Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Stori Am Sylweddau Penfeddwol Cyfreithiol

Postiwyd gan AddictedToDrPepper! o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 09/12/2013 am 11:57
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl, Cyffuriau

  • cyff

English version // Yn Saesneg

Dwi erioed wedi ysgrifennu erthygl ar gyffuriau o'r blaen.

Hoffwn gychwyn drwy ddweud nad wyf yn arbenigwr ar gyffuriau, dim ond beth ydw i wedi'i weld drosof fy hun ydy hyn. Nid yw'n ddim i wneud â mi os wyt ti'n cymryd cyffuriau neu beidio, dim ond eisiau rhannu'r stori yma efo ti oeddwn i.

Roeddwn i wedi cadw hyn i ffwrdd tan yn ddiweddar: darllenais erthygl ar Vice am ganabis synthetig a'r effaith mae wedi cael ar rhai pobl yn America.

Mae'r erthygl yn siarad am y sgitsoffrenig 27 oed yma, amdano'n stopio cymryd ei feddyginiaeth a dechrau ysmygu'r stwff yma oedd yn cael ei adnabod fel 'Spice' ar yr adeg, ac fe gollodd hi'n llwyr a cherdded lawr strydoedd Florida yn chwifio bwyell o gwmpas yn bygwth pobl. Cafodd ei saethu gan yr heddlu yn hwyrach y noson honno.

Roedd hi'n ddigon i ofni fi ond wrth i mi ddarllen ymhellach, dysgais fod y stwff yma wedi arwain at rithweledigaethau dwys, crychguriadau (palpitations), anallu siarad, chwydu, cyfnodau seicotig, profiadau'n agos at farwolaeth,  paranoia, cynnwrf, cryndod, gorboethi a thrawiadau'r galon.

Roedd hyn yn dechrau swnio'n fwyfwy cyfarwydd wrth i mi ddarllen ymlaen ac yna darllenais ddyfynnod gan un o'r ffynonellau gyfrannodd i'r erthygl:

"Nid yw'n ddim i wneud gyda mariwana, " meddai. "Os wyt ti'n lwcus, mae'n cael ti'n 'super ****ing high'. Os ddim efallai byddi di'n crynu ar lawr ysbyty, neu'n rhedeg ar ôl dy gymdogion gyda rhywbeth siarp."

Ar ôl darllen hynny, roedd rhaid i mi stopio darllen am ychydig. Roeddwn yn teimlo'n sâl oherwydd dyma’r cof ddaeth yn ôl i mi.

Roedd hyn yn ôl yn yr haf, ac roedd fy ffrind a finnau mewn parti. Roedd pethau'n dechrau distewi o gwmpas pump y bore. Roedd pawb yn un ai'n cysgu neu'n anwesu ac yn pendwmpian. Ond roedd fy ffrind a finnau yn effro a daethom o hyd i fag bach o rywbeth roeddem ni'n meddwl oedd yn wîd ar y bwrdd. Yn tybio bod y person oedd yn berchen arno yn cysgu a gan ein bod ni allan ohoni yn barod, yn ifanc ac yn ddwl, penderfynom ei ysmygu ac yn bwriadu rhoi pum punt iddo yn y bore.

Ni chefais dim cyn i'm ffrind wagio'r ychydig ramau o'r stwff yma i mewn i un bong  a'i gymryd i gyd mewn un anadl. Tuchanais arno gan ei fod wedi'i gymryd i gyd ond ar ôl beth ddigwyddodd nesaf, dwi'n falch mod i wedi cadw'n glir.

Dechreuais deimlo awydd bwyd felly penderfynom gerdded i'r KFC ychydig filltiroedd i ffwrdd, ond cyn i ni adael, dechreuodd fy ffrind deimlo'n benysgafn. Dywedais wrtho eistedd i lawr ac ymlacio am funud fel y gallem fynd. A dyna pryd dechreuodd gyfogi, nid dyma'r tro cyntaf iddo wneud hyn, a dwi'n siŵr nad dim dyma fydd y tro diwethaf chwaith. Dywedais wrtho fod yr ystafell ymolchi o'i flaen, iddo gerdded yno a bod yn sâl i ni gael mynd.

Wrth iddo sefyll dechreuodd yr ystafell gyfan droi o'i gwmpas. Cafodd pwl o banig felly penderfynodd redeg am yr ystafell ymolchi ond gan ei fod allan ohoni'n gyfan gwbl, taclodd gadair ar ddamwain ar y ffordd a glanio ar ei wyneb ar y llawr. Tarodd y llawr mor galed fel bod ei gorff cyfan wedi bowndio oddi ar y llawr a chwydodd ymhobman wrth ddisgyn, gan lanio a'i wyneb i mewn ynddo.

Swnio'n ddoniol? Dwi'n gwybod fe chwarddais i pan welais hyn, nes iddo ddechrau ffitio, sgrechian a ffustio o gwmpas yn chwydfa ei hun am bedair awr hir.

Wyddwn i ddim beth i wneud. Ceisiodd pawb dawelu fi a dweud ei fod yn cael 'trip' drwg. Dwi erioed wedi teimlo mor ddiymadferth yn fy mywyd; gallwn i wneud dim. Gallwn i ddim cael yn agos ato heb fod eisiau bod yn sâl fy hun.

Nid wîd arferol oedd o wedi ysmygu, ond yr un canabis cemegol oedd y dyn yna wedi colli ei feddwl arno ac wedi marw. Ond nid Spice oedd ei enw, ond Exodus, mae hefyd wedi cael ei alw'n Annihilation, K-2, Pandora's Box, Atomic Bomb, Ultra Haze a Toxic Waste. Dim ond 1 gram o'r stwff yma sydd ei angen i wneud ti'n penfeddwol ac fe gymrodd ef tua 3 gram ohono'r noson honno. Dwi ddim yn meddwl ei bod yn anodd dychmygu sut olwg oedd arno.

Roeddwn i allan ohoni fy hun y diwrnod hwnnw felly gallwn i wneud dim, gan obeithio byddai'n iawn.

Roedd rhaid i mi eistedd yno am bedair awr hir a gwylio fy ffrind gorau bron â marw. Pan ddaeth at ei hun, dywedodd yn ei 'trip' ei fod yn ceisio troi amser am ei ôl ac yn gorfod gwylio ei hun yn marw drosodd a throsodd. Dywedodd gallai glywed fi'n siarad â dyna ddaeth ag ef yn ôl i lawr i'r ddaear a dwi'n dweud wrthyt ti, dwi erioed wedi wylo cymaint yn fy mywyd.

Collais ran ohono'r noson honno. Nid yw wedi bod yr un person ers y noson honno ac i ddweud y gwir, dwi ddim yn meddwl fy mod i chwaith. Ond mewn ffordd, dwi'n falch ei fod wedi digwydd. Roedd ef a fi yn dilyn llwybr dwi byth eisio teithio lawr eto.

Y braw yma oedd angen arnom a dwi'n gobeithio ei fod yn un fydd yn effeithio rhai o'r bobl sy'n darllen hwn. Roeddem ni'n lwcus y noson yna, gallwn i fod wedi'i golli am byth. Dwi byth eisio cymryd y siawns yna eto a dwi byth eisiau gorfod clywed bod rhywun arall wedi gorfod hefyd.

Dyma ddolen i'r erthygl Vice [nodyn Golygydd: mae'r erthygl yn cynnwys rhegi a chynnwys aflonyddus. Gallai fod yn anaddas i rai darllenwyr].

Erthyglau perthnasol:

Dydy Cyfreithiol Ddim Yn Golygu Diogel

Cyffuriau ac Iechyd Meddwl

Erthyglau – Categorïau – Cyffuriau

Gwybodaeth am gyffuriau:

Gwybodaeth – Iechyd – Cyffuriau. Alcohol a Sylweddau

Botwm-coch.org

dan247.org.uk

Cofia, gallet ti gysylltu â MEIC am ddim, unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, am wybodaeth a chyngor am gyffuriau neu amrywiaeth o bynciau eraill.

Os wyt ti'n poeni am ffrind sydd wedi gorddosio neu'n cael 'trip' drwg, fe ddylet ti ffonio 999 yn syth.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50