn chwydu dros dy fonitor i mewn ofn a ffieidd-dod. Bydd pobl sydd wedi arfer gyda gemau modern fel Black Ops a Mortal Kombat yn debyg yn iawn efo Amnesia, er efallai iddo fod yn gythryblus i gychwyn.  Bydd y bobl sydd wedi saethau pennau babanod yn fwriadol yn Dead Space ac yn gwylio Saw yn si?r o feddwl am beth mae'r holl ffwdan.

91%

Y gm gorau i ddychryn fi am ychydig o flynyddoedd ers Resident Evil4 a Fatal Frame 2 (y merched gyda'r gyddfau wedi torricrynu). Yr unig gm ofnus arall yn 2010 oedd Alan Wake, ond nid yw hwnnw'n agos i fod mor ofnus ag Amnesia.

Newyddion – Categorau – Technoleg

Mwy o adolygiadau gemau Jeff the Fridge:

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.