Syrcas Y Chinese State
English version
GEIRIAU: Danny Champken (Gr?p Golygyddol theSprout)
Mewn ffrwydrad o ddiwylliant, lliw a pherygl roedd y Chinese State Circus yn tra-arglwyddiaethu'r New Theatre yng Nghaerdydd wythnos diwethaf, yn aml yn gyrru'r gynulleidfa i mewn i ffitiau o barch a chyffro.
Yn cynnig rhywbeth at ddant pawb, roedd y rhaglen yn amrywiol yn ei drosglwyddiad, ond yn gwirioni pawb gyda phob troad.
O'r sgiliau heb ei thebyg a disgyblaeth y Milwyr Wu-Shu Shaolin, i'r gallu troi stumog o'r ystumwyr, wedi cymysgu swyn rhyfeddol y ddawns llew, roedd y perfformiadau yn peri syndod.
Heb ymddiheuriad, maent yn ffyddlon i holl arferion arddangosfa ddiwylliannol Tsieineaidd, ac roedd y sioe syrcas theatr yn cael ei gyflwyno o dan lygaid craff y Brenin Mwncod, ac roedd ei adrodd, oedd wedi'i drosleisio yn eithaf comig, yn darparu addysg y darn.
Roedd ei gyflwyniad yn gosod yr olygfa i fedru deall a gwerthfawrogi tarddiad perfformiad Tsieineg, ac roedd yn helpu'r sioe, a'n dealltwriaeth ohono, i ddatblygu hyd at yr arddangosfa dyddiau modern yn yr ail ran.
Efallai mai'r perfformiad mwyaf trawiadol oedd y platiau troelli. Daeth saith o berfformwyr i'r llwyfan, pob un yn meistroli dim llai na deg o'r disgiau troelli ar ffyn ac yn ymddangos yn esmwyth iawn.
Fel na petai hyn yn ddigon anhygoel, aethant ymlaen i berfformio campau acrobatig mwyaf syfrdanol, wrth gadw uchder a throelliad y platiau. Nid fi yn unig oedd wedi syfrdanu yn glywadwy.
Cafwyd ebychiadau cyfleus o ofn a gwerthfawrogiad yn y darn galwyd yn 'Hats Off!' pan roedd perfformiwr yn lluchio potiau planhigion yn beryglus o uchel i'r awyr, ac yna yn dal nhw ar gefn ei ben.
Roedd yr ychydig eiliadau o arswyd, pan oeddem yn disgwyl gweld y potiau o leiaf yn malu, os nad pen y dyn, yn ddigon i blesio llawer, a dychryn llawer mwy.
Yn glir roedd hyn wedi'i ymarfer yn dda iawn ond dal gydag arddull edrychai'n rhwydd, mae'r Chinese State Circus yn wledd i bawb, ac yn saib croesawus oddi wrth yr hen drefn.