Hwngari A'r UE
English version
GEIRIAU: Zsuzsanna Fodor
Mae diwylliant cyfoethog Hwngari i'w weld yn yr amryw arferion gwerin. Wrth gwrs, nid yw pob un yn cael ei gadw ato'r dyddiau hyn, ond mae yna dal rhai arwyddocaol. Mae'r arferion poblogaidd yma yn cynnwys Cawod Pasg pan fydd dynion yn taflu d?r dros ferched adeg Pasg fel eu bod yn aros yn ifanc ac yn ffres; Busjrs carnifal chwe diwrnod yn fis Chwefror yn nhref Mohcs pan fydd pobl yn gwisgo mygydau sydd yn edrych fel pennau geifr; a pheintio wyau yn y Pasg.
Mae Hwngari efo ychydig dros deg miliwn o drigolion, ac mae 2.5 miliwn mwy o bobl Hwngari yn byw mewn gwledydd cyfagos, gan gynnwys Slofenia. Mae chwarter o'n poblogaeth yn byw yn, neu'n agos i, Bwdapest, sydd yn nifer fawr iawn o gymharu 'r nifer o drigolion lleol mewn dinasoedd eraill Hwngari. Mae hyn yn golygu fod teithio o amgylch y brifddinas yn eithaf anodd; ond mae manteision i fyw yno. Mae Bwdapest yn aml yn cael ei alw'n Perl Yr Afon Donwy. Mae'r Donwy (yr afon hiraf yn yr Undeb Ewropeaidd) yn rhannu'r ddinas yn ddau: ar yr ochr dde mae mynyddoedd Buda yn sefyll uwchben yr afon, ar yr ochr chwith mae adeilad hyfryd y Llywodraeth fyd-enwog yn sefyll, ar lan y d?r. Mae'r olygfa o'r mynydd Gellrt gyda'r hen gaer a ffigwr fenywaidd ddymunol y Cerflun Rhyddid (Statue of Liberty) yn wych.
Nid yn unig ei fod yn edrych yn wych, ond mae'n brifddinas efo etifeddiaeth ddiwylliannol ddiddorol iawn hefyd. Gydag amgueddfeydd gwych (fel Amgueddfa Celfyddydau Cain, sydd gyda lle i dros 6000 o ddarluniadau a cherfluniau), theatrau hyfryd, arddangosfeydd diddorol ac wrth gwrs Labrinth Castell Buda (sydd yn 200 medr o hyd ac yn llawn ogofeydd a selerau, yn arwain ymwelwyr trwy ffyrdd dirgel), nid y brifddinas yn unig ydy hwn, ond calon ddiwylliannol Hwngari. Mae ein Baddonau Poeth, sydd yn deillio o'r goresgyn Twrcaidd yn y 17eg ganrif, yn fyd enwog ac yn boblogaidd iawn.
Mae addysg yn ran sylweddol o ddiwylliant, ac fel myfyriwr, dwi'n ceisio dilyn y newidiadau sydd wedi digwydd yn y maes yma. Ymysg y gwelliannau ydy'r posibilrwydd o ddysgu bob math o ieithoedd tramor (dwi'n dysgu tair iaith arall). Mae ysgolion efo dulliau dysgu mwy newydd i roi gwybodaeth gyfoes i ddisgyblion.
Rhywbeth da arall ydy fod posibilrwydd newydd i fynd dramor. Dwi wedi cael y cyfle i ymweld Cham, cyfeilldref Kecskemt, yn yr Almaen; Karnten (yn Awstria) a Llundain gyda fy ysgol. Mae'r holl deithiau yma yn parhau i fod yn rhai o'r wythnosau mwyaf braf ac anturiaethus o'm mywyd.
Roeddwn i'n mynd i ysgol uwchradd wyth mlynedd yn fy nhref, sydd yn golygu fod myfyrwyr yn dechrau dysgu yno yn y 5ed dosbarth ac yn gorffen yn nosbarth 12, sydd yn anffodus yn cael trafferthion mawr. Mae'r llywodraeth eisiau cael gwared ar y math yma o ysgol am resymau economaidd. Hyfforddiant galwedigaethol sydd yn cael ei ddatblygu yn lle hyn, a golygai hyn niwed iawn i'r 104 ysgol uwchradd wyth mlynedd a'r 30,000 myfyriwr sydd yn astudio ynddynt. Yn y cyfamser, nid oes datrysiad wedi bod i hyn, ac mae'r myfyrwyr a'r athrawon yn gobeithio bydd y llywodraeth yn tynnu'r penderfyniad yn l.
Heblaw am yr uchod, dwi'n hapus iawn efo fy ysgol a'r amgylchedd dwi'n astudio ynddo. Dwi'n bwriadu cymryd rhan yn y rhaglen Erasmus pan fyddaf yn mynd i'r brifysgol. Dwi'n gobeithio cael cyfle i dreulio ychydig fisoedd yn astudio ym Mhrydain neu'r Eidal. Byddai'n bosibilrwydd diddorol iawn i ddod i adnabod diwylliannau a ffordd o fyw gwahanol.
Cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, dwi'n meddwl mai'r budd mwyaf o'r UE ydy i dreulio dramor yn rhydd. Cysidra fod fy mam ddim ond yn gallu mynd i Odessa yn yr hen Rwsia efo rhaglen cyfnewid myfyrwyr, tra dwi'n cael teithio i gymaint o wledydd mor ifanc, mae hyn yn fantais fawr. Mae mynd i wlad tramor yn gallu bod yn agoriad llygaid i bawb (fel yr oedd i fi) ac yn helpu ni i ddeall safbwynt gwahanol bobl eraill. Dwi'n credu fod hyn yn hanfodol er mwyn i wledydd cydweithio: mae deall safbwyntiau eraill yn cychwyn gyda dod i adnabod rhywun. Os byddai rhai ifanc yn cael eu magu gyda'r fath meddylfryd, drwy ddeall a goddef barn eraill byddant yn gallu cydweithio efo unrhyw un, a datrys hyd yn oed y problemau mwyaf anodd efo'i gilydd, yna byddai hyn yn rhoi rhyddid deallusol iddynt. Dwi'n gobeithio mai dyma'r ffordd rydym ni yn mynd ac mai dyma mae'r UE yn ei gynnig i'w drigolion/aelodau.
Pan roeddwn i yn Novi Sad (Serbia) haf diwethaf gyda'r Fforwm Ieuenctid Gwledig Ewropeaidd (ERYF), codwyd mater gan y bobl ifanc am deimlo ar wahn i wledydd eraill. Gwnaeth hyn i mi feddwl lot, a dwi'n credu fod pobl Hwngari, gan fod ein gwlad yn eithaf bach ac wedi ymdrechu gyda sefyllfaoedd gwleidyddol caled, wedi cael yr un broblem am gyfnod hir. Dwi'n meddwl bod perthyn i'r UE yn datrys y teimlad yma o fod ar wahn.
Er ein bod wedi rhoi gobeithion uchel ar yr UE, dwi ddim yn meddwl ei fod wedi dod a newid enfawr i'n bywydau bob dydd. Roeddwn i'n meddwl, a dal yn meddwl, bod cefndir ideolegol y sefydliad hwn a'i feddylfryd cychwynnol yn apelio llawer, ond yn fy marn mae'n sydyn yn colli ei syniadau a'i werthoedd gwreiddiol , felly bellach mae'n fwy o sefydliad economaidd syml. Ia, dwi'n deall ac yn gwerthfawrogi fod yr UE wedi bywiogi bywyd economaidd sawl gwlad, dwi'n gobeithio bydd Hwngari yn un ohonynt ryw ddydd.
Gan mod i'n fyfyriwr a dwi ddim yn gwbl gyfarwydd 'r wleidyddiaeth, ni allaf wneud unrhyw gasgliadau mawr am ddyfodol yr UE. Ond, dwi'n sicr oherwydd ei arwyddocd economaidd, bydd yn sefydliad sydd yn parhau am hir iawn.
Pan ddaw at fy nghynlluniau i am y dyfodol, dwi'n gobeithio gallaf fynd i brifysgol dda a delio gyda materion tramor neu ieithoedd. Byddwn i wrth fy modd yn astudio dramor am dipyn, a dwi'n gobeithio byddaf yn cael y cyfle i wneud hyn. Dwi'n meddwl bydd bod yn aelod o'r UE yn gwneud hyn yn llawer haws. Ar l gorffen astudio dwi'n gobeithio cael swydd dda rhywle yn Hwngari. Dwi ddim eisiau byw dramor am gyfnod hir, a byddwn yn hoffi ffeindio cymuned fy hun a ffrindiau da yng ngwlad fy hun. Gan ei bod yn ffasiwn y dyddiau hyn, mae nifer o bobl Hwngari yn byw a gweithio dramor gan fod y cyflog yn llawer uwch yno. Mae'n achosi problemau e.e. mae llawer o ddoctoriaid a nyrsys Hwngari, ar l cael eu haddysg yma am nifer o flynyddoedd, yn gadael ein gwlad oherwydd y cyflog isel ac yn achosi prinder yn ein system gofal iechyd. Felly, gan fod i yn caru fy ngwald, fy nheulu a fy ngwreiddiau diwylliannol, wedi dysgu a chasglu gwybodaeth a phrofiad o wledydd eraill, dwi ddim yn meddwl gallwn i adael y rhain i gyd am byth a chychwyn bywyd newydd unlle arall yn y byd.
Yn fy amser rhydd dwi wrth fy modd yn darllen, chwarae gitr a gwrando ar gerddoriaeth (dwi'n hoffi cerddoriaeth roc a Gwyddelig). Dwi'n hoff iawn o ysgrifennu a pan fydd gen i amser, dwi fel arfer yn gweithio ar stori fer neu nofel. Dwi wrth fy modd yn darllen barddoniaeth, fy meirdd gorau ydy Catullus, Shakespeare a Stevan Raickovic.
Gan fod gen i frawd llai, dwi'n hoffi treulio amser efo fo; rydym yn chwarae ac yn siarad llawer efo'n gilydd. Pan gallaf ddod o hyd i'r amser, dwi'n hoffi mynd i gerdded am hir yn fy nhref neu gefn gwlad. Mae natur yn wastad yn synnu fi, ac mae gwylio beth mae pobl eraill yn gwneud yn y strydoedd a sut maen nhw'n siarad yn ddiddorol hefyd.
Mae gen i lawer o ffrindiau dramor, a dwi'n cadw cysylltiad gyda nhw drwy e-byst a llythyrau post – mae'n well hen i lythyrau drwy'r post gan eu bod nhw'n fwy personol. Am fod gen i ddiddordeb mewn diwylliannau ac ieithoedd gwahanol, dwi'n treulio llawer o amser yn darllen llyfrau neu gerddi mewn ieithoedd eraill, Ond, y ffordd gorau o ddod i adnabod estronwyr ydy i ymweld 'u gwlad a dwi wrth fy modd yn teithio, Yn ffodus, dwi wedi cael llawer o gyfleoedd i deithio, a bob tro byddaf yn ymweld gwlad, dwi'n cael llawer o brofiadau gwych. Heblaw am hyn, dwi wrth fy modd bod efo fy nheulu a'm ffrindiau annwyl, sydd yn golygu popeth i fi.
Zsuzsanna Fodor,16
Hwngari
Lluniau:
- Adeiladu'r Senedd yn Bwdapest a'r afon Donwy
- Pensaernaeth
- Cefn gwlad hyfryd Hwngari
- Amgueddfa pentref awyr agored yn rhan Orllewinol y wlad
Darllena straeon tebyg eraill:
Awstria. Y siwrne ydy'r wobr
Gwlad y Belg. Y byd i gyd o'm mlaen i
Bwlgaria. Rhosyn Ewrop
Ochr arall Cyprus
Gweriniaeth Tsiecaidd
Denmarc. Paradwys myfyrwyr
Bywyd Estonaidd
Ffrainc
Y Ffindir
Groeg