Y 5ed Blog NadoCLIC
English version
O ddydd Llun 13 i ddydd Gwener 24
Rhagfyr, bydd CLIC efo blog gwestai gwahanol bob dydd Y 12 Blog
NadoCLIC - ffaith! Dyma’r pumed
Dwi erioed wedi cael siwmper Nadolig.
Y peth tebycaf dwi wedi’i gael oedd pan gefais i siwmper Kickers yn Nadolig 1997.
Hwn oedd y Nadolig goraf erioed (cefais hefyd bag ffa gyda logo'r Spice Girls drosto i gyd) a dwi’n sicr mai’r unig beth allai dwysau’r pleser llwyr ydy os byddair siwmper (neu’r bag ffa i ddweud y gwir) wedi cael ei weu gyda llaw a’i haddurno gyda phluen eira doji.
Yn anffodus dwi ddim efo mam-gu sydd yn gweu, a heblaw am fabwysiadu un sydd yn cludo gweillen dros y Nadolig a phechu fy mamau-gu biolegol yn ofnadwy, dwi ddim am dderbyn unrhyw wln wedi’i wneud llaw yn fuan.
Cychwynnodd fy awydd tanbaid am siwper Nadolig ar l i Seth Cohen droi ‘sweter’ print ceirw i mewn i ddarn o ‘geek chic’ roedd pawb eisiau yn y bennod Chrismukkah (cyfuniad o’r Nadolig Cristion a’r Hanukkah Iddewig) o’r rhaglen pobl ifanc semenol, The O.C. (gweler fideo).
Fe ddaeth y siwmper Nadolig, a oedd unwaith yn cael ei dirmygu, yn cŵl a gall ei weld mewn amryw ddiwyg dros gyfnod y Nadolig, heblaw am arnaf i.
Mae hyd yn oed y dylunwyr mawr wedi sylwi ar hyn, ond maen nhw’n galw nhw’n siwmperi Fair Isle mewn ymgais i fod yn goeth. Mae D&G efo fersiwn crop eithaf deniadol gyda phris weddol aneniadol o £250, a dwi’n hoffi’r Alexander McQueen yma eithaf hefyd.
Mae yna hefyd fersiynau perffaith digonol ar y stryd fawr, ond mae prynu siwmper Nadolig newydd yn mynd yn erbyn yr ethos o beth mae siwmper Nadolig yn cynrychioli beth bynnag. Fe ddylai fod yn cosi, wedi boblo ac yn taci, yn bendant yn ail-law a gorau gwell o siop elusen.
Wedi edrych dros ebay ac yn yr elusennau lleol, fe ddos o hyd i’r siwmper Nadolig perffaith (gweler llun). Nid dyma oeddwn i wedi bod yn chwilio amdano; mae’n well. Mae’n ymddangos fel ei fod wedi’i wneud allan eira gwln cotwm ffug ac efo addurn gosod dyluniad blodyn glitsi ar y blaen, gydag amlinell aur sydd yn edrych fel ei fod wedi’i liwio gyda beiro glitr gwael.
Byddaf yn ei wisgo ar ddiwrnod Nadolig, yn saff yn y gydwybod fod fy chwiliad am y siwmper berffaith dros y blynyddoedd, o’r diwedd wedi dod ac un i mi sydd yn waeth o ran chwaeth i bob un arall.
Ond ydy o? Oes gen ti un gwell? Os felly gyrra luniau i ryan@cliconline.co.uk, byddwn wrth ein boddau gweld nhw!
Mae Loren yn wirfoddolwr Sprout wythnosol sydd yn blogio ar ffasiwn a Chaerdydd.