Ymchwiliad i Gyffuriau Penfeddwol Cyfreithiol
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn edrych i mewn i'r mater o sylweddau seicoweithredol newydd – a cyfeirir atynt hefyd fel Cyffuriau Penfeddwol Cyfreithiol – yng Nghymru.
Fel rhan o'i ymchwiliad mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am wybod beth yw dy barn di am ddiogelwch cyffuriau cyfreithlon, faint ydwyt yn gwybod amdanynt, os ydwyt yn gwybod sut i gael gafael arnynt ac os ydwyt yn ymwybodol o'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd wedi cymryd cyffuriau cyfreithlon.
Gallu di dweud dy ddweud drwy gwblhau ein harolwg fan hyn https://www.surveymonkey.com/s/inquiry-into-legal-highs
Ar ddiwedd yr ymchwiliad bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu adroddiad gydag argymhellion i Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar y dystiolaeth a dderbyniwyd.
Erthyglau Perthnasol:
Stori Am Sylweddau Penfeddwol Cyfreithiol
Dydy Cyfreithiol Ddim Yn Golygu Diogel
Cyffuriau a Iechyd Meddwl
Erthyglau>> Categoriau >> Cyffuriau
Cael gwybodaeth ar Gyffuriau:
Gwybodaeth>> Iechyd >> Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau
Cofia gallu di gysylltu â MEIC am ddim, unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, i gael gwybodaeth a chyngor am gyffuriau neu amrywiaeth o bynciau eraill.
Os ydwyt yn poeni y gallai ffrind fod wedi cymryd gorddos, neu'n cael trip gwael, dylet ffonio 999 ar unwaith.