Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sister Bliss: 10 Uchaf Gorffennaf

Postiwyd gan Sister Bliss o Gwynedd - Cyhoeddwyd ar 15/07/2013 am 14:17
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant, Dawns, Gwyl, Bwyd a Diod, Cerddoriaeth, Pobl, Teithio

  • sister B

English version // Yn Saesneg

Wel, mae'r haf yma o'r diwedd felly mae'n amser anthemau a thymor y gwyliau.

Mae yna blethora o diwniau gwych o gwmpas ar hyn o bryd, felly meddyliais mai ffordd neis o gyflwyno fy hun fydda drwy'r gerddoriaeth sydd yn cynhyrfu fi ar hyn o bryd.

I gychwyn detholiadau'r haf mae record ddyrchafol gan Russ Chimes – Turn Me Out – sydd wedi cyrraedd y 40 uchaf yn ddiweddar efo ychydig iawn o chwarae ar y radio – da iawn Russ!

Anthem tÅ·’r dyfodol arall ydy Step Together, cydweithrediad Joe Goddard a Boris D'lugosh o Hot Chip – yn dod a'r piano yn ôl i ffasiwn steilus.

Falch o weld dychweliad R̦yksopp gyda Ice Machine Рmae Ewan Pearson wedi darparu ail gymysgedd disgo tywyll anhygoel gyda mwy na nod i ddawn Georgio Moroder.

Mae Empire Of The Sun hefyd yn ôl gyda albwm pleserus newydd – wrth fy modd efo'r teimlad hafaidd – a dwi'n gobeithio gweld nhw yn chwarae set gŵyl yn fuan iawn.

Bechgyn eraill sy'n hoff o beintio’u hwynebau ydy The Other Tribe o Fryste, dwi wedi bod yn ffan ers eu rhyddhad cyntaf Skirts – dwi'n clywed eu bod yn gwneud yn dda iawn yn fyw a dwi wrth fy modd gyda Your Kisses, y sengl ddiweddaraf.

A tra dwi'n sôn am wyliau, dwi'n perfformio mewn tipyn ohonynt dros yr haf, efo Maxi ran amlaf fel 'set PA a DJ Faithless Yn Fyw' – tipyn o lond ceg ond mae'n gwneud beth mae'n ddweud! Mae gen i dipyn o wyliau gwyllt mawr i ddod, o Dance Valley Yr Iseldiroedd yn chwarae ochr yn ochr â phobl fel Zedd ac Alesso, i Summersound yn y Ffindir gyda'r mawrion fel Axwell, Tiesto a Knife Party… dylai fod yn swnllyd!

Dwi hefyd yn mynd am y tro cyntaf i chwarae Batumi yn Georgia – yn ôl pob sôn mae yna winoedd a bwyd da – a bob tro'n boeth! Rhywbeth arall rydym yn ei wneud am y tro cyntaf, ac un rydym yn edrych ymlaen ato yn benodol, ydy The Secret Garden Party – ein unig berfformiad ym Mhrydain eleni ac mae'n swnio fel gŵyl eithaf arbrofol a hudol – y math rydym ni'n hoffi!

Byddaf hefyd yn chwarae set 'cyfrinachol' yn yr ŵyl â'r enw gwych 'Badger Feral Fever Woods' – yn ôl pob sôn mae fel Glastonbury bach wedi'i stwffio mewn glyn coediog.

Ni fyddai'n haf heb drip i Ibiza – mae'r Ushuaia Tower newydd agor yr haf hwn ac wedi denu rhai fel Sasha a Wally Lopez o Fadrid – dwi newydd gydweithio gydag ef ar drac newydd Dalt Villa. Mae hwn yn cael ei ryddhau ar fy label newydd Junkdog gafodd ei ail-lansio eleni gyda thiwn newydd sbon gan Sister Bliss, Ain't There.

Dwi wedi bod yn brysur iawn yn y stiwdio, yn creu cymysgeddau newydd ac yn ail gymysgu i artistiaid eraill – mae posib clywed fy ail gymysgedd o She gan Laura Mvula a Ima Read gan ZebraKatz ar Beatport neu iTunes – gobeithio'r cyntaf o nifer! Mae yna cymaint o gerddoriaeth ysbrydol allan yna, felly dwi'n gobeithio byddi di'n mwynhau fy deg uchaf.

Gallet hefyd ddod o hyd i mi yn chwarae tiwniau o ddewis ar fy sioe radio pob dydd Gwener am 7yh ar Ministry Of Sound Radio… lawr lwytha'r app MoS a fedri di wrando unrhyw amser!

Foals – My Number (T.E.E.D Remix)
Bondax – Giving It All
Disclosure – F For You
The Other Tribe – Your Kisses
Empire Of The Sun – Alive
R̦yksopp РIce Machine
Grizzly Bear – Gun Shy (Lindstrom Remix)
Joe Goddard & Boris D’lugosh – Step Together
London Grammar – Wasting My Young Years
Russ Chimes – Turn Me Out

Cysylltu gyda Sister Bliss:
Facebook (Sister Bliss)
Soundcloud (Sister Bliss)
Facebook (Junkdog)
Soundcloud (Junkdog)

Mae Sister Bliss yn aelod sefydlol o Faithless ac yn un o'r enwau mawr ei barch ym myd cerddoriaeth electroneg.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50