NadoCLIC #22
Croeso i ffenestr #22 o'r Calendr Adfent NadoCLIC! Os hoffet ffenestr dy hun i ddangos dy stwff Nadolig (neu dylai hynny fod yn stwffin!!!) a chael cyfle i ennill Nintendo 3DS yna e-bostia dan@cliconline.co.uk cyn gynted phosib.
Nadolig Y Stryd
O, dwi'n breuddwydio
am y nosweithiau clud ger y tn.
Dwi'n edrych arna i fy hun
yn gwylio Taid yn gwasgu ei fenig wedi'i gwlychu ag eira.
Dwi'n anadlu'r golau sinamon.
Mae'r eira'n troi'n slwtsh.
Dwi'n cael cawl o'r lloches.
O, dwi'n hiraethu
am y teithiau cerdded ar hyd y bryn,
yn llusgo sled wedi'i benthyg heibio'r gilan a'r sgrechian
o ffrindiau dosbarth sydd yn parhau i gredu.
Dwi'n gwibio i fyny ac i lawr nes i mam ddod i'm nol.
Mae'n bwrw.
Mae'r sach cysgu yn socian.
O, dwi'n dymuno
i ail-fyw’r benwisg lliain llestri,
a cogio gwybod geiriau pennill
y garol lai adnabyddus.
Mae'r cymeradwyo yn ymchwyddo a dad yn dod i'r blaen gyda'i gamera.
Eistedd yn unig.
Siopwyr hwyr yn nos yn pasio'n brysur.
O, am boen yn fy nghalon
am yr oriau hynny yn addurno'r canghennau,
yn cael help ar y gadair gan fy chwaer fawr
ond ddim yn cyrraedd y top yn llwyr.
Mae cn Nadolig gorau'r adeg yn chwarae ar radio'r gegin.
Mae'r bysgwyr wedi symud ymlaen.
Mae'n ddistaw heddiw.
O, dwi'n crefu
y drefn gysurol
o agor gorwyllt, gwledd, mynd am dro ac araith
ac It's A Wonderful Life.
Mae pawb yn wylo dagrau hapus ar y diwedd.
Dwi eisiau perthyn.
Mae'r bag bin yn fwy meddal na'r llawr.
O, Nadolig
os byddwn i'n gwybod
fy mod i'n fod i anwylo a charu ti.
Bob munud yn hanes estron,
iaith wedi'i hanner anghofio.
Edrychaf i lawr arnaf fi fy hun,
yn anwybodus i'm dyfodol.
Maent yn edrych i lawr arnaf i,
yn anwybodus o'm ngorffennol.
Concrid chwerw.
Dyma Nadolig fy mhresennol.
I nifer o bobl ddigartref, dyw'r Nadolig yn ddim mwy na diwrnod arall y flwyddyn. I eraill dyma yw diwrnod anoddaf y flwyddyn. Mae'r cyswllt canlynol yn cynnwys straeon go iawn o'r stryd: Thames Reach
Pls cefnoga'r ymgyrch hwn: CaringGifts
Wyt ti'n ysgrifennydd, ffotograffydd, gwneuthurwr ffilm, darlunydd, DJ, cerddwr, animeiddiwr, blogiwr, bardd neu'n greadigol yn gyffredinol sydd efo rhywbeth i ddweud am y Nadolig? Wel, e-bostia sam@cliconline.org.uk i gael cyfle i gael ffenestr NadoCLIC dy hun nawr a chyfle i ennill Nintendo 3DS!







