Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Yr Obsesiwn Corff

Postiwyd gan archifCLICarchive o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 11/08/2010 am 13:44
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Iechyd, Pobl

  • obses

English version

Edrychiad. Pwnc sensitif i nifer ohonom. Pan ofynnir am ein barn onest o’n hunain, ychydig fyddai yn rhoi ymateb cwbl positif. Pam?

Mae’r byd Gorllewinol yn gosod cymaint o werth ar ein golwg. Mae mynediad hawdd at gyngor ar sut i golli pwysau yn sydyn, sut i gael corf ffit, sut i wisgo i guddio dy lympiau erchyll. Rwyt o hyd yn cael dy fwrw gyda delweddau o ddynion a marched perffaith, di-nam ar gloriau cylchgronau a phosteri.

A nawr, diolch i’r symudiadau ymlaen yn y byd meddygol, gall hefyd gael y wyneb a chorff perffaith, heb ymdrechu i ddilyn diet ac i gyd am ychydig filoedd o bunnoedd. Gall cael llawfeddygaeth i newid bron pob rhan o dy gorff, o dwcio bola i fyrhau bysedd traed. Ond mae’r obsesiwn hwn yn niweidiol iawn. Mae pobl sydd eisiau llwyddo yn y diwydiant modelu yn teimlo pwysau i golli pwysau felly maent yn datblygu anorecsia nerfosa, anhwylder meddwl sydd yn achosi’r dioddefwr i stopio bwyta. Ond mae’r pwysedd hyn yn cael ei deimlo gan bron i bob person yn y Gorllewin i raddau. Efallai yn fwyaf poenus, i bobl ifanc.

Mae pobl ifanc, yn enwedig marched, yn ymdrechu i anwybyddu’r pwysedd parhaol i edrych mewn ffordd benodol. Mewn gwirionedd, mae’n debygol fod 1-3% o ferched ifanc yn dioddef o bwlimia nerfosa ym Mhrydain. Mae hwn yn anhwylder meddwl niweidiol arall lle mae’r dioddefwr yn binjo ar fwyd ac yna’n gwneud eu hunain chwydu i gael gwared ’r bwyd maent newydd ei fwyta o’u corff.

Mae’r bobl yn y Gorllewin yn cael eu tagu gan yr angen i edrych yn brydferth. Ond ble mae’r rhyddhad? Oes mae llinellau cymorth a gwefannau cyngor i helpu ti gyda’r effaith o’r obsesiwn afiach hwn, ond mae’r ffaith yn wir ein bod yn ymdrechu am berffeithrwydd, y bwriad amhosibl. Mewn byd ble mae pobl yn dal yn dioddef o ddiffyg yr anghenion sylfaenol i fyw ac yn marw’n ddiangen, ydy hi’n gwbl anghywir i roi gymaint o sylw i, ac adnoddau i, ein hedrychiad? Byddai’r rhan fwyaf ohonom, yn dweud, wel, yndi, mae hi’n anghywir iawn i dalu am lawfeddygaeth ddiangen i newid dy olwg pam mae miliynau o bobl yn marw o newyn.

Yna pam ydym ni yn gwneud hyn? Os yw mor niweidiol, pan na allem dderbyn pwy ydym ni gan gynnwys ein ‘diffygion’? Mae’r ateb i’w gael yn y gair derbyniad. Ydy hi’n naturiol i ninnau ffeindio nam mewn pobl, ddim i ddathlu beth ydym ni? Efallai. Ond efallai mai’r rheswm ydy fod y cyfryngau yn archwilio pob agwedd o fywydau selebs, felly rydym ni o dan bwysau i wneud yr un peth. Ydw i yn rhy dew? Ydy fy nghlustiau yn rhy fawr? Ydy fy nhrwyn yn rhy gam?

Ond efallai ei fod yn fwy nag hyn, efallai am ein bod gwastad yn clywed fod rhaid i ni asesu ein hunain yn ein bywydau bob dydd. Nid yn unig yn y cyfryngau. Ond yn y gwaith a’r ysgol. Yn meddwl yn gyson am beth gall gael ei wella yn ein perfformiad academaidd. Ac adref gall gael dy farnu gan dy deulu a dy ffrindiau. Felly ein hymateb ni, os ydw i’n archwilio fy hun ar lefel academaidd a phersonol, yna fe ddylwn fod yn archwilio fy ngolwg hefyd. Heb dderbyn pwy ydym ni, ni all dderbyn ein hedrychiad.

Ond nid yw’n hawdd cyrraedd derbyniad personol , mae’n broses hir iawn, ond yn un hirach fyth i gymdeithas cyfan newid ei feddylfryd. Efallai ei fod yn anghyraeddadwy; efallai ei fod mor gynhenid yn ein cymdeithas nad fydd byth yn newid. Efallai fod dweud wrth rywun eu bod yn brydferth yn union fel y maent drosodd a throsodd ddim yn gweithio. Efallai mai dim ond yr unigolyn gall dderbyn eu hunain yn bersonol. Ond, os byddai cymdeithas yn newid, yna byddai’n dod yn hollol naturiol i dderbyn ein hunain. Ni fyddem yn amau ein bod yn brydferth. Cyn gynted ag y gallem dderbyn ein gilydd ac ein hunain fel pobl, yna gallem dderbyn beth rydym yn ei weld yn y drych.

Gwybodaeth >> Iechyd >> Maetheg a Gweithgarwch Corfforol >> Anhwylderau Bwyta

Erthyglau Perthnasol

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50