Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sut I Oroesi'r Chweched

Postiwyd gan dirty o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 20/10/2011 am 14:57
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Materion Cyfoes

  • mart

English version

Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Erthygl Fwyaf Defnyddiol yng Ngwobrau CLIC 2011.


Mae'r hydref wedi cyrraedd a rhai hyd yn oed yn dweud y gaeaf; rydym yn dechrau dod i ddeall pethau gyda'r flwyddyn academaidd.

Mae teimlad diddiwedd haf Indiaid mis Hydref cynnar wedi mynd ac yn ei le mae boreau bron yn rhewi, gwynt oer a'r glaw diflas.

Mae'r dyddiau yn byrhau a'r nosweithiau yn ymestyn a blys siocled yn dod law yn llaw hynny. Mae'r dyddiau a'u hyd yn newid fel caleidosgp ac mae'n chwarae hafog gydag ein corf; byddet ti'n meddwl, ar l miloedd o flynyddoedd, byddem ni wedi dod i arfer hyn. Ac rydym ni, i raddau, ond dyw gofynion coleg, prifysgol, ysgol a gwaith  ddim yn dod mor hawdd. Dwi (yn ddamweiniol) yn cadw rhai o'r oriau mwyaf anghymdeithasol adnabuwyd gan ddyn a dwi dal yn llwyddo cael presenoldeb da yn y coleg. Dyma ganllaw 'Sut I Oroesi Coleg', oherwydd dwi ddim yn meddwl fod theSprout wedi cael un eto! [Nodyn Is-Olygydd: Ar l chwilio trylwyr dyma yn debyg yw'r agosaf rydym wedi'i gael!]

1. Sylweddoli Nad Yw'r Coleg Fel Skins

Roeddwn i'n meddwl byddai fel hyn hefyd. Nid oes neb mor olygus mewn bywyd go iawn; fel rhai yn eu harddegau, mae mwy o groen drwg, mwy o ddrama ddiystyr ac mae pobl yn gorfod gwneud gwaith ym myd go iawn y chweched dosbarth a choleg. Nid oes neb yn gwisgo mor dda hynna chwaith; roeddwn i'n gwneud ymdrech am y misoedd cyntaf yn y coleg a nawr dwi'n lwcus os dwi'n deffro mewn amser a smwddio fy nillad. Roedd hwn yn beth mawr i mi.

2. Bwyd

Os ti ddim yn bwyta digon o fwyd, bydd dy lefelau egni yn gollwng yn ddramatig. Ni fyddet yn dysgu'n dda a bydd dy lefelau canolbwyntio yn gollwng yn llym. Nid yw coleg efo'r moethusrwydd o ffreutur gyda staff, felly ti'n gorfod gwneud y gorau o'r ardal gyfagos, a'r prisiau hefyd. Mae bwyd ysgol uwchradd yn cael ei gymorthdaledig gan y llywodraeth, a dyma sut gall rhywun  fwyta cinio am £2 y dydd a chael pwdin, felly os wyt ti yn y chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd, gwna'r gorau ohono. Dwi'n methu'r dyddiau pan allwn gael toesen cylch siocled am 45c a ddim cael gwenwyn bwyd.

Mae rhai chweched dosbarth a cholegau yn rhedeg dosbarthiadau yn ystod y nosweithiau; os mai dyma'r achos, yna byddi di'n cael egwyl o 20 munud hanner ffordd drwodd. Cer a phecyn bwyd gyda thi sydd yn llawn protein, carbohydrad a digon o dd?r; byddet yn amsugno mwy o'r wers a ddim yn teimlo'r angen i fwyta gormodaeth o sothach ar ddiwedd y wers. Byddet yn arbed cymaint o arian drwy wneud hyn. Er pa mor ddeniadol ydyw, cadwa draw o'r diodydd egni; maent yn hyfryd, ond yn farwol. Ychydig fel y ddynes yna yn y ffilm yna ble mae hi'n dwyn cwningen y dyn ac yn ei ferwi.

3. Rheolaeth Amser

Dwi'n defnyddio'r Cynllunydd Myfyriwr Palgrave ar gyfer rheoli fy amser. Nid yw'r coleg dwi'n mynd iddo, Caerdydd a'r Fro, yn gwneud cynllunwyr eu hunain yn y ffordd mae ysgolion uwchradd yn ei wneud,  ac ar l blynyddoedd o ddefnyddio un roedd fy mywyd yn disgyn yn ddarnau heb un. Mae'r cynllunydd yma efo darnau am sillafu, mathemateg, gwyddoniaeth, golchi, coginio, rhestr o bethau i wneud, targedau graddau, sawl uned sydd mewn pob diod ac ati. Dwi yn awgrymu hwn ar gyfer rheolaeth academaidd cyffredinol; pwy sydd angen gwaith cartref, erbyn pryd, a beth i ymchwilio.

Y peth gwaethaf i mi pan ddaw at waith ydy'r rhyngrwyd a'r teledu. Mae popeth yn ymwneud blaenoriaethau. Mae'r hwylustod teledu dal i fyny yn golygu gallet wylio unrhyw sioe ar Virgin Media hyd at 7 diwrnod ar l iddo'i ddarlledu, ac os ti'n gwsmer Sky+, gallet dapio dy sioe i'w wylio eto. Mae hefyd yr opsiwn o 4oD ac wrth gwrs, BBC iPlayer sydd ar gael ar-lein.

Clustnoda awr neu ddau'r wythnos am bob un o dy bynciau er mwyn gwneud gwaith cartref. Ni ddylai gymryd mwy o amser nag hyn, os nad dy fod di'n gwneud llawer o draethodau. Os felly, gwahana’r traethodau; mae'r mwyafrif o draethodau, yn enwedig Hanes ac Astudiaethau Crefyddol, yn dod mewn dau ran, "A" a "B", felly efallai canolbwyntio am 45 munud ar "A" , a 30 ar "B", gydag egwyl fach rhwng y ddau.

Os wyt ti'n sownd, paid bod ofn gofyn am gymorth; mae'n well gofyn am help nawr yn hytrach nag ychydig wythnosau cyn yr arholiad. Y ffordd yma, mae'r wybodaeth yn cael mwy o amser i suddo'i mewn i dy ymennydd a byddet yn deall llawer gwell. Dylai llyfrgelloedd ysgolion a cholegau gadw'r holl lyfrau testun ac unrhyw beth sydd yn mynd gyda nhw e.e. canllawiau adolygu a geiriaduron, yn enwedig os wyt ti'n fyfyriwr ieithoedd. Os nad oes ganddynt beth ti angen yna gallet ei archebu a rhoi gafael ar y llyfr. Os nad yw'r ysgol yn cynnig hyn (ac fe ddylai nhw, gyda llaw), mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerdydd yn bendant yn ei gynnig.

4. Trefniadaeth

Mae taflenni rhydd yn cael eu colli. Mae hyn yn syml; trefna dy ffolder y gorau gallet. Fel myfyriwr ieithoedd, dwi'n trefnu fy ffolder Ffrangeg i mewn i faes llafur, gwaith dosbarth (ac yna wedi ei isrannu i bynciau), hen bapurau, gramadeg a gwaith cartref. Dwi'n trefnu fy ffolder Hanes i mewn i waith dosbarth (wedi’i isrannu i bynciau), gwaith ffynhonnell, gwaith cartref a mapiau meddwl. Mae mapiau meddwl yn declyn defnyddiol iawn os wyt ti efo llawer o ddyddiadau a ffeithiau i ddysgu yn sydyn. Dwi hefyd yn awgrymu cardiau fflach. Mae'r meddwl yn gweithio'n dda gyda lliwiau gwahanol; paid ofni defnyddio amlygwr lliw weithiau!

5. Cydbwysedd Gwaith Ac Ysgol

Mae Lefel-A yn ymdrechgar iawn. Ymdrechgar iawn, iawn. Ond dyw hyn ddim yn golygu y dylai nhw redeg dy fywyd. Yn sicr, mae'n rhaid cysidro'r peth e.e. nid yw mynd allan i feddwi ac yn cychwyn am 9 y bore wedyn yn syniad da iawn, ond paid gadael iddo reoli pethau. Mae cymaint o bobl yn rhoi gorau iddi am eu bod wedi llosgi allan; gwna'n sicr nad wyt ti yn un ohonynt. Cael hwyl, cofia hynny. Os nad wyt ti'n cael hwyl pan ti yn y chweched, yna ti'n bendant yn gwneud rhywbeth o'u le.

Newyddion – Categorau – Addysg

Sefydliadau – Llyfrgelloedd Caerdydd
Sefydliadau – Coleg Caerdydd a'r Fro
Gwybodaeth – Addysg – Addysg l 16 – Coleg

DELWEDD: The Geocacher gan [martin]

Mwy o Erthyglau "Sut I"

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50