Llinell Gymorth Nawr Yn 24 Awr
Ymunodd yr arbenigwr gwyllt grefft (bushcraft) Andrew Price (sy’n cyflwyno’r gyfres fideos poblogaidd A-Z Of Bushcraft & Survival) ’r Dirprwy Weinidog Dros Blant, Huw Lewis AC, i lansio’r gwasanaeth 24 awr Meic yn swyddogol ar ddydd Mercher, 26 Ionawr, yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae dros 4,000 o blant a phobl ifanc ar draws Cymru wedi cysylltu llinell gymorth Meic ers iddo gael ei lansio yn fis Mai 2010.
O ganlyniad y llwyddiant hwn, mae’r gwasanaeth wedi cael ei ymestyn, gyda’r oriau agor yn cynyddu i 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Bydd y gwasanaeth yn parhau i ddarparu un man cyswllt dros y ffn, negeseuon testun neu negeseuon gwib (IM) ar gyfer gwybodaeth gynhwysfawr, yn cyfeirio at wasanaethau eraill a darparu eiriolydd proffesiynol annibynnol fel bo’r galw.
Dywedodd Sian Pitman, Rheolwr Prosiect Meic: “Ers 26 Ionawr mae Meic ar agor 24 awr bob dydd. Mae hyn yn ddatblygiad gwych ac wedi digwydd am fod plant a phobl ifanc wedi dweud wrthym eu bod nhw eisiau gallu cysylltu gyda ni unrhyw amser pam maent angen cymorth.
“Ers ei lansiad yn fis Mai, mae’r llinell gymorth wedi derbyn ceisiadau am gymorth gan dros 4000 o blant a phobl ifanc dros Gymru. Mae o leiaf chwarter o’r ceisiadau yma wedi cael eu gwneud drwy neges testun neu neges wib.
“Mae cynghorwyr Meic wedi delio gyda phob math o ymholiadau a materion. Mae nifer o’r galwadau sydd wedi’u derbyn wedi bod yngl?n chael gwybodaeth a chefnogaeth i ddelio gyda pherthnasau teuluol, pryderon iechyd, problemau yn yr ysgol a phroblemau gyda ffrindiau.
“Rydym hefyd wedi gallu helpu dros 40 o blant a phobl ifanc drwy eirioli iddynt – hynny yw cynrychioli eu barn, dymuniadau a theimladau i oedolion pan maen nhw'n teimlo fod neb yn gwrando.
“Drwy ddarparu’r gefnogaeth yma mae Meic wedi helpu person ifanc herio penderfyniad ac i gael grant gan ei choleg lleol, wedi helpu person ifanc i gael cymorth gan ei ysgol i ddelio gyda bwlio, ac wedi helpu person ifanc arall i gael dweud ei farn am bwy fydda’n gofalu amdanynt pan roedd ei rieni yn ysgaru.”
Mae’r gwasanaeth am ddim ac yn gyfrinachol.
Ffn: 080880 23456
Testun: 84001
IM / Sgwrsio: www.meiccymru.org/cym
E-bost: help@meiccyrmu.org






