Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Stoptober Yn Dod I Gymru

Postiwyd gan The Filter o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 23/09/2013 am 11:24
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwyl, Iechyd, Materion Cyfoes, Cyffuriau

  • stop
  • filt

English version // Yn Saesneg

Yn dilyn cwpl o flynyddoedd llwyddiannus yn Lloegr, mae Stoptober yn dod i Gymru o'r diwedd. Mae'r sialens 28 diwrnod yn anelu cael pobl dros y wlad i roi'r gorau i smygu dros fis Hydref, gyda chefnogaeth ar-lein trwy gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â'r pecyn Stoptober sydd ar gael i helpu ti ar y ffordd. Mae bron i 75,000 o bobl wedi cofrestru yn barod eleni. Fyddi di neu rywun ti'n adnabod yn derbyn y sialens?

Ysmygu ydy'r lladdwr mwyaf ym Mhrydain ar hyn o bryd: mae tua hanner yr ysmygwyr yn marw yn gynamserol. Hwn ydy'r unig gynnyrch sydd ar gael i brynu’n gyfreithiol sydd, os yw'n cael ei ddefnyddio fel cyfeirir, yn lladd neu yn achosi niwed difrifol. Bydd ysmygwr 20 y dydd yn arbed tua £200 ac yn ychwanegu wythnos i'w bywyd drwy stopio am fis!

Mae pobl sydd yn stopio gyda chefnogaeth (fel Stoptober) yn 5 gwaith mwy tebygol i beidio ysmygu eto, ac mae'r gefnogaeth ar gael i unrhyw un – beth bynnag dy oed. Eisiau trio? Cer draw i wefan Stoptober am wybodaeth bellach am sut i gymryd rhan. Mae gwefan The Filter efo popeth ti angen ei wybod am ysmygu a thybaco ac efo awgrymiadau da ar sut i ddweud na i'r sigaréts drwg yna neu sut i barhau i beidio ysmygu.

Rydym yma i gael sgwrs hefyd. Neges testun, ffôn neu neges sydyn, dydd Llun i ddydd Gwener 3yp-8yh. (www.thefilterwales.org.uk/stop)

"Mae fel mis Hydref ond heb y sigaréts!"

DOLENNI

Gwefan Stoptober

The Filter

Gwybodaeth - Ysmygu

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50