Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Helpu Cat I Mewn I'r Siartiau!

Postiwyd gan Tom_Bevan o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 01/11/2013 am 14:40
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth

  • cat

English version // Yn Saesneg

Yr wythnos hon, mae Cat Southall o CLICarlein ei hun, wedi rhyddhau ei sengl chynaf ffantastig One Day At A Time, wedi'i gymryd o'i albwm unigol newydd.

Mae'n ddarn nerthol o hyfrydwch roc-pop, gyda chytgan bachog iawn, a gyda dy gymorth di mae posib ei gael yn y siartiau.

Mae Cat, prif lais blaenorol y band roc De Cymru boblogaidd Sal, wedi cychwyn gyrfa unigol lwyddiannus, sydd wedi gweld hi'n gwerthu allan Clwb Ifor Bach ar gyfer ei sioe lansio weledol iawn a dod yn Artist yr Wythnos ar BBC Radio Wales. Roedd Cat hefyd yn bwnc dogfen Channel4 llynedd, o'r enw Sing For Your Life, oedd yn gorffen gyda pherfformiad i sawl mil yn yr Royal Albert Hall eiconig yn Llundain, yn ogystal â pherfformio dyletswyddau llais cefndir i'r arwyr lleol y Manic Street Preachers ar eu halbwm diwethaf, Postcards From A Young Man.

"Dyma fy sengl unigol cyntaf a bydda'n golygu'r byd i mi os gall pobl brynu copi am 79c yn unig o iTunes a helpu yn fy nod i'w gael yn y siartiau! Dweud wrth dy ffrindiau a theulu a lledaenu'r neges!"

Mae'r sengl yn costio llai na phunt ac ar gael trwy iTunes, Amazon mp3, Xbox Music, Google Play, eMusic, MySpace Music, Nokia, 7Digital a Juke, ond dim ond yr wythnos hon. Felly plîs lawrlwytha'r sengl cyn gynted â phosib i gefnogi ymgyrch Cat.

Mae fideo'r sengl i'w weld ar YouTube ac yn cynnwys Graffeg Symudol gan y darlunydd lleol Rory Williams. Mae grŵp Facebook wedi cael ei gychwyn ar gyfer ymgyrch y sengl ar www.facebook.com/catsouthall neu drwy ddilyn Twitter Cat @catsouthall.

Yr unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy prynu’r sengl yr wythnos hon a helpu cantores dalentog iawn, a ffrind ProMo-Cymru o CLICarlein, i helpu symud un cam yn nes at ei breuddwyd.

Gwybodaeth – Cerddoriaeth

Sefydliadau – Cardiff Soundscene

Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch

Erthyglau – Categorïau - Cerddoriaeth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50