Ymuna â'r Bwrdd Cyfiawnder Teulu Pobl Ifanc
Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Teulu Pobl Ifanc (BCTPI) yn cefnogi gwaith y Bwrdd Cyfiawnder Teulu (yn Lloegr a Chymru), yn galluogi pobl ifanc i gael llais uniongyrchol yn y ffordd mae gwasanaethau Cyfiawnder Teulu i blant a phobl ifanc yn cael ei redeg.
Mae'r BCTPI yn recriwtio aelodau newydd i'r Bwrdd ar hyn o bryd, mae angen i ti fod yn 7 oed neu'n hŷn a bod â phrofiad o lysoedd teulu. Gall hyn fod oherwydd gwahaniad rhieni neu yn byw mewn gofal ac/ neu wedi gadael gofal.
Mae aelodau'r Bwrdd yn cael eu talu am bob awr ac os wyt ti yn cael dy apwyntio i'r bwrdd ac rwyt ti dros 16 oed bydd yr arian yn cael ei dalu yn syth i dy gyfrif banc. Os wyt ti'n 16 oed neu'n iau neu heb gyfrif banc yna byddi di'n cael dy dalu gydag amrywiaeth o dalebau.
Dyddiad cau ceisiadau 31 Hydref 2014.
Ar hyn o bryd nid oes person ifanc Cymraeg ar y Bwrdd felly mae hyn yn gyfle grêt i alluogi cynrychiolaeth Cymraeg ar y Bwrdd a chael dweud dy ddweud yn y ffordd mae gwasanaethau Cyfiawnder Teulu yn cael ei redeg.
Clicia yma i ddarganfod mwy ac i gael mynediad i'r ffurflenni cais
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau, ac ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau, gyrra nhw i Claire.evans@cafcass.gsi.gov.uk sef gweinyddwr yr BCTPI i GCCLBT Lloegr.
Eisiau ennill crys-T Sprout? Llenwa Arolwg Boddhad theSprout!
Digwyddiadau - Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout: Hydref 2014
Gwybodaeth - Pobl Yn Dy Fywyd - Gwahanu a Cholled
Digwyddiadau - Cyfarfod Sprout & About: Hydref 2014
Sefydliadau - Uned Cymorth Personol
Gwybodaeth - Pobl Yn Dy Fywyd - Derbyn Gofal
Gwybodaeth - Y Gyfraith a Hawliau
Delweddau: Me2 (Me Too) trwy Compfight cc