Lansiad Animeiddiadau Tlodi Plant
Mae Plant yng Nghymru wedi lansio cyfres o animeiddiadau tlodi gyda lleisiau plant a phobl ifanc ledled y DU. Gofynnom iddynt, "Beth ydy tlodi plant?"
Mae'r Gynghrair dros Fuddsoddi mewn Plant yn bartneriaeth o sefydliadau yn edrych ar wahanol ffyrdd i daclo tlodi yn y DU. Cafodd Plant yng Nghymru ei ariannu gan Eurochild i arwain y gynghrair gyda chefnogaeth ac arweiniad Children in Northern Ireland, Children in Scotland a Children in England.
Mae'r prosiect wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ledled y DU ar dlodi, ei effaith a'r datrysiadau posib. Wrth ddatblygu casgliad o 5 animeiddiad, sicrhaom fod y deunyddiau yn addas i blant a phobl ifanc ond hefyd yn ddeniadol i oedolion.
Cafodd gweithdai eu cynnal yng ngwahanol ardaloedd o'r DU ar bynciau oedd yn cynnwys iechyd, addysg, tai, addysg ariannol a diweithdra ieuenctid, a chafodd yr holl weithgareddau eu recordio'n glywedol.
Yna gweithiodd Plant yng Nghymru gyda Youth Friendly sydd yn arbenigo mewn cynhyrchu gwybodaeth ac adnoddau i blant a phobl ifanc. Roedd pobl ifanc o Youth Friendly yn dylanwadu ar ddyluniad a datblygiad yr animeiddiad.
Ar ddydd Mawrth, 16eg Rhagfyr, cynhaliwyd digwyddiad Buddsoddi Mewn Plant yng Nghaerdydd gyda siaradwyr o ledled y DU. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys lansiad y prosiect animeiddio.
Am wybodaeth bellach cysyllta ag Ed James, Swyddog Datblygu (Cyfranogi): Ed.James@childreninwales.org.uk, 029 2034 2434.
Nodyn is-olygydd: Beth wyt ti'n ei feddwl ydy tlodi plant? Gad i ni wybod dy farn di yn y sylwadau isod :)
Perthnasol:
Gwybodaeth/Cyngor:
Sefydliadau - Meic
*Cyflwyna dy stwff i'w gyhoeddi yma*






