Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sialens Mordaith Môr Iwerddon Cymru

Postiwyd gan emb789 o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 22/07/2014 am 10:10
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Chwaraeon a Hamdden, Materion Cyfoes, Teithio

  • Cwch Hwylio Her Cymru ar y môr

English version // Yn Saesneg

Yn ddiweddar, diolch i'r bobl hyfryd o CLICarlein, cefais fynd ar daith hwylio gyda Her Cymru, elusen gyda phrif fwriad o helpu pobl ifanc 12 - 25 oed i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a phersonol trwy hyfforddiant hwylio.

Er bod iechyd gwael fy hun wedi achosi i mi fethu diwrnod o hwylio, cefais amser grêt yn dysgu mwy am hwylio a gwneud ffrindiau newydd.

Diwrnod Un

Roeddwn yn hwyr ar y diwrnod cyntaf. Efallai nad dyma'r argraff gorau i roi ar y cychwyn, ond roeddwn i wedi hurio tacsi a hwnnw ddim wedi dod felly roedd rhaid i mi ddisgwyl i un arall ddod wedyn. Ond, doedd y cwch hwylio ddim wedi gadael ac roedd pawb yn faddeugar iawn felly roedd popeth yn iawn! Ar ôl taith fer o gwmpas y cwch daeth pawb at ei gilydd yn y caban am baned o de a phawb yn cyflwyno'u hunain. Gan mai dim ond 13 ohonom oedd yno,  roedd pawb yn cael y cyfle i ddod i adnabod pawb arall, ac roedd hynny'n braf iawn.

Ar ôl hynny, i ffwrdd a ni! Cafodd pawb dro wrth y llyw, ble mae'r cwch yn cael ei llywio, ac aethom o Farina Neyland i Aberdaugleddau. Ar ôl cyrraedd clymwyd y cwch i fyny ac yna chwaraeom gêm cardiau o dan y dec am weddill y noson. Hoffwn ddweud fy mod i wedi ennill pob gêm, ond yn anffodus ni fyddwn yn onest iawn wrth ddweud hynny.

Diwrnod Dau

Wrth ddeffro'n teimlo wedi fy adfywio ac yn barod i wynebu'r diwrnod am 5:30yb, fel sy'n arferol i ni yn ein harddegau, cafodd pawb frecwast ac yna gweithio gyda'i gilydd i gael y cwch allan ar y môr agored a chychwyn am Iwerddon! Rhannwyd pawb i mewn i ddau grŵp ar y diwrnod yma, tra roedd un ar y dec am bedair awr roedd y lleill yn cysgu. Dwi'n meddwl bod pawb yn falch iawn o gael gorffwys, am fy mod i'n dweud celwydd am deimlo wedi fy adfywio ac yn barod i wynebu'r diwrnod.

Ar ôl diwrnod dymunol a diddigwyddiad o hwylio, cyrhaeddom Dunmore East, yn Iwerddon! Daethom oddi ar y cwch a chrwydro o gwmpas yr ardal am dipyn, oedd yn eithaf dymunol. Roedd yna draeth bach swynol crwydrom i lawr iddo. Roedd yna hefyd ddisgo yn digwydd ond dim ond i rai o dan 15. Roeddwn i'n eithaf trist, gan eu bod nhw'n chwarae un o fy hoff ganeuon, Cha Cha Slide. Ar ôl crwydro o gwmpas yr ardal am gwpl oriau, aethom yn ôl i'r Her Cymru (sef enw'r llong hwylio yn ogystal â'r elusen sydd yn berchen arni) a chael cinio hyfryd o gyri tikka cyw iâr.

Diwrnod Tri

Roedd hwn yn ddiwrnod arbennig o hyfryd am ein bod wedi cael cysgu tan 8yb! Cawsom frechdanau bacwn i frecwast tra roeddem yn mynd am Crosshaven, pentref yn Sir Corc. Roedd y gwynt yn newidiol iawn ar y diwrnod yma: weithiau nid oedd dim o gwbl ond weithiau roeddem yn gwyro i'r ochr ar ongl roedd y capten yn sicrhau oedd yn berffaith ddiogel (er mae'n rhaid i mi ddweud, nid oedd yn brofiad pleserus i roi'r tap ymlaen a gweld y dŵr yn llifo ar ongl i'r dde bron.)

Pan gyrhaeddom Crosshaven, cawsom gawod o'r diwedd! Roedd yn ystafell cawod gyhoeddus gyda chiwbiclau unigol, yn debyg i bwll nofio, a dyma'r profiad mwyaf hyfryd dwi wedi'i gael erioed. Roeddwn i hefyd wedi synnu efo'r nifer o gleisiau roeddwn wedi llwyddo cael: yn bendant doeddwn i ddim wedi teimlo fy hun yn cael dim ohonynt ond roedd yna lawer yna.

Ar ôl cawod, aeth rhai o'r bobl ifanc eraill o'r cwch a finnau yn ôl am noson ddistaw i mewn. Yn bersonol, roeddwn yn dechrau teimlo'n flinedig iawn gyda pheswch oedd wedi cychwyn y diwrnod cyn cychwyn allan ar y dŵr, felly cefais noson fuan, a gobeithio byddai cwsg yn helpu...

Diwrnod Pedwar

Doedd cwsg ddim wedi helpu, er fy mod i wedi llwyddo i gael llawer o gwsg! Yn ôl pobl eraill ar y cwch, llwyddais i gysgu drwy'r capten yn gweiddi ei bod yn amser i bawb ddeffro, a chysgu trwy ef yn blastio dubstep dros y seinyddion. Fi oedd y diwethaf i godi felly roeddwn ar ddyletswydd golchi, ond sylweddolodd un o'r oedolion yn reit sydyn nad oeddwn i'n dda iawn a'm ngyrru yn ôl i'r gwely. Mae'n rhaid i mi ddweud, roedd cysgu ar gwch yn deimlad hyfrydol. Mae'n teimlo fel bod y môr yn fam enfawr a dwi'n fabi yn cael fy siglo i gysgu. Dywedodd fy ffrindiau wedyn nad oeddwn i wedi methu dim byd rhy bwysig nac chwyldroadol, felly dewisais ddiwrnod da i fod yn sâl!

Pan gyrhaeddom yng Nghei Kilmore, ymunais gyda phawb arall ar daith allan i'r dref. Roedd yna ŵyl bwyd môr yn digwydd bod, gyda band byw yn chwarae, felly gwrandawom ar y gerddoriaeth am ychydig. Darganfyddom siop losin anhygoel oedd yn gwerthu brechdanau lle'r oedd y bara wedi cael ei wneud o falws melys (marshmallow) a'r llenwad wedi cael ei wneud o falws melys hefyd. Roedd yn syndod ac yn chwyldroadol. Roeddent hefyd yn gwneud hufen iâ gwych. Fy hoff le yn Kilmore oedd Forlon Point. Roedd yn le arbennig o brydferth a heddychol. Ar ôl ychydig, aethom yn ôl am y cwch a gorffwyso ychydig cyn ein diwrnod diwethaf o hwylio.

Diwrnod Pump

Cychwynnom am adref i Farina Neyland o'r diwedd. Yn ystod un o'r cyfnodau ar y dec heddiw, digwyddodd rhywbeth cyffrous iawn: gwelsom ddolffiniaid! Daethant at y cwch a nofio wrth ein hochor am tua ugain munud, yn neidio ac yn dangos eu hunain. Roedd y tywydd yn dawel iawn, felly roedd modur y cwch hwylio ymlaen am y mwyafrif o'r dydd yn lle dibynnu ar y gwynt. Amser cinio rhoddwyd yr angor i lawr ger Ynys Skomer a chael pasta, oedd yn neis iawn. Roedd yna lawer o adar y pâl (puffins) yn hedfan o gwmpas, roedd yn eithaf anhygoel. Roedd yna fwy o adar nag phobl! Ar ôl hynny aethom yn ôl am Farina Neyland, dweud hwyl fawr, ac aeth pawb mewn cyfeiriadau gwahanol am gartref.

Ar y cyfan, roedd y profiad yn wych. Doedd y diwrnodau mwyaf distaw ddim yn teimlo'n ddiflas hyd yn oed, fel roeddwn i wedi poeni y byddan nhw, gan fod cymaint o fôr i edrych arno. Fe welsom sglefrod môr (jellyfish) porffor hyfryd, oedd yn neis. Byddwn yn bendant yn argymell mynd ar daith efo Her Cymru gan fod y profiad yn un mor hyfryd. Doedd neb yn gas ac aeth popeth yn esmwyth iawn.

Eisiau ennill crys-T Sprout? Llenwa Arolwg Bodlonrwydd theSprout!

Gwybodaeth - Hwylio

Digwyddiadau - Gorffennaf 2014: Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout

Sefydliadau - Challenge Wales / Her Cymru

Erthyglau - Categorïau - Teithio

*Cyflwyna dy stwff i gael ei gyhoeddi yma*

Credyd Delwedd: Her Cymru

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50