Secstio Ac Ecsploetiaeth Rywiol
Ecsploetiaeth Rywiol ydy pan fydd person yn twyllo neu'n dylanwadu ar rywun i ymgymryd mewn ymddygiad rhywiol.
Gallai hyn ddigwydd mewn sawl ffordd wahanol. Weithiau bydd pobl yn ceisio gwneud i ti deimlo bod cael rhyw, neu gymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol, yn ddisgwyliedig ohonot ti (efallai bod arnat ti ffafr iddynt, neu fod nhw wedi prynu anrheg ddrud i ti). Mewn achosion eraill efallai byddant yn cynnig arian neu le i aros i ti. Efallai bydd rhywun hyd yn oed yn bygwth ti gyda blacmel (efallai bod ganddynt lun rhywiol ohonot ti ac maent wedi bygwth ei ddangos i bobl eraill os nad wyt ti'n gwneud beth maen nhw'n ddweud).
Beth bynnag ydy'r rheswm, ti BYTH yn gorfod cymryd rhan mewn unrhyw ymddygiad rhywiol os nad wyt ti eisiau. Mae hyn yn cynnwys gyda dy gariad: nid oes gan neb yr hawl i wneud i ti ymddwyn mewn ffordd ti ddim yn gyffyrddus gydag ef, ac mae gorfodi rhywun neu ddylanwadu ar rywun i gael rhyw yn anghyfreithlon.
Pwrpas yr erthygl yma ydy i roi'r wybodaeth a'r adnoddau ti angen i helpu amddiffyn ti o bob ffurf o ecsploetiaeth rywiol. Os wyt ti'n gwybod am unrhyw wefannau neu adnoddau da, neu efo unrhyw gyngor, yna gad sylwad isod. Os wyt ti angen cefnogaeth fedri di gysylltu gyda MEIC yn gyfrinachol 24/7.
Ecsploetiaeth Rywiol: Rhyw, Cyfrinachau a Chelwyddau
Fel ddywedwyd cynt, gall ecsploetiaeth rywiol gymryd sawl ffurf. Mae Barnado's Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw i ddeall ac amddiffyn ti o ecsploetiaeth rywiol. Mae'r canllaw yn fyr ac yn hawdd i'w ddarllen, ac ar gael yn Saesneg a Chymraeg. Gall ddarllen ef ar-lein neu lawr lwytho copi am ddim isod:
Lawr lwytho (Cymraeg)
Lawr lwytho (Saesneg)
Secstio
Dydy ymddygiad rhywiol ddim yn golygu cael rhyw yn unig. Mae rhannu llun cignoeth ohonot ti dy hun dros y rhyngrwyd neu ffôn symudol hefyd yn ymddygiad rhywiol, sy'n cael ei alw'n secstio. Yn union fel y mae gyda rhyw, nid all neb byth orfodi ti i wneud hyn os nad wyt ti eisiau.
Un o'r peryglon mwyaf o secstio ydy bod unrhyw beth digidol yn hawdd i'w rannu. Efallai dy fod di'n gyrru llun i dy gariad ac yn gwneud iddynt addo ei gadw'n gyfrinachol, ond dim ond un person mae'n cymryd i fynd drwy'r ffôn/cyfrifiadur yna a'i rannu a gallai fod dros y rhyngrwyd. Mae yna achosion wedi bod ble mae cyplau yn gwahanu ac yna'n rhannu lluniau preifat o'u cyn cariadon gyda ffrindiau neu ar-lein, ac unwaith bydd llun ar-lein gallai gael ei gopïo a'i rannu dros y blaned.
(Ar nodyn tebyg: dylet ti bob tro fod yn ymwybodol o dy we gamera. Gall pobl gymryd lluniau o'r sgrin a chlipiau fideo felly paid cymryd bod sgwrs Skype yn breifat bob tro. Mae hefyd yn bosib gosod firws sydd yn hacio i mewn i dy we gamera, felly dylet ti osgoi newid o'i flaen, hyd yn oed os wyt ti'n meddwl ei fod i ffwrdd.)
Zipit
Dylai adrodd unrhyw un sydd yn gofyn i ti gymryd rhan mewn secstio (ac yn bendant unrhyw un sydd yn ceisio gorfodi ti neu yn gwneud i ti deimlo dan fygythiad), weithiau mae yna adegau pan fydd angen dweud wrth berson yn syml ei bod yn amhriodol gofyn am luniau anweddus ac nad oes gen ti ddiddordeb mewn gwneud hynny. Yn enwedig os yw'n ffrind/partner sydd yn gofyn i ti secstio nhw, efallai byddi di'n teimlo bod rhaid i ti gan nad wyt ti eisiau dweud na wrth rywun sy'n bwysig i ti.
Dyna pam bod ChildLine wedi datblygu'r app Zipit: mae'n helpu ti i ddweud wrth bobl mewn ffordd ddoniol a diplomateg nad oes gen ti ddiddordeb mewn rhannu lluniau preifat gallai droi i fyny ar y rhyngrwyd. Mae hefyd yn rhoi cyngor pwysig i ti ar sut i sgwrsio'n ddiogel a beth i wneud os wyt ti'n poeni.
Mae Zipit ar gael am ddim ar bob ffôn clyfar. Gall gael o yma neu chwilio amdano yn dy siop app.
Dolenni Defnyddiol:
THINKUKNOW – Gwefan gwych yn llawn gwybodaeth a fideos am Ecsploetiaeth Rywiol
Beth yw Secstio? – Cyngor ac arweiniad grêt
Canolfan Diogelwch CEOP – Sut i adrodd pryder a darganfod cefnogaeth
GetSafeOnline - Dysgu sut i amddiffyn dy gyfrifiadur a ti dy hun ar-lein
MEIC – Ffonia, tecstia neu gyrra neges sydyn am ddim, 24/7, gyda chwestiynau neu bryderon
Erthyglau Perthnasol:
Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch