Gwleidyddiaeth & Cyfryngau: 6Music, UKIP & ‘Yoof’
Yn edrych yn l ar ddwy stori fawr yn torri ar Newyddion BBC dynnodd fy sylw, a llawer o’r cyhoedd
1. Yr Etholiad Cyffredinol. Wedi’n bradychu gan y Democratiaid Rhyddfrydol, a brofodd cynnydd anhygoel o gefnogaeth gan y genhedlaeth ifanc, fe drois yn l at Lafur. Ond yn anffodus rydym wedi diweddu efo boio wyneb sgleiniog o Eton yn cael ei gefnogi gan y bradwr Cleggi. Oes oes, mae gennym i gyd hawl i’n barn. Gad i ni weld y toriadau.
2. Penderfyniad ffl y BBC i geisio cau eu gorsaf unigryw 6Music. Fel rhywun sydd efo obsesiwn miwsig, dwi wedi treulio misoedd yn ymgyrchu ac yn methu anadlu drosto. Diolch byth, mae wedi cael ei achub nawr gallem anadlu unwaith eto. Stỳnt cyhoeddusrwydd mae’n siŵr, ond er hyn mi weithiodd; fe gynyddodd gwrandawyr yr orsaf.
Mewn cyd-dyriad stormus o’m dicter dros y BBC yn gwneud gormod a’r cyflwr ofnadwy o Lywodraeth heddiw a gwleidyddiaeth ar y cyfan. E-bostiais y pleidiau gwleidyddol oedd wedi sefyll yn fy ardal i am fy mhryderon am y sefyllfa 6Music.
Dyma ymateb sarhaus UKIP (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).
Annwyl Ms Morris
Diolch am eich e-bost. Mae UKIP yn derbyn miloedd mawr o holiaduron ar amryw bynciau (o amddiffyn ein coedwigoedd gwerthfawr, i’r ddadl hela, i daclo tlodi byd-eang).
Mae’n ddrwg gen i ond nid oes amser gennym i yrru pob un o’r rhain ymlaen i’r 500+ o ymgeiswyr UKIP. Rydym yn blaid fach sydd yn ddibynnol ar roddion gan aelodau a chefnogwyr, a ddim yn cael ein cefnogi gan fusnes mawr nag, yn wir, y TUC (Cyngres yr Undebau Llafur). Mae’n ofn gen i na fedrwn ni felly ymateb i’ch ymholiad mewn llawer o fanylder. Nid yw hyn yn awgrymu un ai cefnogaeth nag gwrthwynebiad i'r mater penodol rydych chi wedi ei godi. Os ymwelwch www.ukip.org a chlicio ar ‘polisau’ byddwch yn gobeithio yn gallu cael mewnwelediad i gyfeiriad cyffredin dulliau UKIP.
Mae UKIP yn ffan fawr o’r BBC ac yn adnabod y cyfraniad mawr mae wedi ei wneud i fywyd diwylliannol Prydeinig dros y degawdau. Rydym hefyd yn cefnogi’r drwydded ariannir gan y cyhoedd. (Os ydych chi erioed wedi gwylio teledu America yna byddwch yn deall beth ydym yn ei feddwl). Er hynny mae’r Gorfforaeth yn bendant wedi gadael i safonau lithro yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn ymweld wedi ildio yn gyfan gwbl i’r agenda rhyddfrydiaeth chwith.
Un esiampl ydy “Cynhesu Byd-eang” a’r faith fod y BBC wedi cofleidio hyn yn gyfan gwbl, yn anwybyddu’r ffaith fod miloedd o wyddonwyr parchus efo amheuon dwys am y “gwyddoniaeth” y tu cefn iddo, amheuon sydd nawr wedi byrstio i’r wyneb. Esiampl arall ydy taerineb ar ddyfynnu pellterau mewn metrig pan mai’r cywerth Prydeinig ydy ‘milltiroedd’. Er esiampl, newyddiadurwr BBC John Simpson, yn ystod y rhyfel Iraq cyntaf, yn adrodd darn i’r camera: “Mae lleoliadau’r Iraqi pum cilomedr i lawr y dyffryn.” Yn sydyn roedd yna sŵn ‘wooshio’ uchel ac roedd yr aer yn dew gyda llwch, cerrig a chreigiau. Oddi ar y camera fe glywsom Simpson yn dweud: “MYN UFFAR I, roedd hwnna 20 troedfedd i ffwrdd!”
Fe allem hefyd ychwanegu pam bydd y BBC yn stopio hysbysebu ei swyddi gwag mewn papurau newydd asgell chwith fel The Guardian, efallai byddai beirniadon yn argyhoeddedig o’i amhleidioldeb.
Os byddai gwyrth yn digwydd a byddai’r BBC byth yn dychwelyd i’r doctorine Reithian o “Hysbysu, Esbonio, Adlonni”. Dwi’n amau y byddai’n rhyfeddu ar yr ymateb positif gan y cyhoedd.
Ar y mater o Music-6 ayyb Ni fyddai UKIP efo unrhyw wrthwynebiad i’r Gorfforaeth gael gwared ar rai o’i wasanaethau (I ddweud y gwir rydym yn meddwl ei fod yn ceisio gwneud llawer, llawer gormod yn barod) a byddem yn cymeradwyo polisi o lai o sianeli ond gyda safon well. Gall UKIP ddim gwneud sylwad ar ba wasanaethau penodol ddylai cael gwared ohonynt. Mae hynny yn benderfyniad gweithredol i’r rhai sydd yn rhedeg y BBC. Gobeithion ni ydy fod y Gorfforaeth yn talu mwy o sylw i ‘Lloegr canol’ yn y dyfodol, y rhai sydd mewn gwirionedd yn talu’r biliau, a llai o sylw yn gweini i’r ‘Yoof’, gyda’r rhan fwyaf ohonynt sydd yn gwylio SKY beth bynnag.
Byddwn yn manylu ymhellach ond rwyf yn gobeithio eich bod wedi cael darlun llawn erbyn hyn. Diolch am gysylltu gyda ni.
David Challice
Prif Swyddfa
Plaid Annibyniaeth DU
Dyma fy ymateb i
Annwyl UKIP,
Nid yn unig ydw i wedi ffeindio’r e-bost hwn yn eithaf sarhaus. Roeddwn yn siomedig gyda diffyg cyfranogiad UKIP yn y mater o doriadau’r BBC. Er hynny dwi’n derbyn fod hyn yn esgusodol oherwydd y diffyg cefnogaeth fawr e.e. ymgeiswyr, TUC, busnesau.
Ond yn siarad o’r pwynt uniongyrchol y ‘Yoof’ Prydeinig rydych chi’n siarad amdanynt, mae’r BBC wedi awgrymu ein bod ‘ni’ yn troi at Sianel 4 (neu fel awgrymwyd chithau, SKY, sydd gyda llaw yn rhywbeth dwi ddim yn sicr dwi erioed wedi ei wylio). Yn union sut mae hyn yn effeithiol neu’n broffesiynol, yn arbennig gan y llywodraeth a’r pwysau mae wedi’i roi ar y gorfforaeth ariannir gan y cyhoedd? Ydy’r BBC wedi rhoi’r gorau iddi ar l lledaenu ei hun yn rhy denau? Nid yn unig hyn, ond maen nhw hefyd wedi awgrymu cael gwared ar y rhwydwaith pobl ifanc BBC Switch a’r rhwydwaith sydd yn cynorthwyo pobl ifanc i gael i mewn i’r cyfryngau, BBC Blast. Ar l i ni golli 6Music yn llythrennol bydd dim ar l i mi yn y cwmni hwn, un rwyf wedi breuddwydio gweithio iddo am flynyddoedd ac un rwyf wedi bod pharch mawr ohono.
Peidiwch ag anghofio mai ni yw cenhedlaeth y dyfodol fydd yn talu’r trethi ac o hanfod yn rhedeg y Beeb. Mae hyn yn rhywbeth mae arweinwyr y wlad hon angen ei gymryd o ddifrif, yn hytrach nag bodloni gyda mwy o chwaraeon ar y teledu i dadau, mwy o deledu plant i’r mamau a’r babanod, a mwy o ailddarllediadau BBC4.
Awgrymiad bach fyddai i edrych i mewn i dorri gorsafoedd lleol a darlledu popeth, heblaw am newyddion lleol yn uniongyrchol o’r bas i fyny yn Llundain, er dwi’n siŵr fod llawer o doriadau eraill rhesymol sydd wedi cael ei goruchwilio. Mewn gwirionedd fe wnes i vox pop ar y toriad 6Music a darganfod nad oedd neb wedi hyd yn oed clywed amdano, heb sn am wrando arno, sydd yn golygu mai’r mater gwir yma ydy gallu’r BBC mewn hunan gyhoeddusrwydd.
Diolch am eich amser, os gwelwch yn dda fedrwch chi ystyried rhai o’r pwyntiau uchod.
Holly
Yn rhyfeddol ni chefais e-bost yn l.
Gwybodaeth gwleidyddiaeth ym Mhrydain







