Nwyddau Wedi'u Rhewi: Sêl Haf Steam 2013
Sêl Steam ydy'r peth gorau sydd erioed wedi digwydd i'm consol cartref.
Meddylia am y peth am funud. Efo'r swm annuwiol o gemau sydd yn ceisio gosod eu hunain ar fy nghyfrifiadur, a salwch hafol yn gorfodi fi i aros tu mewn (melltith i ti clefyd y gwair!), dwi bob tro yn troi i ffwrdd o'm cyfrifiadur a tuag at fy nheledu.
Dros gyfnod y sêl Steam mwyaf diweddar, llwyddais i guro (nid chwarae yn unig, ond ddim cwblhau yn iawn), ); *anadl ddofn*
- Kingdom Hearts II
- Kingdom Hearts: Chain Of Memories
- Kingdom Hearts: Birth By Sleep
- Final Fantasy 6
- Final Fantasy Tactics
- Final Fantasy 9
- Bayonetta
- Vanquish
- BlazBlue: Continuum Shift Extend
- Devil May Cry 3: Dante's Awakening
- DmC: Devil May Cry
- Okami
- Resident Evil 2
- Silent Hill 2
- Metal Gear Solid
- Metal Gear Rising: Revengance (fy ngair gorau erioed)
- Super Paper Mario
- Mario RPG: Legend Of The Seven Stars
- Legend Of Zelda: Skyward Sword
- Metroid Prime
Felly, fel gwelir, roedd gen i lot o amser rhydd. Ac roedd fy nghyfrifiadur allan am hir iawn efo'r gemau llwyddais gael yn y Sêl Haf Steam diweddaraf.
1) Dragon Age: Origins – Ultimate Edition
Alla'i ddim maddau anturiaethau ffantasi fawr Tolkienaidd, ac er bod llawer o bobl wir yn casáu Dragon Age II, roeddwn i'n eithaf hoff ohono, er ei ddiffygion. Er ei fod yn cymryd 22-gigabeit enfawr ar fy nghyfrifiadur, bydd yn aros yno am dipyn gan ei fod yn cymryd tua chwedeg awr i gwblhau.
Dwi hefyd yn teimlo'n ddiogel o gysidro hanes gemau Bioware, gan mai Mass Effect 2 ydy un o'm ffefrynnau erioed (anwybyddu'r rhestr wnes i dipyn yn ôl yn cyhoeddi fy mhump uchaf, mae barn yn newid), er ddim mor hapus gyda Mass Effect 3 a Star Wars: The Old Republic. Dyma oedd y gêm gyntaf i mi brynu yn y sêl, ac am bum punt yn unig, mae'n fargen.
Mae'r chwarae gêm rhywbeth rhwng strategaeth Xcom: Enemy Unkown a'r arddull Chwarae Rhan (RPG) yn y gemau Birth By Sleep a'r gêm Kingdom Hearts cyntaf. Mae hefyd efo gwrthwynebydd eithaf clir, sydd yn fantais bendant i gêm (un o'r prif resymau rhoddais gorau i chwarae FFXII oedd diffyg gwrthwynebydd da, yn enwedig gan nad oes hyd yn oed gelyn i FFXII yn Dissidia). Os wyt ti eisiau treulio oriau mewn chwedl ffantasi rhyfeddol mae Dragon Age: Origins yn bendant yn dda i ti, yn enwedig os wyt ti'n hoffi llenyddiaeth Tolkien clasurol a dy fod di wedi siomi efo pob gêm ers LOTRO.
Mae'n debyg bydd darllen yr erthygl hon yn cymryd cymaint o amser ag y mae i guro Thirty Flights Of Loving. Mae'n anodd iawn hyd yn oed meddwl am Thirty Flights fel gêm, ychydig fel The Walking Dead gan Telltale, sydd yn gofyn llai o dy fys saethu a mwy o dy feddwl, yn adrodd stori i ti werthfawrogi. Roedd yna fwy o funudau brawychus yn pymtheg munud hyfryd Thirty Flights nag sydd yng nghyfresi cyfan Call Of Duty, heblaw am y niwc yn MW a'r ddadl dros MW2.
Er fy mod i'n ei garu, mae £4 yn llawer i ofyn am beth sydd, yn y bôn, yn ffilm celf ryngweithiol, a dyma pam ei fod yn berffaith yn ystod y sêl. Nodyn bach, os bydda Chapter yn fodlon, byddwn i wrth fy modd yn rhoi'r gêm gyfan ar y sgrin yno rhyw dro, mae'n fath o beth fydda'n gweddu'n dda.
Er bod Jonathan Blow yn diflasu rhywun, mae ganddo farn dda ar gemau. Er bod rhai pobl wrth ei fodd efo'i gêm Braid, roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddiflas. Fe ddywedodd Mr Blow ychydig o bethau ffafriol am Starseed Pilgrim, felly pan gychwynnodd y sêl roeddwn yn hapus i roi cyfle iddo, ac… meh. Mae'n eithaf da; ond dwi ddim yn gwybod beth i wneud. Er bydd rhai pobl yn cwyno bod fy meddwl wedi arfer gormod gyda gemau modern yn dweud popeth wrthyt ti, ond curais y Final Fantasy gwreiddiol adeg yma llynedd, ac mae rhai o'r bobl sydd yn honni bod gemau modern yn hebrwng rhywun gormod yn cael trafferth curo hwnnw, oherwydd ei ddiffyg arwyddbyst a'r brwydron sydd ddim yn sythweledol.
Dwi am roi siawns arall iddo, ond chwaraeais am dros awr ac roedd rhaid i mi ail gychwyn amryw waith, yn ansicr os oedd beth oeddwn i'n ei wneud yn symud fi ymlaen o gwbl ac os oeddwn i'n gwneud unrhyw beth o'i le. Os ydy rhywun eisiau bod yn garedig iawn a bloeddio yn fy wyneb fy mod i'n ddwl a ddim yn gwybod sut i chwarae gemau fideo, yna croeso i ti wneud, ond hoffwn weld ti yn ceisio curo Blue Baby gan ddefnyddio adeiladu technoleg yn unig, Yna, unwaith ti wedi methu'n druenus, plîs fedri di ddweud wrthyf sut i wneud unrhyw beth yn Starseed Pilgrim gan dy fod di cymaint mwy clyfar na fi.
Dwi wrth fy modd gyda Cave Story. Os bydda Pixel yn dymuno, byddwn i'n cael ei fabis iddo. Ti'n gwybod, mewn ffordd sydd ddim yn arswydus. Anghofia beth ddywedais i am Mass Effect 2 cynt a Half Time 2 ychydig amser yn ôl, Cave Story ydy fy hoff gêm erioed (Plîs paid diflannu ME2 a HL2, dwi dal yn eich caru, dim ond bod yna rywun arall).
Y gerddoriaeth? Aruthrol. Y chwarae? Perffaith. Y cymeriadau a'r stori? Rhai o'r rhai mwyaf cofiadwy yn y diwydiant. Nid oes dim am Cave Story dwi ddim yn hoffi (efallai'r ffaith ei fod yn anodd iawn a bod diffyg llefydd arbed ar gyfer diweddgloeon gwahanol). Felly pan chwalodd fy nghyfrifiadur a chollwyd popeth oedd wedi’i arbed, roedd rhaid i mi wylo fy hun i gysgu am ychydig ddyddiau nes i mi sylweddoli bod hwn yn adeg berffaith i brynu’r fersiwn newydd o Steam) mae'r fersiwn gwreiddiol am ddim).
Mae digon o gynnwys newydd yn cael ei ychwanegu fel straeon a moddau newydd; mae'r gerddoriaeth wedi'i wella mwy ac mae'n fersiwn gwell ar y cyfan. Os nad wyt ti wedi chwarae Cave Story eto, mae'r fersiwn Wii a'r 3DS (os wyt ti o America) efo cefnogaeth rheolydd gwell, ond i'r rhai sydd yn chwilio am y profiad gwreiddiol, y PC ydy'r ffordd i fynd, ac efallai bydd rhaid i mi rwygo dy asgwrn cefn allan a churo dy gorff mewn arddull Mortal Kombat os nad wyt ti wedi chwarae'r gêm eto. Ti'n gwybod, mewn ffordd sydd yn bendant ddim yn arswydus.
5) On The Rain – Slick Precipice Of Darkness 4 gan Penny Arcade
Mae Penny Arcade yn gartref i rai o'r comics mwyaf doniol ar y rhyngrwyd ac yn gartref i'm nghyfres we gorau Extra Credits. Dwi hefyd yn hoff iawn o'r hen gemau chwarae rhan Japaneaidd (JRPG) cyfnod y Mega Drive a'r SNES (FF6, Phantasy Star) ac mae gemau Zeboyd yn llenwi fy awydd am y genre yma. Prynais Rain-Slick 3 cyn y sêl, dwi wedi'i fwynhau yn fawr iawn hyd yn hyn, ac yn meddwl ei fod yn syniad da i gael y gêm nesaf yn y gyfres yn ystod y sêl.
Paid poeni, nid oes rhaid bod wedi chwarae'r gêm gyntaf na'r ail i ddeall y stori, ond bydd angen darllen tipyn o Penny Arcade i ddeall beth maen nhw'n cyfeirio ato, ond mae digon o'r catalog cefn yn bleserus, felly mae'n beth da i ddarllen tra mae gemau yn gosod ar y cyfrifiadur. Os wyt ti eisiau hen JRPG dda gyda hiwmor clyfar yn annhebyg i dwpdra Borderlands a'r hiwmor-wedi'i-ddwyn-o-lyfr-comig o Deadpool, byddwn yn awgrymu Paper Mario: The Thousand Year Door, ond Rain Slick 2 a 4 fydda'r ail ddewis i mi.
6) FTL: Faster Than Light Official Soundtrack
Mae FTL yn un o'r ychydig gemau byddwn i'n dymuno cael tabled un pwrpas ar ei gyfer. Er bod y llygoden a'r bysellfwrdd yn gweithio'n iawn, byddwn i wrth fy modd yn chwarae hwn ar sgrin cyffwrdd, fel y gallwn deimlo fel comander y sêr go iawn. Bydda bobl yn edrych yn od arnaf ar y trên wrth i mi wenu yn slei wrth sleisio llong ofod yn ddau, hyd yn oed tra mae aelodau'r criw yn crefu i gael ildio. Ni fyddai'n waeth na'r olwg mae pobl yn ei roi i mi pan dwi'n dweud mod i'n gwrando ar ailgymysgiad FF6 a'r FTL OST.
Yn llawn trans lleddfol, dawns galonnog, ac amrywiaeth o guriadau a rhythmau, mae hwn yn llawn haeddu cael ei brynu. Mae hefyd yn swnio fel cerddoriaeth go iawn, felly dim ond pan fyddaf yn dweud wrth bobl nad yw gan fand maen nhw'n meddwl bod o'n od, ac nid y funud pan fydda nhw'n rhoi'r clustffonau ymlaen (i'r rhai ohonoch sydd yn gwybod am beth dwi'n sôn, mae'n well na'r metel emo ffug gwirion yna rydych chi'n ceisio gwneud i ni wrando arno.) Mae'r gerddoriaeth i gyd yn gweddu'r gêm, sydd yn gêm strategaeth hwyl yn efelychu'r gofod, yn hedfan llong fechan o un pen o'r alaeth i'r llall wrth ddianc oddi wrth lynges wrthryfelgar, gyda chymhlethdod gwir fel cnafon yn sicrhau dy fod di'n cael oriau o hwyl. Os nad wyt ti wedi codi FTL i fyny eto, byddwn i'n ei awgrymu yn fawr iawn, yn enwedig os wyt ti'n caru sci-fi clasurol fel Star Wars a Star Trek ac eisiau teimlo fel Kirk yn eistedd yn sedd y capten.
7) The Witcher: Enhanced Edition & The Witcher 2: Assassin of Kings – Enhanced Edition
Nid oes posib rhedeg Witcher 2 ar fy nghyfrifiadur. Dwi ddim yn gwybod pam mod i wedi'i brynu. Mae'n debyg am fod Pat o TBFP wedi dweud wrthyf wneud, a hefyd i'w ddefnyddio fel mesur i ddweud pa mor dda ydy cyfrifiadur. Ond, mae fy nghyfrifiadur i efo prin ddigon i redeg The Witcher. Os wyt ti'n hoffi Game Of Thrones, mae The Witcher yn addasiad gêm fideo dda o'r llyfrau.
Mae'r byd yn teimlo'n gwbl gredadwy ac ar ochr cwbl wahanol y badell ffantasi na Dragon Age: Origins, un yn teimlo fel ffantasi fodern heb gorachod barfog pwt a choblynnod gyda chlustiau sy'n pwyntio, tra mae'r llall yn llawn ohonynt. Fel crybwyllwyd cynt, mae hwn wir fel A Song Of Ice And Fire.
Mae'r ymladd yn gigog ac yn berfeddol, mae'r stori yn epig ac yn llawn ffantasi mawr, ac mae'r holl gymeriadau yn cyfarfod y stereoteipiau mewn ffordd dda. Gyda'r gemau eraill i gyd, hwn oedd yr un treuliais lleiaf o amser gydag ef, ond creda fi, dwi wedi mwynhau'r hanner awr dwi wedi chwarae hyd yn hyn yn fawr iawn, a fedra i ddim disgwyl nes bydd gen i gyfrifiadur digon da i chwarae Witcher 2.
Unwaith eto, Pat o TBFP ddylanwadodd y pryniad hwn. Ar ôl teimlo'n iselder clinigol am arswyd goroesi wedi chwarae Resident Evil 6 a Dead Space 3, System Shock 2 ydy'r ffordd gorau i dynnu dy hun allan o ormodedd y diwydiant gemau modern, ble mae pobl yn amddiffyn Silent Hill: Homecoming fel y gorau yn y gyfres.
Mae rheolyddion drwg yn ychwanegu at yr arswyd (wel, nid drwg, wedi dyddio) ac mae'r swm llwyr o stwff ti'n gorfod dysgu yn gwneud y gêm yn ddigon cymhleth i'w gadw'n ddiddorol ond hefyd nid gormod i'w wneud yn ddryslyd. I'r rhai sy'n teimlo bod Resident Evil 4 yn mynd yn y cyfeiriad cywir ar gyfer arswyd goroesi, dydy System Shock 2 ddim i ti, ond i'r rhai sydd eisiau gêm i gystadlu yn erbyn medrusrwydd Fatal Frame neu Silent Hill 1-3, mae hwn yn gwir ddarn o hanes arswyd goroesi. Dylai pob gwir ffan o'r genre gael profiad ohono (sef y rhai sydd yn adnabod fod Dead Space yn arswyd gweithred ac nid yn arswyd goroesi).
O gymharu â gemau eraill ar y rhestr yma, mae Dust efo ymladd llifo'n rhydd prydferth. O ddifrif, mae'n hawdd gwylio (yn annhebyg i'r olygfa-torri agoriadol, sydd efo'r top wedi torri ffwrdd am ryw reswm) yn ogystal â bod yn bleser i chwarae. Yn cymysgu symlrwydd ymladd Kingdom Hearts 2 gyda cadwyn-cyfuniad gemau gweithred cymeriad fel Bayonetta a DmC. Er bod yr RPG's gweithred eraill ar y rhestr yma yn canolbwyntio fwy ar ymladd arddull ffilm, mae Dust yn anelu creu argraff ac yn taro'n llwyr heb fethu.
Mae'r arddull celf hefyd yn drawiadol, yn gwneud defnydd lawn o'r cyllid cyfyng fel y mwyafrif o gemau annibynnol. Fy unig gŵyn ydy'r tôn; mae'n llawer mwy ysgafn ei galon nag yr oeddwn i wedi disgwyl. Mae'r cymeriadau yn fwy doniol nag yr oeddwn yn disgwyl, ond dois i werthfawrogi nhw dros gyfnod. Mae Dust yn wrthwynebydd llawer mwy cŵl nag y mae'r mwyafrif o gemau yn anelu cael (fel y Kratos twp neu'r Dante newydd), yn bennaf am ei wisg, ond hefyd am ei fod yn dal ei gleddyf sy'n siarad am ei ôl fel Ventus, sydd yn rhywbeth dwi'n meddwl sydd yn gwneud i gymeriad edrych yn fwy cŵl, fel gwain simsan Lightning sydd wedi clipio ar ei belt.
Mae symud i fyny lefel hefyd yn teimlo'n gorbwerus iawn, gan fod un yn dyblu dy iechyd, mae un arall yn dyblu dy ymosodiad, un yn dyblu dy amddiffyn a'r un diwethaf yn cynyddu dy allu arbennig ychydig bach. Mi fetiai dy fod di'n gwybod pa un wnes i ddim uwchraddio. Wir, mae'n ddewis anodd iawn pan ti'n lefelu i fyny, gan eu bod i gyd yn opsiynau posibl iawn, yn gwella dy gymeriad yn llwyr nes bod y gelynion ar yr un lefel. Os wyt ti'n caru brwydr steilus Bayonetta neu Kingdom Hearts 2 (dwi'n gwybod nad ydynt yr un peth, ond mae'r brwydro yn Dust yn debyg i'r ddau, ac yn annhebyg iddynt ar yr un pryd), dwi'n gobeithio byddet ti'n meddwl bod Dust yn bleserus iawn, yn enwedig os wyt ti'n hoffi'r naws ysgafngalon o'r ddwy gêm yna.
10) Dark Souls: Prepare To Die Edition
Nid oes gan y gêm yma reolaeth camera naturiol ar gyfer y PC. O ddifrif. Hefyd, nid yw'n gadael i ti ddefnyddio unrhyw reolwr gyda llai o fotymau na'r rheolwr Xbox 360 arferol, ond dwi ddim yn berchen ar reolwr wedi'i wifrio, gan eu bod yn llawer anoddach i'w cael na'r rhai diwifr. Mae hefyd yn amhosib dod o hyd i dderbynnydd diwifr sydd werth llai na phrynu rheolwr wedi'i wifrio newydd, sydd yn £20. Bydda hyn ddim yn rhy ddrwg os bydda fy addaswr rheolwr PS2 i reolwr USB ddim wedi torri, gallwn i gael trwy ystafell yn Dark Souls efallai wedyn. Felly, nes i mi gael rheolwr Xbox wedi’i wifrio, dwi ddim am fentro cyffwrdd yn Dark Souls rhag i mi ei dorri. Ti wedi cael dy rybuddio.
Cyfanswm Wedi'i Wario: £34.42
Arian ar ôl ar ddiwedd y sêl: £0.27
Gemau dwi'n difaru peidio prynu cyn rhedeg allan o arian: Rayman Origins, Total War: Shogun 2
Gemau mae eraill wedi prynu felly dwi wedi chwarae'n gydweithredol:Portal 2, Chivalry: Medieval Warfare, Castle Crashers
Casgliad: Pwy sydd angen bwyd? Gallaf i lwgu am ychydig ddyddiau os dwi'n prynu Shogun 2… disgwyl; nid oes gen i arian ar ôl o gwbl. Hen bryd i mi gael rownd bapur a byw mewn ofn bythol o unrhyw sêl Steam arall! I'r rhai ohonoch sydd wedi gwerthu eu henaid i'r diafol am fwy o arian Steam, gad sylwad isod efo sut aeth y sêl, hoffwn glywed beth mae eraill yn ei feddwl am y sêl.
Poeni am fethu un o adolygiadau gemau Jeff the Fridge? Cadwa olwg ar adran cyfresi TheSprout ar y dudalen ffan newydd Facebook.
Gwybodaeth – Lle i edrych am swyddi
Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch
Erthyglau Perthnasol: