Hollol Cleggiol
English Version
Mae’r etholiad yfory. Mae’r wasg wleidyddol yn ffrwydro gyda’r cyffro, a pam oeddet ti’n meddwl eu bod wedi cyrraedd y brig, fe basiodd y ddadl gyntaf ac ail ac mae rhywbeth hollol newydd, safbwynt gwahanol wedi dod i effaith. Mae rhai pobl yn ei alw’n “Effaith Clegg”.
Fe wyliais y ddwy ddadl gyda nodiadur yn fy llaw, yn sgriblo drwy’r llofruddied si awr a hanner ar ITV, yn ysgrifennu dim yn ystod y rhaglen Sky News. Doedd o ddim yn beth roeddwn i’n disgwyl. Dim cyffro i ddweud y gwir, ychydig o siarad yma ac acw, ond dim dadlau cynhyrfus, sydd yn beth roedd y naw miliwn o bobl oedd yn gwylio eisiau ei weld dwi’n sicr. Dyna oeddwn i eisiau. Ac mae hyn yn cael ei gadarnhau mwy neu lai gan y gostyngiad mewn gwylwyr erbyn yr ail ddarllediad byw.
Roedd disgwyliadau uchel ar David Cameron, dyn sydd yn debygol o gael ei adnabod am ei swyn a’i allu i siarad a phlesio. Fe wnes i hyd yn oed weithio allan byddai cynyddiad mewn cymorth sydyn i’r Ceidwadwyr, yn gwybod fod y cyhoedd wrth eu boddau gyda ffŵl cain da yn nawddogi nhw mae Piers Morgan yn esiampl dda.
Ond, yn syndod i mi nid oeddwn yn gorchuddio fy wyneb mewn dig ond yn eithaf hapus gyda beth roeddwn yn ei wylio. Mae Nick Clegg wedi ennill y dadlau yn glir. Roeddwn yn gallu gweld hyn drwyddo, a drwy gysidro canlyniad yr wythnos gyntaf rhifau pl Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynyddu gallwn weld yn glir ei fod wedi ennill parch llawer o’r cyhoedd.
Ond er i Clegg greu argraff arnaf yn gyson, roeddwn yn parhau i feddwl hyd yn oed wrth iddo orffen mai Cameron oedd piau hi. Am resymau dwi erioed wedi cael gwybod, mae’n ymweld fod y mwyafrif o’r cyhoedd yn anghytuno gyda fi, a dwi’n casu Cameron, yn ffieiddio ac yn melltithio ef drwy’r rhaglen.
Wrth iddo gychwyn, y peth cyntaf ddaeth i’r meddwl pan welais ef oedd fy mod bron cant y cant yn siŵr ei fod yn gwisgo colur. Mae hyn yn dweud bob dim. Cameron, y twyllwr, yn cuddio ei gelwyddau tu l i’w baent wyneb. Mae fel y Joker yn Batman, yn peintio colur lliw croen dros ei wyneb clown gwir a chreulon.
Mae Cameron eisiau pwysleisio fod hwn yn blaid Geidwadol wahanol. Un o’i brif negeseuon ydy ei fod yn caru’r GIG, yn gwybod yn iawn y byddai’n ei felltithio ychydig flynyddoedd yn l. Mae hyn i gyd yn dangos yr hunan ymwybyddiaeth o ba mor ddrygionus ydy’r blaid hwn mae’n Geidwadwr hunan ymwybodol sydd yn rhannu’r un gwerthoedd a Thatcher ond yn gwybod sut i guddio hyn. Rydym yn gweld hyn a’r rhaglen “amlygu am y rhesymau anghywir” Toby Young When Boris Met Dave, ynddo mae David Cameron yn lluchio planhigyn mewn pot allan o’r ffenestr a ddim yn cael ei ddal gan fod o mor ‘ddrwg’ (Dwi’n sn am y rhaglen yma llawer am ei fod wedi dod yn un o’r pethau gorau sydd wedi’i wneud erioed mae fel y fersiwn gwleidyddol o Plan 9 From Outer Space, neu fersiwn Ceidwadol o Stolz der Nation).
Mae’n ddrwg gen i, annwyl ddarllenwr, dwi wirioneddol methu gweld beth mae pobl yn ei weld yn y mwydyn bach gresynus hwn, Mae ei ymdrechion i guddio ei farn asgell dde mor atgas “Roeddwn yn siarad efo rhywun du yn ddiweddar” meddai ti’n afresymol o dryloyw, David roedd Ceidwadwyr yn Eton yn dy amser di yn gwisgo crysau-t “Crogi Nelson Mandela”, oes rhaid i mi atgoffa ti?
Yn falch fel yr ydwyf yn y ffordd mae pethau wedi digwydd mae’r Democratiaid Rhyddfrydol efo cyfle i ennill y peth hwn wedi’r cyfan (a phaid chael y gwybodaeth anghywir gyda’r lol senedd grog yn etholiad gyffredinol 1997, roedd pawb yn meddwl na fyddai Tony Blair yn ennill digon o seddi i ennill mwyafrif cyffredinol, er ymchwyddo pleidleiswyr) ond dwi ddim yn mynd i drafferthu efo’r busnes yma am Clegg ar y funud. Wrth i mi wylio’r ddadl gyntaf roedd ymddygiad Brown yn ddiddorol iawn.
Yn ddiweddar, dwi wedi dod yn ychydig o gefnogwr Brown. Nid cefnogwr Llafur, ond cefnogwr Brown. Fe lwyddodd i wneud hyn pan gafodd ei gyfweld gan Piers Morgan mae’n debyg ei bod yn wir, os wyt ti’n rhoi unrhyw un wrth ochr Piers Morgan fyddent yn edrych fel sant i gymharu. Ar l creu argraff arnaf, fe ddoi i garu’r hen Albanwr. Fe sylwais fy mod yn cytuno gyda llawer o beth roedd yn ei ddweud, ac byddwn yn amddiffin ef os oedd rhywun yn ei athrodi. “Mae'n ymweld fel dyn mor neis,” meddaf.
Ac mae o yn ymweld fel hyn. Dwi ddim yn gwybod beth sydd o’i gwmpas. Mae’n ymweld yn ddidwyll wrth geisio gwneud y peth iawn. Mae’n hen Lafur chwith, o’r genhedlaeth cyn Llafur newydd Blair mae o’n poeni ond mae’n cael ei ddal yn l gan ei blaid ei hun sydd wedi diwygio i’r canol diolch i’n cyn Prif Weinidog y Gath Caer.
Ac fe welais yn y ddadl gyntaf yn edmygu Clegg. Fe ymosododd ar Cameron nifer o weithiau, ond byth efo’n Nicholas ni. Mae Brown yn edmygu Clegg, yn dymuno gwneud pethau'r un ffordd “Dwi’n cytuno gyda Nick”, rydym yn ymwybodol, oedd frawddeg ddefnyddiau fwyaf. Wel, dyna beth mae’r newyddion yn ei ddweud, fe ysgrifennais i o fel “Fel yr oedd Nick yn ei ddweud” ond mae’n debyg bod rhaid derbyn yr ergydion (Daria chi gyfyngau prif ffrwd).
Mae Brown yn caru Clegg i’r pwynt ble pan gytunodd Clegg gyda Cameron am rywbeth nad oedd yn bosib anghytuno gyda fod gofalwyr yn bobl dda, dwi’n meddwl roedd Brown yn wirioneddol edrych wedi’i fradychu roedd ei wyneb yn llawn anobaith, ei lygaid yn sgrechian “Nicholas, cara fi, cara fi!”
Ac wedyn, pan honnodd Clegg ei fod yn anghytuno gyda Brown roedd wirioneddol yn edrych yn boenus ac wedi’i frifo. Bendith i’r diawl bach. Nid yw’n hawdd siomi dy hun, ti’n gweld, ac mae gweld rhywun sydd heb a gallai gymryd dy swydd aww, mae’n rhaid bod hynna’n boenus.
Wrth gwrs mae’n gallach i haeru yn syml ei fod yn cadw Clegg yn hapus os bydd senedd grog bydd rhaid iddo gludo tuag ato. Dwi wedi clywed si mai un o geisiadau Clegg os byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymuno Llafur ydy fod Brown yn cael ei ddisodli. Celwydd cas yntau’r gwir oeraidd?
Ar y funud hon dwi ar gic Clegg. Y fo ydy’r dyn i mi. Dwi’n edrych ymlaen at weld y ddadl ddiwethaf, pam fydd pob llygaid arno wrth gwrs, yn gwylio fel hebog i weld unrhyw gam. Dwi’n amau y gwnaiff unrhyw beth. Mae’r Daily Mail a’r Daily Telegraph wedi bod yn ymosod arno am bythefnos yn barod. Dau bapur Ceidwadol yn mynd ar l Clegg yr wythnos wedi tyfiant mewn pleidleiswyr Democratiaid Rhyddfrydol roeddwn wedi synnu gad i mi ddweud wrthyt. Chwarae teg, un o’r prif nodweddion sydd yn gyffredin rhwng y cyfryngau asgell dde ydy eu tryloywder llwyr.
Roeddwn yn disgwyl mwy o farn Clegg yn ystod yr ail ddarllediad, ond dim ond ychydig o hyn welwyd dim digon i unrhyw un ddal yn erbyn y “Ffactor Clegg”. Roedd yn bendant yn rhywbeth oedd wedi cael ei godi gyda’r ddau ymgeisydd gwrthwynebol yr wythnos cynt. Athrodwch Clegg, oedd y cyfarwyddiadau, mae’n edrych yn rhy dda, mae’n rhaid i ni gael y diawl yma allan o’r gystadleuaeth!
Ond mae’n edrych yn dda ar y funud, yndi? O leiaf dyna dwi’n mynd i gadw ato. Dwi’n hoffi’r byd dwi’n fyw ynddo ar y funud, lle mae Clegg efo gobaith go iawn o ennill a budd yr amser am newid yn gallu digwydd o ddifrif.
Ia, gad i mi freuddwydio pethau da am fy nyfodol am unwaith, dim ond am ychydig hirach. Pls?
Nodyn Is-Olygydd: Fel gyda phopeth ar theSprout, mae’r erthygl hwn yn adlewyrchu barn bersonol yr awdur ac ddim o angenrheidrwydd rhai theSprout. Os ydy’r erthygl hwn wedi cythruddo ti yna ymateba, cyflwyna erthygl, critigia Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Gwyrdd, y BNP, Plaid Cymru, pwy bynnag ond paid pwdu a gofyn iddo gael ei ddileu. Mae etholiad pwysig iawn yn mynd i ddigwydd yn o fuan a byddai’n beth da cael ychydig o ddadl. Chocs awe!







