Targedau Cignoeth
Mae theSprout.co.uk yn gweithio gydag Adfywio Cymru i greu cyfres o erthyglau sydd yn annog pobl ifanc i gymryd gweithred fentrus yn erbyn newid hinsawdd. Os wyt ti wedi cael dy ysbrydoli i ysgrifennu neu greu rhywbeth, gallet ei gyflwyno yma.
Dwi erioed wedi ystyried bod yn llysieuwr.
Mae yna filiwn ac un o resymau pam na ddylaf ildio i'r tyniad tuag at dywynnu pontydd euraidd yr arwydd McDonalds, ond dwi yn. Yn aml. Mae'r ffordd maent yn lladd anifeiliaid, amodau gweithio amheus a'r monpoleiddio mae McDonalds yn rhan ohono heb air o ymddiheuriad yn cael ei anwybyddu wrth i'r brathiad cyntaf o'r Big Mac ryddhau dos o dopamin i'm hymennydd. Ni ddylai fod, ond: 'I'm lovin' it'.
"Ydy, mae hynna’n cynnwys awyrennau."
Yn ddiweddar dwi wedi darganfod clwyd arall i'r haid. Bras amcanwyd bod y fuwch gyffredinol yn cynhyrchu'r un lefel o ollyngiadau nwyon tŷ gwydr â char teulu. Mae adroddiadau diweddaraf Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth yr UN yn awgrymu bod anifeiliaid yn gyfrifol am 18% o ollyngiadau nwyon tŷ gwydr wedi'u cynhyrchu gan ddyn, sydd o gwmpas yr un faint ag cludiant y byd i gyd, ac ydy, mae hynny'n cynnwys awyrennau.
Sut mae hyn yn bosib? Methan.
Yn anhygoel, mae'r nwy drewllyd yma sydd yn cael ei ollwng ohonom yn wirfoddol ac yn anwirfoddol o bryd i'w gilydd yn achosi cymaint o niwed i'r amgylchedd ag y mae ceir, trenau, cychod ac awyrennau'r byd. Pan welais yr ystadegyn yna am y tro cyntaf, roeddwn i'n ei chael yn anodd ei gredu, ond pan ti'n ystyried ein bod yn bridio 65 biliwn o anifeiliaid y flwyddyn er mwy iddynt orffen eu bywyd ar ein plât, yna mae'n haws i'w gredu wedyn. Mae methan yn nwy tŷ gwydr sydd yn 25 gwaith, ia 25 gwaith, yn fwy cryf nag deuocsid carbon a rhywbeth arall gallai beri syndod ydy nad yw gwartheg yn niweidio'r amgylchedd trwy eu pen ôl, ond mae'n dod allan wrth iddynt dorri gwynt (afiach!).
"Efallai nad ydynt yn begwn disglair moesoldeb"
Mae ein cwmpawd moesol yn cael ei fwrw tua'r de i mewn i dwmpath ansicr o wrtaith wrth i ni ddechrau ystyried beth allai fod y ffordd fwyaf effeithlon o ran egni i gadw anifeiliaid. Mae methan yn cael ei gynhyrchu gan anifeiliaid fel gwartheg a defaid oherwydd gwair. Pan fydd yr anifeiliaid yma yn bwyta gwair, mae'n cael ei drosi i fethan, ac felly mae yna achos cryf i ddadlau bod anifeiliaid sy'n cael eu bridio yn ddwys, mewn ffermydd dan do effeithlon o ran egni gyda diet llym o Å·d ac ychwanegiadau, yn llawer mwy ecogyfeillgar. Efallai nad yw'r rhai sydd ddim yn prynu wyau organig neu faes (free-range) ddim yn begwn disglair moesoldeb, ond maen nhw, yn ddadleuol, yn fwy call yn amgylcheddol.
Gyda ffeithiau a ffigyrau wedi'u cyflwyno mor galed â hyn, mae'n anodd hawlio dy fod di'n poeni am yr amgylchedd wrth i ti barhau i fwyta cig heb fod yn rhagrithiwr. Efallai dy fod di'n ailgylchu trwy'r adeg, efallai bod gen ti baneli solar wedi'u gosod ar dy dŷ, mewn ugain mlynedd efallai byddi di wedi newid i gar trydan, ond fyddi di byth yn poeni digon i aberth dy gig eidion rhost tyner ar nos Sul? Mae yna ddewisiadau eraill adnewyddadwy ar gyfer y mwyafrif o egni rydym yn ei ddefnyddio, ond os nad ydym yn bridio anifeiliaid yn ddwys mewn amgylchiadau sylfaenol erchyll, yna ychydig iawn o ddewis sydd gennym ond i roi'r gorau i'w fwyta yn gyfan gwbl. Wrth i bobl ddod yn gyfoethocach yn fyd eang dros y 40 mlynedd nesaf, rhagwelir bydd y 65 biliwn o anifeiliaid rydym yn ei fridio i fwyta yn dyblu, sydd yn golygu bydd tua 18 o anifeiliaid y flwyddyn yn cael ei ladd i bob un person ar y blaned. Nid oes rhaid bod yn fegan i sylweddoli nad yw hyn yn gynaliadwy.
"Dwi ddim yn barod i stopio bod yn rhagrithiwr eto"
Hyd yn oed ar ôl i mi geisio fy ngorau glas i wneud i ti deimlo'n ddrwg am fwyta cig, dwi ddim yn barod i stopio bod yn rhagrithiwr fy hun eto. Ond mae wedi gwneud i mi feddwl, efallai ei bod yn hen amser i mi symud ymlaen o wartheg. Mae yna gamau bach i ni sydd wedi bwyta cig erioed. Mae angen 28 gwaith mwy o dir i gynhyrchu cig eidion nag sydd ei angen i borc neu gyw iâr, 11 gwaith mwy o ddŵr a gyda phum gwaith mwy o allyriadau cynhesu'r hinsawdd. Yn fwy ecogyfeillgar nag porc a chyw iâr mae cregyn gleision, gydag ôl troed carbon 20 gwaith yn llai eto, gyda'r bonws ychwanegol mai ychydig iawn o egni sydd ei angen i'w symud o'r môr i'n platiau.
Os wyt ti'n barod i dynnu cig allan o dy ddiet yn barod, yna rwyt ti'n ecoryfelwr a dwi'n dy saliwtio. Os ddim, efallai gallet ti ddod yn eco-fysgedwr a meddwl am gig fel trît, yn ei fwyta ar benwythnosau yn unig. Os nad yw'r un o'r opsiynau yma yn gweddu, yna mae yna un opsiwn arall, gallet ti fod yn eco-cyw iâr os wyt ti'n cael gwared ar y Big Mac a chael McNuggets yn lle hynny.
Erthygl wreiddiol ar gael yma.
Perthnasol:
Erthyglau - Hidlo Erthyglau - Adfywio Cymru
Erthyglau - Categorïau - Amgylchedd
Erthyglau - Hidlo Erthyglau - Newid Hinsawdd
Gwybodaeth/Cyngor - Amgylchedd - Egni
Adroddiad 5ed Asesiad yr IPCC (2013)
Digwyddiadau - Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout Medi 2014
Delweddau: Twitter Photo Section (pontydd aur); Mike Licht trwy Compfight cc (buwch ar glôb)
Eisiau ennill crys-T Sprout? Llenwa Arolwg Boddhad theSprout!
Efo newyddion, ymgyrchoedd, barn, ysgrifennu creadigol neu adolygiadau i rannu? Cyflwyna nhw i ni yma.
Mae'r holl erthyglau yn cael eu cyfrannu gan bobl ifanc a sefydliadau sydd â ffocws ieuenctid, i bobl ifanc.