Llygod Mewn Ysgolion?
Pam bod gymaint o lygod mewn ysgolion cynradd yng Nghaerdydd?
Yn fy hen ysgol gynradd roedd gymaint o lygod mawr du yn byw yn y cypyrddau, roedd yn amhosib estyn adnoddau i helpu fy nghyd ddisgyblion weithio.
Roedd e hefyd yn afiach oherwydd doedd y glanhaewyr ddim yn cael gwared arnynt. A'r ffasiwn ddrewdod! Fe lewygodd yr athrawes unwaith wrth ddod mewn i'r dosbarth yn y bore! Yn y diwedd, roedd yn rhaid i'r ysgol wneud rhywbeth, ond roedd y cwmniau cael gwared o lygod yn rhy ddrud, felly, prynodd yr ysgol gath a gadawon nhw hi yn yr ysgol dros nos. Yn y bore, gwelodd y gofalwr y gath...neu beth oedd ar ol o'r gath. Roedd y llygod wedi ei bwyta a dim ond ei hesgyrn oedd ar ol!!!
Nid yw hwn yn dderbyniol! Mae'n rhaid i gyngor Caerdydd wneud rhywbeth er mwyn cael gwared a'r bwystfilod yma! Cyn hir fe fydd y llygod wedi bwyta'r holl blant ac athrawon yr ysgol, felly mae'n rhaid i ni ymateb yn fuan! I'r gad!
(Mae hon yn stori ffuglen ond gall hwn ddigwydd yn y dyfodol)
3 Comments – Postiwch sylw
pelrwyd123
Rhoddwyd sylw 62 mis yn ôl - 15th March 2011 - 11:32am
Mae hwn yn stori diddorol iawn Bedwyr, mwynheuais glywed am anturion dy ffrindiau. Dydw i methu aros i glywed dy stori nesaf!
Menter_Caerdydd
Rhoddwyd sylw 62 mis yn ôl - 15th March 2011 - 11:40am
ychafi! ma'r llun na'n afiach!!
hoffi'r stori am y llygod cofia!
Gruffudd Rhys Thomas
Rhoddwyd sylw 62 mis yn ôl - 15th March 2011 - 11:43am
Falch i weld dy fod wedi modeli am y llun uchod