Prydain Amlddiwylliannol
GEIRIAU: Yasmin Begum (Grŵp Golygyddol Sprout)
Ein bod yn gymdeithas amlddiwylliannol ydy’r celwydd mwyaf dwi wedi’i glywed.
Wel, dim cweit. Ein bod yn gymdeithas amlddiwylliannol integredig ydy’r celwydd mwyaf dwi wedi’i glywed.
Mae naw deg chwech y cant o bobl yng Nghymru yn wyn, yn gadael lleiafrif o bedwar y cant. I gymharu gyda Lloegr mae’r ffigwr hwn yn tyfu i 87% o bobl yn wyn gyda lleiafrif o 13%.
Pam fod Cymru a Lloegr yn wahanol yn eu hystadegau? Mae bron pob person o liw yn byw yn y dinasoedd, gyda dim ond 1% yng Nghymru wledig yn gadael lleiafrif o 99%.
Pam fod y mwyafrif o leiafrifoedd ethnig yn y de (heblaw am y llefydd setliad amlwg fel yr hen Tiger Bay, ble unwaith roedd diwydiant llongau ffyniannus)? Oes rhywbeth ddim yn cael ei wynebu yn fan hyn?
Yn yr hen ddyddiau o ‘paki-bashing’ oedd y norm: siarada di gydag unrhyw un dros 40 oed a byddent yn cadarnhau hyn/ Mae hyd yn oed pobl o genhedlaeth ein rhieni efallai yn cofio’r siantio hiliol yn cael ei ganu ar iard yr ysgol.
Amlddiwylliannol oedd y gair ar wefusau pawb, er bod bygythiad anwadal yr asgell dde eithafol yn anodd anwybyddu. Roedd hiliaeth ymhob man, yn dy wyneb di ac fel arfer yn cael ei ddilyn gan gael dy guro os oeddet ti ddigon anlwcus i ddod ar draws grŵp o bobl hiliol.
Mae stereoteipiau hiliol cariadus yn ymddangos ar y teledu, gan gynnwys rhai’r Goliwogiaid a’r Minstrels sut fyddai'r rhain yn cael eu derbyn gan Brydain dyddiau modern y 21ain Ganrif?
Roedd hynny flynyddoedd yn l. Ymlaen 30 mlynedd, a sut mae pethau wedi newid?
Mae cydberthynas hiliol a chynnydd ofn paranoia o bawb o liw ers 9/11 a 7/7. Roedd fy nhad i yn awyddus i ffitio mewn wrth dyfu, ond nawr mae ei blant yn awyddus i bwysleisio eu gwahaniaethau i ganiatu mwy o integreiddiad.
Tra mae’r theori yma yn dda, mae wedi arwain at bortread o Fwslemiaid fel bod yn rhy radical yn eu gofynion, yn arwain i getos mewn nifer o ddinasoedd. Mae’r raddfa diweithdra yn fwy uchel ymysg pobl o linach De Asia a phobl o liw yn gyffredinol sydd yn dewis byw gyda'i gilydd.
Tra mae’r hyder mewn pobl yn dda, gallai fod yn niweidiol: amlygodd arolwg gan yr Arolwg Trosedd Prydeinig fod 87,000 o bobl o gymunedau du neu leiafrif ethnig wedi dweud eu bod yn ddioddefwr o droseddau hiliol. Roeddent wedi dioddef 49,000 ymosodiad treisgar, gyda 4,000 yn cael eu clwyfo.
Mae llawer o bobl yn dweud fod amryw o droseddau hiliol ddim yn cael eu hadrodd i’r heddlu bob blwyddyn, oherwydd ofn erledigaeth bellach. Bu cynnydd yn nhroseddau casineb hiliol yn Llundain wedi’r bomio 7/7, gyda phethau fel y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn cael ei orfodi yn eang gan gorfforaethau cyhoeddus (fel yr heddlu) i rwystro unrhyw hiliaeth.
Daw hyn fel tipyn o sioc gyda’r Heddlu Metropolitan Llundain Fawr yn cael eu cyhuddo o hiliaeth sefydliadol (heb sn am lygredd heddlu) mewn ymholiad annibynnol gan y Comisiwn Cwynion y Heddlu Annibynnol ar lofruddiaeth Stephen Lawrence.
Mae pobl ifanc o linach Pakistani a Bangladeshi yn llai tebygol o lwyddo i gael graddau A*-C yn lefel TGAU, gyda chyfran arwyddocaol o ferched Asiad yn dewis i beidio astudio ymhellach yn y coleg neu brifysgol wedi’r ysgol.
Mae proffilio hiliol ethnig sydd wedi arwain at farwolaeth Jean Charles de Menezes wedi dod dan archwiliad. Dywedodd y Comisiwn Cwynion yr Heddlu Annibynnol fod “dim plismon erioed wedi cael ei dyfarnu’n euog o lofruddiaeth nac dynladdiad am farwolaeth yn dilyn cysylltiad ’r heddlu, ond mae dros 400 o’r fath farwolaethau wedi bod yn y deg mlynedd diwethaf yn unig.”
Ydy hyn yn golygu fod llofruddiaeth yn drosedd, os nad yw’n cael ei wneud gan blismon? Mae demograffeg ar greulondeb heddlu mewn cysylltiad lleiafrifoedd ethnig wedi profi’n anodd cael gafael arnynt, sydd ddim yn syndod.
Achos arall proffil uchel gyda’r heddlu a’r gamdriniaeth o leiafrifoedd ethnig ydy un Babar Ahmad. Cafodd ei dŷ ei gyrchu yn y wawr gan blismyn gwrthderfysgaeth a chafodd ei guro yn greulon a’i erlid, ac adroddiadau o wahaniad fel apartheid yn heddlu’r Met ble roedd swyddogion gwyn a du yn cael eu gorfodi i deithio mewn gwahanol faniau.
Cynhaliodd y Sefydliad Joseph Rowntree arolwg dwy flynedd yn l yn datgelu’r gwir wahaniaethau rhwng gwahanol grwpiau lleiafrifol ethnig a graddfeydd tlodi. Roedd pobl o gefndiroedd ethnig yn fwy tebygol o gael cyflogau isel er bod y tuedd o’r dynion a merched hyn yn mynychu’r brifysgol yn tyfu. Bydd 40% yn byw mewn tlodi.
Mae hyd at ddau draean o deuluoedd Bengali yn byw mewn tlodi; dychmyga’r effaith mae hyn yn cael nid yn unig ar y teulu, ond y gymuned Bengali ar y cyfan. Mae graddfa tlodi plant yn uwch na thlodi oedolion dros bob rhan o’r sbectrwm er addewid Blair i ‘ddileu tlodi plant’ o fewn ei amser mewn rheolaeth.
Nid yw’n stopio yna. Mae bwlio mewn ysgolion yn broblem fawr yn gyffredinol, ond wrth ystyried bwlio hiliol mae llawer o faterion yn cael eu brwsio o dan y carped.
Gallaf i wireddu hyn, dwi wedi bod yn ddioddefwr bwlio hiliol tua phedair waith. Cafodd dim ei wneud tan i mi ddod a swyddog heddlu cydberthynas hiliol i mewn. Dwi’n sicr fod hyn yn digwydd ar raddfa lydan i bobl ifanc o liw.
Mae enwogion proffil uchel, gan gynnwys ond ddim yn gyfyngedig i rhai fel Meera Syal a Lenny Henry yn dod a’r mater hil i’r cyhoedd, ac mae myfyrwyr llenyddiaeth Saesneg ar lefel prifysgol yn darllen llyfrau fel Monica Ali’s White Teeth.
Mae ffilmiau wedi cael eu gwneud ar y mater hwn. Mae Yasmin gan Sianel Pedwar a East Is East gan FilmFour yn darparu sleisen o Brydain amlddiwylliannol real mae nifer yn ymddangos i anwybyddu.
Amlddiwylliannol? Ia. Integredig? Dwi ddim yn meddwl.
Os wyt ti wedi profi bwlio hiliol, bydd unrhyw un o’r linciau isod yn mynd a ti i wefannau sydd yn cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc.
Siop Wybodaeth Grangetown :: Bullies Out :: Bullying UK :: Childline