Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Wyt Ti'n Teimlo'n Ddiogel Ar-lein?

Postiwyd gan Safer Internet Day // Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel o Gwynedd - Cyhoeddwyd ar 31/03/2014 am 10:19
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Addysg, Iechyd, Pobl, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Chwaraeon a Hamdden, Technoleg, Materion Cyfoes

  • fraud

English version // Yn Saesneg

*Dydd Llun, 31 Mawrth 2014 ydy dy gyfle olaf i lenwi'r holiadur*

Pa mor ofalus wyt ti pan ddaw at ddefnyddio'r rhyngrwyd? Wyt ti'n gwneud yn siŵr bod popeth ti'n ei wneud ar-lein yn cael ei gadw rhyngot ti a dy ffrindiau ta ydy popeth yn agored i bawb weld beth wyt ti'n ei wneud?

Wyt ti'n poeni am fwlio seibyr? Yn poeni am ba mor fregus wyt ti ar-lein?

Wel mae'r rhain yn fath o beth rydym ni eisiau gwybod amdano.

Mae llawer o sôn wedi bod yn y cyfryngau yn ddiweddar am beryglon y rhyngrwyd ac yr angen am ymwybyddiaeth ac addysg e-ddiogelwch gwell yn yr ysgolion, a dyma'n union rydym ni'n ceisio holi amdano.

Mae'r South West Grid for Learning ynghyd â ProMo-Cymru a Phrifysgol Plymouth eisiau darganfod mwy am e-ddiogelwch pobl ifanc yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Cychwyn hyn fydd arolwg i gael syniad o beth yw'r sefyllfa yng Nghymru. Mae yna dri arolwg wedi cael eu creu. Un i blant a phobl ifanc 0-18 oed; un i rieni ac un i bobl broffesiynol sydd yn gweithio gyda phobl ifanc.

Bydd holl ymatebion yr arolwg yn cael ei gasglu a bydd adroddiad gwerthuso'r dirwedd yn cael ei greu, ac o hyn bydd awgrymiadau yn cael eu gwneud bydd wedyn yn mynd ymlaen i helpu creu cwricwlwm e-ddiogelwch yng Nghymru.

Felly mae dy farn di yn bwysig i ni, gan mai pobl ifanc fel ti fydd yn gallu dweud wrthym ni beth yw'r gwirionedd yng Nghymru a beth sydd wir angen ei wneud er mwyn amddiffyn pobl ifanc fel ti a phobl ifanc y dyfodol. Efallai nad ydwyt ti wedi cael dy effeithio ond yn sicr mae bron iawn i bawb yn adnabod neu wedi clywed am rywun sydd wedi cael eu poeni gan rywbeth sydd wedi digwydd ar y rhyngrwyd.

Arolwg bach iawn ydyw felly ni fydd yn cymryd mwy na phum munud o dy amser ond gallai helpu wneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch pobl ifanc Cymru ar y rhyngrwyd.

I ddarganfod yr holiadur cywir i ti ymwela â'r dudalen hon.

Os wyt ti eisiau gwybod mwy am gadw dy hun yn ddiogel ar-lein yna ymwela â'r dudalen Diogelwch Ar-lein.

Os wyt ti'n poeni am unrhyw beth ac angen siarad gyda rhywun yna gall Meic, y llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc Cymru, helpu ti. Gall alw'r llinell gymorth am ddim ar 080880 23456, gyrru neges testun i 84001 neu sgwrsio gyda nhw ar-lein ar www.meiccymru.org. Bydd yr holl wybodaeth ti'n ei roi yn gwbl gyfrinachol.

Delweddt: David Gaz trwy Compfight cc

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50