* * serenCLIC! * *
Bydd unrhyw un sydd erioed wedi mynychu un o’n Sesiynau Penwythnos CLIC chwedlonol yn gyfarwydd CLIC's Got Talent: noson pan fyddwn yn eich annof i ddangos eich sgiliau. Mae’n noson wedi’i hybu siwgr sy’n llawn dawnsio, canu ac ysgrifennu caneuon, yn ogystal darlleniadau barddoniaeth, comedi digrifwyr ar eu traed, rapio, bt bocsio a fwy neu lai popeth arall o dan haul.
Roeddem yn meddwl ei bod hi’n hen bryd mynd ’r holl sioe ar raddfa genedlaethol. Felly heb oedi pellach...
Yn cyflwyno
* * serenCLIC! * *
Mae serenCLIC yn sioe ddoniau ar-lein, ac fe'ch gwahoddir i ymgeisio.
Waeth pa ddawn sydd gennych, mae arnom eisiau ei ddarlledu ar-lein a gadael i bobl o bob rhan o Gymru bleidleisio drosoch.
Pa un ai a fyddwch yn perfformio'n unigol neu fel rhan o gr?p, mae arnom eisiau clywed gennych. Fe wnawn ystyried unrhyw beth peidiwch a meddwl mai cantorion a dawnswyr meistrolgar yw’r unig rai a all gymryd rhan yn serenCLIC. Efallai eich bod yn fardd neu’n ysgrifennwr, efallai mai comedi ar y pryd sy’n mynd ’ch bryd, efallai y gallwch gyfathrebu chathod neu gerflunio T?r Eiffel o fananas...beth bynnag y gallwch ei wneud, mae arnom eisiau gwybod!
Caiff y gystadleuaeth ei rhedeg yn gyfan gwbl ar-lein, a bydd dau berfformiad 'r nifer uchaf o bleidleisiau yn perfformio o flaen 200 o bobl yng NgwobrauCLIC ym mis Hydref.
I bwy mae hyn?
Unigolion a grwpiau bychan. Unrhyw un sydd hobi, diddordeb brwd, tric parti neu sgil.
All fy mand gystadlu?
Os ydych yn aelod o fand, dylech fynd i dudalen Brwydr y Bandiau. Mae Brwydr Bandiau CLIC, mewn cydweithrediad Merthyr Rock, yn gystadleuaeth flynyddol i ganfod y bandiau gorau o Gymru sydd heb lofnodi cytundeb.
Caniateir i berfformwyr unigol, MCs a pherfformwyr pop gystadlu yn serenCLIC. Fodd bynnag, gellir trosglwyddo unrhyw berfformwyr sydd naws roc/metel i Frwydr y Bandiau os bydd y beirniaid yn credu y byddai’n well i chi berfformio ar lwyfan Merthyr Rock na serenCLIC.
Sut alla i gystadlu?
Os oes gennych dudalen we sy’n dangos eich perfformiad (megis fideo YouTube neu dudalen Myspace/Facebook/Soundcloud), yna e-bostiwch y ddolen at clicstar@cliconline.co.uk ynghyd llun ac efallai ychydig linellau o fanylion amdanoch chi a’ch perfformiad.
Os nad ydych wedi darlledu eich doniau i’r byd hyd yn hyd, peidiwch phoeni! Llwythwch fideo o’ch perfformiad i fyny i YouTube neu CLICplay. (Os byddai'n well gennych lwytho recordiad sain i fyny, mae Soundcloud yn safle da i'w ddefnyddio.) Pan fydd eich recordiad sain/fideo yn fyw, e-bostiwch yr URL at clicstar@cliconline.co.uk ynghyd llun ac ychydig linellau o fanylion amdanoch chi a’ch perfformiad. Yna, fe wnawn ychwanegu eich fideo/recordiad sain at dudalen serenCLIC, fel y gall pawb yng Nghymru fwynhau eich perfformiad, a bydd unrhyw un sydd wedi cofrestru i ddefnyddio CLICarlein yn gallu pleidleisio i chi.
Mae’n rhaid i chi fod yn 11-25 oed ac yn byw yng Nghymru i gystadlu.
Beth sydd angen i mi wneud i gystadlu?
Mae arnoch angen fideo (neu recordiad sain) ohonoch yn perfformio. Nid oes rhaid iddo fod o ansawdd ragorol – mae ansawdd gwe-gamera neu ffn camera yn iawn – ond mae angen iddo arddangos eich doniau. Cyhoeddir y fideo ar-lein fel y gall pawb edrych arno a phleidleisio drosto, felly cofiwch hynny pan fyddwch yn recordio. Bydd hyd y fideo yn dibynnu ar y math o eitem y byddwch yn ei gyflwyno, ond cadwch eich cynulleidfa mewn cof: os bydd yn rhy fyr, efallai na wnaiff ddangos eich holl ddoniau; os bydd yn rhy fyr, efallai na wnnt wylio’r cyfan.
Os nad oes camera fideo ar gael i chi, efallai y gall eich gr?p golygyddol CLIC lleol gynorthwyo. Efallai y byddwch yn dymuno golygu eich fideo cyn ei anfon. Gallwch ddefnyddio nifer o raglenni rhad ac am ddim i wneud hyn, megis Windows Movie Maker (PC), iMovie (Apple Mac) a Kdenlive (Linux).
Pa fath o bethau ydych chi’n eu ceisio?
Unrhyw beth a phopeth! Dyma rai o awgrymiadau o’r perfformiadau y gallwch eu cyflwyno, ond mae’r rhestr yn ddiddiwedd:-
- Comedi gan ddigrifwr ar ei draed
- Comedi ar y pryd
- Dynwarediadau
- Triciau hud a lledrith
- Crefftau ymladd/styntiau (byddwch yn ofalus!)
- Gwaith celf ar y pryd (gwawdluniau, cerflunio, neu efallai rhywbeth mwy anghyffredin fel arlunio ar dafell o dost)
- Perfformio gydag anifeiliaid anwed
- Barddoniaeth neu llefaru
- Rap
- Sesiwn DJ
- Canu/ysgrifennu caneuon
- Symudiadau dawns
- mae’n rhestr ddiddiwedd
MAE’R PLEIDLEISIO BELLACH WEDI CYCHWYN
Anfownch eich eitemau at clicstar@cliconline.co.uk heddiw!
Llun: westy559