£50,000 i Archwilio Dy Dreftadaeth
Mae rhaglen grantiau Gwreiddiau Ifanc Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cynnig hyd at £50,000 o ariannu i bobl ifanc weithio gyda sefydliadau i archwilio eu treftadaeth.
Gall pobl ifanc gael mor greadigol ag yr hoffent wrth ddehongli beth mae treftadaeth yn golygu iddyn nhw - mae prosiectau cynt wedi trefnu dawnsfeydd masgiau, arddangosfeydd ffotograffiaeth, sioeau ffasiwn a pherfformiad syrcas hyd yn oed.
Dylai pobl ifanc 11-25 oed sydd eisiau gwneud cais feddwl am syniad creadigol ac ymuno gyda sefydliad treftadaeth ac ieuenctid - rhywbeth o amgueddfa leol, ysgol neu glwb pêl droed.
Mae prosiectau Gwreiddiau Ifanc yn ymwneud â gwneud gwir wahaniaeth i'r llefydd mae pobl ifanc yn byw ac i gyfranogwyr ddysgu sgiliau gwerthfawr ar hyd y ffordd. Dyma ychydig esiamplau o brosiectau yng Nghymru:
- Cafodd rhai o chwaraewyr gorau'r presennol a'r gorffennol o Glwb Pêl Droed Pwllheli eu cyfweld gan bobl ifanc i ddarganfod hanes pêl droed yn yr ardal a'i effaith ar y gymuned leol - cafodd llyfryn dwyieithog ei greu i ddehongli a rhannu eu darganfyddiadau a chynhaliwyd arddangosfa yn y clwb pêl droed a'r llyfrgell leol.
- Roedd prosiect People Around Here, "A Woman's Voice", yn canolbwyntio ar ferched Pacistan, Bengâl a Somalia yn archwilio treftadaeth Caerdydd, yn benodol ardaloedd Butetown a Grangetown - roedd pobl ifanc yn cyfweld merched o'r ardal, yn cynnal sioe ffasiwn ac yn cynhyrchu casgliad hanes ar lafar i gael ei gadw yn Amgueddfa Stori Caerdydd.
- Roedd prosiect Ysgol Uwchradd Rhymni, "Rhymni a'r Ail Ryfel Byd' yn gadael i ddisgyblion yr ysgol ddarganfod sut beth oedd byw trwy'r Ail Ryfel Byd wrth gyfweld â phobl oedd yn fyw bryd hynny - cafodd perfformiad llwyfan ei greu wedi'i seilio ar 'Operation Mincemeat' ble cafodd corff dyn o Bontlotyn ei drosglwyddo i'r Almaenwyr gyda chynlluniau ffug am y rhyfel.
Dywedodd Sally Roberts, Swyddog Datblygu CDL: "Mae Gwreiddiau Ifanc yn ymwneud â helpu pobl ifanc i archwilio rhywbeth sy'n bwysig iddyn nhw, o'u tref nhw i'w hobïau a chlybiau chwaraeon gorau. Hoffwn glywed gan grwpiau yng Nghymru sydd eisiau gwybod mwy am eu pwnc gorau a gyda ffyrdd dyfeisgar o ddod â'r stori yma yn fyw. Cysylltwch gyda ni heddiw."
Gall wneud cais am gyllid unrhyw bryd ac mae'n hawdd iawn i ddarganfod os yw Gwreiddiau Ifanc yn addas i ti. Cysyllta gyda dy dîm CDL lleol yng Nghymru: http://cymraeg.hlf.org.uk/inyourarea/Wales/Pages/Croeso_i_Gymru.aspx
Dysga fwy am raglen Gwreiddiau Ifanc nawr!
Digwyddiadau - Mehefin 2014: Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout










