Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Mis Hanes LHDT: Lle Diogel

Postiwyd gan zippedlips o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 22/02/2012 am 14:33
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl

  • cartwn
  • balwn

English version

Dwi wedi cael fy nileu ac yn anweledig.

Dwi wedi cael fy ngwahaniaethu gan bobl sydd yn dweud bod nhw'n cefnogi fi.

Roedd lle oedd unwaith yn le diogel i mi wedi newid i deimlo fel y lle gwaethaf.

Dychmyga bod rhywun yn gwneud gwahaniaeth ynddot ti oherwydd dy ogwydd rhywiol, hyd yn oed gan ffrindiau oedd ddim yn sylweddoli fod nhw'n gwneud hyn. Ar ben hynny, ti wedi bod yn cael problemau hunaniaeth rhyw dy hun. Ar ben hynny, ti'n ddi-deuaidd. Ti eisiau dod allan, ond sut fedri di pan ti heb gael dy dderbyn am dy ogwydd rhywiol? Dyma beth ydw i wedi bod, a dal yn, mynd drwyddo.

Mae fy ngogwydd rhywiol yn dod o dan yr ymbarl deurywiol, dwi weithiau yn dod allan fel bod yn ddeurywiol i fod yn gyfleus. Er hyn, dwi dal yn cael fy nhrin yn wahanol am beidio bod yn mono-rywiol. Mae gwahaniaethu yn ddrwg ond pan mae'n cael ei wneud gan bobl ti'n caru ac yn parchu, gallai wneud i ti gasu dy hun am bwy wyt ti, am ddiffyg dewrder (nid am sefyll i fyny drosot ti dy hun a dy gymuned) pan dim ti sydd ar fai yn y lle cyntaf.

Mewn ffordd, dwi dal yn casu fi'n hun pan dwi'n gwybod dylai fi ddim ond byddai pethau'n llawer gwaeth heblaw am ddau berson. Maen nhw'n bwysig iawn i mi, nhw ydy fy lle diogel a dwi'n caru'r ddau ohonyn nhw lot iawn. Dwi eisiau rhoi ychydig o gyngor i leihau'r tebygrwydd o bobl fel fi yn teimlo mor isel ag yr oeddwn i'n teimlo ac weithiau yn parhau i deimlo. Addysga dy hun am bobl o ogwydd rhywiol, rhywioldeb a hunaniaeth rhyw gwahanol. Paid anghofio'r + ar LHDT+.

Addysga dy hun cyn hawlio lle cynhwysol a diogel. Adnabod a pharchu fod rhywioldeb, gogwydd rhywiol a hunaniaeth rhyw yn wahanol i bobl ac nad oes rhaid teimlo siom na'n anweledig. Gofynna i bobl eu rhagenw. Paid tybio. Gofynna i bobl pa ragenwau ac enwau i ddefnyddio o flaen gwahanol bobl. Paid cyhoeddi rhywun fel bod 'allan' heb ganiatd. Paid cyhoeddi fod pobl yn rhywbeth dydy nhw ddim. Paid cyfeirio at bobl LHDT fel pobl hoyw. Dylai ti ddim ond defnyddio acronym os yw'n berthnasol i bawb (e.e. paid dweud fod pobl LHDT yn cael ei gwahaniaethu oherwydd eu gogwydd rhywiol, defnyddia LHD yn lle).

Cofia, dydy'r ffaith dy fod di'n rhan o sbectrwm neu acronym ddim yn golygu fod ti'n gwybod popeth amdano. Fy mhrif neges ydy i addysgu dy hun ac i beidio tybio. Cymera gwir ddiddordeb, nid i blesio eraill, i gau eu cegau nac i dicio blychau. Os ti ddim efo gwir ddiddordeb, paid gwastraffu amser yn smalio, dim ond er mwyn cau cegau ni. Ryda ni eisiau gwir gefnogwyr.

Dwi'n defnyddio'r erthygl yma fel 'dod allan' cyhoeddus i helpu rhoi'r dewrder i mi i sefyll i fyny drosta i fy hun ac eraill wrth wynebu gwahaniaethu. Dylai fy enw a theitl newydd fod yn gyfreithiol/swyddogol erbyn diwedd yr wythnos. Dwi'n 'agender', 'neutrois' ac yn  'pansexual'.  Dwi'n mynd i greu fideos YouTube a phostio ar tumblr yn y gobaith bydd hyn yn helpu rhywun arall fel fi. Dwi'n gobeithio un dydd i fod yn wir falch o bwy ydw i. Addysga dy hun.

Clicia yma am erthyglau LHDT theSprout

Sefydliadau – Stonewall Cymru

Gwybodaeth – Cyfeillgarwch

TheSproutDirect.co.uk – Loud and Proud: Darpariaeth LHDT Ieuenctid Caerdydd

Gwybodaeth – Perthnasoedd o'r un rhyw

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50