Gwyliau'r Pasg
Mae Menter Caerdydd yn gobeithio trefnu gweithgareddau ar gyfer disgyblion Glantaf a Phlasmawr yn ystod gwyliau'r Pasg.... pa fath o bethau y byddech chi'n hoffi gweld yn cael eu cynnal?
A fyddech chi'n hoffi gweld gweithgareddau i bawb fesul blwyddyn, neu pawb gyda'i gilydd?
Ydych chi eisiau'r cyfle i gwrdd a disgyblion ysgolion eraill?
Beth am daith i Oakwood, neu daith dros i Lundain a chyfle i siopa/gweld sioe? Gweithdai undydd? Beth am goginio? Canu? Canwio? Unrhywbeth arall?
Rhowch wybod i ni pa fath o bethau y byddech chi'n hoffi gwneud yn ystod y gwyliau, ac fe driwn ni drefnu gweithgareddau ar eich cyfer chi!!!
Rhowch sylwadau isod...
6 Comments – Postiwch sylw
Y Gorau yn y Byd
Rhoddwyd sylw 62 mis yn ôl - 15th March 2011 - 11:46am
Syniadau da ond 'dw i wedi cael digon ar ddisgyblion Glantaf. Efallai cynnal gweithdai ar wahan?
Gruffudd Rhys Thomas
Rhoddwyd sylw 62 mis yn ôl - 15th March 2011 - 11:47am
Gem bocsio rhwng y ddau ysgol, bydde hwn yn berffaith. Falle twrnament rygbi ynghyd a'r urdd.
Fantastic324
Rhoddwyd sylw 62 mis yn ôl - 15th March 2011 - 11:48am
fi byth yn cymryd rhan
pelrwyd123
Rhoddwyd sylw 62 mis yn ôl - 15th March 2011 - 11:50am
Byse fe'n dda i fynd i canwio a neud pethau awyr agored, byddai cyrsiau ffotograffiaeth yn dda hefyd :)
Gruff Harries3
Rhoddwyd sylw 62 mis yn ôl - 15th March 2011 - 11:50am
Dwi i ffwrdd dros y pasg, felly byddwn i ddim yn gallu cymryd rhan y y gweithgareddau ond dwi'n credu bod gweithdau canwio, syrffio neu dringo yn syniad da :)
pelrwyd123
Rhoddwyd sylw 62 mis yn ôl - 15th March 2011 - 11:52am
Rwy'n meddwl dylsai mwy nag un blwyddyn fod gyda'i gilydd ond dim ond 1 Ysgol ar y tro achos dyw pawb ddim yn hoffi mynd gyda pobl dydynt ddim yn adnabod.. Bysa trip i Lundain neu i Oakwood neu rywle felna yn bendant yn dennu pobl a bydd llawer o fobl eisiau mynd :)