Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Yr Iseldiroedd 2 - 0 Cymru

Postiwyd gan FalseNine o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 05/06/2014 am 09:26
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Chwaraeon a Hamdden

  • Dau bêl-droediwr yn taclo am y bêl

English version // Yn Saesneg

  • Robben a Lens yn sgorio i'r Iseldiroedd
  • Chester, Dummett a Williams yn cael gêm gyntaf i Gymru
  • Allen yn gapten ar Gymru am y tro cyntaf
  • Gêm ryngwladol cartref diwethaf Van Gaal mewn rheolaeth o'r Iseldiroedd

Mae'r Iseldiroedd yn hwylio am Frasil gyda buddugoliaeth gyfforddus, os nad diflas, dros dîm diffygiol Cymru.

Agorodd Arjen Robben y sgorio yn y 32 munud, yn gorffen yn siarp gydag ymdrech tro cyntaf ar ôl i Wayne Hennessey roi pen-glin fawr yn ffordd 'blooter' Robin Van Persie ger y post.

Yna llwyddodd y meistr newid cyfeiriad pen moel greu'r ail wrth groesi i Jeremain Lens, lwyddodd i'w dapio i mewn o bellter agos yn y 76 munud.

A dyna ni, heblaw am tua 500 o amnewidiadau. Roedd cyfleoedd yn eithaf prin i Gymru - gydag un o oreuon Charlton Athletic, Simon Church, ar ben ei hun yn y top wedi'r cwbl - ond roedd yr eilydd George Williams yn rhedeg slalom i mewn i'r bocs, heibio tri amddiffynnydd wrth wneud hynny, yn uchafbwynt. Yn anffodus roedd Ron Vlaar yn gorfod sbwylio beth allai fod wedi bod yn gôl gyntaf cofiadwy i'r crwt o Fulham.

Roedd yna wastad y perygl bod Cymru fel oen i'r lladdfa yn y gêm yma gydag absenoldeb talentau serol Gareth Bale ac Aaron Ramsey a hefyd y dewis cyntaf o bariad canol cefn o Ashley Williams a James Collins, ond roedd Cymru yn llesteirio'r Iseldiroedd a'r cefnogwyr am rannau mawr o'r gêm.

Colled yw colled yw colled ond gall rheolwr Cymru, Chris Coleman, ymfalchïo o berfformiad gweddus yn erbyn tîm chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan Byd 2010 ac roedd yn ymarfer corff da i rai o'r chwaraewyr ar yr ymylon yn y sgwad cyn gemau i ennill lle yn Euro 2016 yn yr Hydref.

Mae gêm nesaf Cymru oddi cartref yn Andorra ar ddydd Mawrth 9fed Medi 2014, y gêm gyntaf yn yr ymgyrch cymhwyso, dylai fod ychydig yn haws na'r gêm Iseldiroedd oddi cartref.

A gan ein bod yn siarad am sildynnod pêl-droed Ewropeaidd, weles di'r tafliad i mewn gan un o chwaraewyr Lwcsembwrg neithiwr?

Clicia yma am fwy o erthyglau pêl-droed ar theSprout.co.uk

Gwybodaeth - Pêl-droed

Digwyddiadau - Mehefin 2014: Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout

Sefydliadau - Chwaraeon Caerdydd

DELWEDD: FAW Facebook

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50