Y Weirdo?
Wyt ti erioed wedi bod mewn sefyllfa pan mae rhywun sydd yn pasio yn cael ei bwyntio at gan eraill, sydd yn gweiddi “ffrc” neu debyg?
Neu wyt ti’n un o’r bobl sydd yn pwyntio? Neu hyd yn oed y ‘ffrc’ ei hun? Ble wyt ti’n perthyn?
Dwi’n perthyn yn y categori ffrc/weirdo.
Ond nid yw’n poeni fi pam mae hynny yn digwydd. Coelia neu beidio dwi’n mwynhau’r math sefyllfa yma gan ei fod yn gwneud i mi deimlo’n unigryw ac yn dangos fy mod i'r person dwi eisiau bod, nid beth mae pobl eisiau i mi fod.
Tyllau gemwaith, esgidiau mawr, dillad od, lliwiau gwallt llachar, colur anghyffredin. Mae hyn i gyd yn fi, i gyd yn od, i gyd yn annormal.
Dwi wastad yn cael pobl wahanol yn dweud wrthyf nad ydw i yn bod yn fi fy hun drwy fod yn od, byddwn yn edrych yn llawer gwell os byddai fy ngolwg yn fwy normal. Dwi’n parchu ei barn nhw os ydy fy marn i yn cael ei barchu ganddyn nhw.
Ond beth sydd yn normal beth bynnag?
Mae’r geiriadur yn diffinio normal fel ‘cydymffurfio gyda, glynu wrth, neu sefydlu norm, safon, patrwm, lefel, neu deip; arferol: tymheredd ystafell normal; pwysau normal rhywun; perthnasau diplomyddol normal’.
Glynu wrth safon? Arferol? Yna lle mae unigoliaeth; agregu ansawdd, a nodwedda sydd yn gwahaniaethu un person neu beth o’r lleill; cymeriad (hefyd wedi’i ddiffinio yn yr un geiriadur).
Cymeriad! Dwi’n gweld fy hun fel bod efo cymeriad.
Ni fyddwn i byth eisiau cael fy ngalw yn normal, dwi ddim yn gweld pam fyddai unrhyw un eisiau! Pam fyddai rhywun eisiau eraill yn dweud eu bod nhw ddim gwahanol i unrhyw berson arall.?
Ar ddiwedd y dydd, dwi’n weirdo balch, yn cerdded i lawr y stryd.