Yn Cyflwyno: archifCLIC
Rydym wedi bod yn brysur yn diweddaru CLICarlein y tu ôl i'r llenni, gan gynnwys twtio hen gynnwys ac yn archifo defnyddwyr sydd ddim yn defnyddio'r gwefannau bellach
Beth mae hyn yn ei olygu?
Bydd cyfrifon aelodau CLICarlein sydd ddim wedi mewngofnodi yn y 12 mis diwethaf (ers Hydref 2013) yn cael eu hanablu, a bydd cyfrifon y rhai sydd ddim wedi mewngofnodi yn 24 mis diwethaf (ers Hydref 2012) yn cael eu dileu.
Bydd y defnyddwyr yma yn gweld y neges ddilynol wrth geisio mewngofnodi:
Wps, sori... ti ddim wedi mewngofnodi ers hir iawn felly dydy dy gyfrif ddim yn bodoli bellach. Ond hei - gall cofrestru eto yma, neu gysylltu gyda ni yma".
Bydd unrhyw erthygl sydd wedi'i gyflwyno gan ddefnyddwyr CLIC sydd ddim wedi mewngofnodi yn y 24 mis diwethaf yn cael eu symud a'u rhestru dan yr enw 'ArchifCLICarchive'.
Os yw hyn yn dy effeithio di yna cysyllta gyda ni a byddwn yn ceisio adfer dy gyfrif gwreiddiol.
Rydym yn parhau i geisio meddwl beth i wneud gyda hen sylwadau (yn hytrach nag dileu yn unig) felly rydym yn croesawu unrhyw farn sydd gen ti. Unwaith byddem wedi penderfynu byddwn yn gadael i ti wybod.
Erthyglau - Categorïau - Technoleg
Ar y We - Gwybodaeth Diogelwch
Delwedd: Kerem Tapani trwy Compfight cc