Pryder: Bydd Popeth Yn Iawn
Mae wedi bod yn dipyn o amser ers i mi ysgrifennu erthygl yma a dwi'n ymddiheuro, ond mae bywyd wedi bod ychydig yn anturus yn ddiweddar. Ond, wrth i mi orwedd yn effro am amser gwirion o'r nos gyda syniadau yn rhedeg drwy fy meddwl, dwi'n meddwl mai dyma'r amser gorau i ysgrifennu erthygl sydd yn golygu rhywbeth.
Pan oeddwn i'n 15 oed, ysgrifennais erthygl ar yr union wefan yma. Roedd yr erthygl yn trafod fy mhroblemau pryder a sut roeddwn yn ceisio goresgyn hyn. Yna ysgrifennais erthygl arall tua blwyddyn wedyn oedd yn ddiweddariad ar fy mywyd a sut roeddwn yn ymdopi gyda'm mhroblem iechyd meddwl. Ar yr adeg honno roeddwn i bob tro'n meddwl y byddwn yn gallu goresgyn y broblem yma yn gyfan gwbl a bod pawb yn gallu goresgyn pryder, ond nawr ychydig flynyddoedd wedyn a gyda llawer iawn o brofiad o'r ochrau positif a negyddol o'm nghyflwr, dwi'n sylweddoli nad yw pryder yn diflannu mewn rhai achosion.
Roeddwn i wastad wedi deall y byddwn yn tyfu allan o hyn rhywbryd. Un dydd byddaf yn dod yn 'normal', ac felly blwyddyn ar ôl blwyddyn ers fy niagnosis yn 10 oed disgwyliais yn amyneddgar yn y gobaith bydda'r cythreuliaid mewnol yn diflannu. Credais hyn am sawl blwyddyn ond fel yr oeddwn yn mynd yn hŷn, ac wrth ddysgu mwy am faterion iechyd meddwl, deallais nad yw'n syml ac nad yw pawb yn gallu goresgyn y broblem. Ond, o brofiad bron i 10 mlynedd dwi wedi dysgu bod posib rheoli dy bryder. Nid yw'r ffaith bod gen ti broblem yn dy fywyd yn golygu bod rhaid iddo reoli dy fywyd. Mae'n gallu os wyt ti'n ei adael ond os wyt ti'n cwffio ac yn dyfalbarhau, mae posib cael rheolaeth ar dy gythreuliaid.
Yn ystod fy nyddiau ysgol roeddwn i'n brwydro gyda'm mhroblemau ac roedd yna gyfnod yn fy mywyd ble meddyliais nad fyddwn i byth yn gallu cyflawni dim byd oherwydd fy mhryder. Doeddwn i ddim yn gwybod sut i reoli unrhyw beth ac roedd hynny'n effeithio ar fy mywyd cymaint fel fy mod i'n rhy wael i aros yn yr ysgol. Roeddwn yn dioddef cymaint ac roedd yn dinistrio pob cyfle. Ni allwn weld y golau ar ben y twnnel. Teimlais fel y dylwn i roi'r gorau iddi am fy mod i wedi fy nhynghedu i fywyd o ddioddef. Feddyliais i fyth y gallwn i fyw bywyd ble gallwn gyflawni a chael gyrfa neu fynd i brifysgol hyd yn oed.
Dwi wedi bod yn lwcus gan fod gen i deulu cefnogol iawn oedd yno i fi yn y munudau tywyllaf a'r oriau o angen ble roeddent yn fy annog i gael y cymorth proffesiynol roeddwn ei angen. Gyda'r cymorth a'r anogaeth bositif yma gan fy nheulu a'm ffrindiau agosaf, llwyddais i gael cymwysterau drwy grŵp bach a chael fy swydd gyntaf erioed. Dwi'n meddwl bod pobl sy'n dioddef gyda phryder angen deall mai bod yn bositif ydy'r allwedd. Ydy, mae pryder yn broblem ac mae anffawd yn debygol ond nid oes rhaid i ti adael iddo ennill.
Mae pobl yn tueddu ofni gofyn am gymorth a dwi'n cyd-deimlo gyda hynny am mai fel yna oeddwn i'n teimlo, ond ar ôl cymryd y cam cyntaf mawr yna a chwilio am gymorth mae popeth yn dod yn haws. Dwi ddim yn dweud bod cael cymorth yn mynd i wella ti 100% ond bydd yn helpu i reoli'r problemau fel dy fod di'n gallu parhau gyda dy fywyd a pheidio gadael iddo dy oresgyn.
Ers cael cymorth, dwi wedi cyflawni cymaint nad allwn i erioed ddychmygu. Gan fod astudio mewn amgylchedd addysgiadol gyda chyfoedion ddim yn bwynt cryf i mi, feddyliais i fyth y gallwn fynd i brifysgol ond nawr dwi'n fyfyriwr BA Anrhydedd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gyda'r Brifysgol Agored. Mae hynny'n brawf bod yna ddewis arall bob tro. Dwi hefyd yn ysgrifennu i wefan diwylliant poblogaidd ac mae'r cyfleoedd wedi bod yn anhygoel. Dwi'n byw fy mreuddwyd, neu'r cychwyn o leiaf.
Dwi dal yn cael diwrnodau isel a chyfnod o amser cyflawn hyd yn oed, ble dwi ddim yn teimlo'n iawn ond mae hynny yn ei hun yn iawn, dim ond dy fod di'n cymryd rheolaeth o'r broblem. Mae pawb yn cael diwrnodau isel ac mae hynny yn iawn hefyd. Ond dydy hynny ddim yn golygu byddaf yn isel am byth ac nid yw'n golygu nad fydd enfys ar ôl y glaw.
Beth hoffaf ddweud wrth bobl sydd efallai mewn sefyllfa debyg i fi, ydy i ddod o hyd i gipolwg bach o rywbeth positif ac i ddal ar hynny. Cymera anadl ddofn a chymryd y cam cyntaf yna wrth ofyn am gymorth. Dwi'n addo bydd pethau'n iawn hyd yn oed os dydy bywyd ddim yn berffaith. Gallet ti neidio dros glwydi a pan ti'n disgyn gallet ti bigo dy hun i fyny eto a brwsio dy hun i lawr a pharhau o ble oeddet ti.
Dalia ar, byddi di'n dod drwyddo. Bydd pethau'n iawn.
DELWEDD: wotguru
Erthygl Berthnasol: Y Siwrne Yn Parhau
Gwybodaeth - Straen, Pryder ac Anhwylderau Panig
Gwybodaeth - Cael Cymorth a Chefnogaeth
Os wyt ti wedi cael dy effeithio gan unrhyw rhai o'r materion yn yr erthygl yma, gallet ti alw Childline am gymorth ar radffôn 0800 1111.
Os wyt ti'n teimlo bod dy farn ar fater sydd yn effeithio ti ddim yn cael y sylw mae'n ei haeddu, neu os wyt ti eisiau ychydig o gyngor a rhywun i siarad gyda nhw, cofia bod posib cysylltu â Meic mewn cyfrinachedd llwyr.