Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sweden Yn Galw

Postiwyd gan National Editor o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 08/03/2013 am 11:41
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwaith a Hyfforddiant, Yn Gymraeg

English Version

Mae ceisiadau am y cyfle hwn wedi gau bellach

Ffansio wythnos yn Sweden, treuliau i gyd wedi talu?

Bydd dau berson ifanc lwcus yn cynrychioli CLICarlein ac yn wir, Cymru fel rhan o ymgyrch ERYICA Youth on the Move - InfoMobility (YoMIM) codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwybodaeth ieuenctid.

Bydd y cwrs hyfforddi ar gyfer llysgenhadon ifanc yn cael ei chynnal yn Stockholm o'r 26ain - 31ain o Fai 2013. Bydd yna tua 20 o bobl ifanc yn mynychu o amryw o wledydd yn Ewrop.

Bydd y teithio, bwyd a'r llety wedi ei dalu i chi. I gyd fydd angen arnoch yw arian gwario tra eich bod chi yno.

Rydym yn chwilio am bobl ifanc rhwng 18 a 22 mlwydd oed a ganddynt brofiad positif o ddefnyddio gwybodaeth ieuenctid, ac yn ysgogol a digon hyderus i siarad yn gyhoeddus ar ran eu cymheiriaid ynglŷn â CLICarlein a gwybodaeth ieuenctid.

Amcanion y cwrs hyfforddi yw i:

  1. Datblygu'r rhwydwaith llysgenhadon ifanc i sicrhau ei fod yn parhau i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd hawliau pobl ifanc i wybodaeth trwy weithrediadau cyfoed i gyfoed.
  2. Cynyddu cymhwysedd a gallu pobl ifanc i ledu'r neges ymhlith pobl ifanc, penderfynyddion a'r cyfryngau ynghylch pwysigrwydd hawl pobl ifanc i wybodaeth.
  3. Cryfhau'r cydweithrediad rhwng pobl ifanc sy'n dod o wahanol rannau o Ewrop drwy wella agweddau agored tuag at wahanol brofiadau diwylliannol.

Bydd ragor o gyfleoedd i'r llysgenhadon ieuenctid fod yn gysylltiedig â'r ddau ddigwyddiad yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill yn Ewrop.

Beth hoffwn ni i chi wneud:

  1. Gadewch sylwadau isod yn dweud wrthym ni pam yr hoffech y cyfle erbyn dydd Mawrth y 18fed o Fawrth
  2. Paratowch gyflwyniad pum munud ynglŷn â CLICarlein a pham mae'n bwysig i bobl ifanc
  3. Mynychu cyfweliad (gyda'r cyflwyniad) yn ystod y gwyliau Pasg yn ProMo-Cymru ym Mae Caerdydd

Os hoffech gael eich dewis, mae'n rhaid eich bod chi ar gael ar y dyddiadau uchod ar gyfer yr hyfforddiant a bod gennych basport dilys.

Gallwn ateb unrhyw gwestiynau penodol ynglŷn â'r hyfforddiant yn Stockholm yn y cyfweliad.

Darllenwch am taith hiyamynameissophie i Malta ar y daith ERYICA diwethaf

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gwyliau a Theithio

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Hawliau a Chyfrifoldebau

LLUN: mandolux trwy Compfight cc

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50