Gwirfoddoli Dramor
18-25 oed?
Eisiau gwneud gwir gyfraniad i ymladd tlodi?
Yn awyddus i ddatblygu dy sgiliau?
Barod i brofi gwlad a diwylliant newydd?
Yn barod am sialens?
Darganfod mwy am y Gwasanaeth Dinesydd Rhyngwladol
Ymuna â'r GDRh ar ddydd Mawrth, 11eg Mawrth 2014 yng Nghanolfan Celf a Chymunedol The Gate (Bar Caffi) o 17:30 tan 19:00. Tyrd draw i wrando ar wirfoddolwyr am sut beth ydy bod yn wirfoddolwr dramor ac yr effaith mae'n gallu cael ar ddatblygiad personol yn ogystal â'r prosiectau dramor.
The Gate
Keppoch Street,
Y Rhath
Caerdydd, CF24 3JW
Cofrestru ar gyfer y digwyddiad
Beth yw'r GDRh?
Mae'r GDRh (Gwasanaeth Dinesydd Rhyngwladol) yn gyfle heb ei ail. Mae'n rhaglen datblygu sy'n dod a phobl ifanc 18 i 25 oed o bob cefndir ynghyd i ymladd tlodi mewn cymunedau dramor ac yn y DU.
Pwy sy'n gallu cymryd rhan?
Mae'r GDRh yn agored i rai 18-25 oed, beth bynnag ei incwm, cymwysterau, anabledd a hanes gwaith.
Nid oes angen arian na chymwysterau i gymryd rhan, dim ond yr ysfa a'r uchelgais i wneud gwahaniaeth yn dy fyd.
Ble gallaf i fynd?
Byddi di'n cael y cyfle i weithio mewn partneriaeth â phobl ifanc eraill ar brosiectau datblygu yn Affrica, Asia ac America Lladin.
Gydag wyth o sefydliadau datblygu parchus yn cynnig lleoliadau mewn 26 gwlad mae'r GDRh yn arwain y ffordd mewn cyfleoedd gwirfoddoli rhyngwladol i bobl ifanc.
Mae'r GDRh yn cynnig cyfleoedd unigryw i weithio gyda gwirfoddolwyr lleol ar brosiectau datblygu ystyrlon a chynaliadwy. Byddi di hefyd yn ennill sgiliau gwerthfawr a trosglwyddadwy fydd yn rhoi rhywbeth ychwanegol i ti beth bynnag ti'n dewis mynd ymlaen i'w wneud.
Beth allaf i wneud?
Mae'r GDRh yn ymwneud â gweithio gyda phobl leol i gyrraedd anghenion lleol. Golygai hyn byddi di'n defnyddio dy sgiliau a chreadigrwydd i ddarganfod atebion i broblemau ti'n wynebu. Mae'n sialens ond bydd dy bartneriaid yno i helpu. Mae'n gyfle i ddysgu oddi wrth eich gilydd, ceisio pethau newydd a dod o hyd i ffordd.
Beth sy'n cael ei gynnwys?
- Tocynnau awyren a fisa
- Meddyginiaeth a brechlynnau
- Teithio ac yswiriant iechyd
- Bwyd a llety
- Lwfans bach tra dramor
- Hyfforddiant, cefnogaeth ac arweiniad ymhob cam
"Byddwn i'n bendant yn awgrymu'r GDRh. Mae'n un o'r pethau mwyaf heriol byddi di'n ei wneud erioed, ond hefyd yn un o'r pethau mwyaf cyffrous."
– Gwenno Edwards, Gwirfoddolwr GDRh , 22 o Gaernarfon, Gwynedd.
Dysgu mwy am yr GDRh a darganfod sut i herio dy hun i newid dy fyd.
GWYBODAETH
Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gweithio » Gwirfoddoli
Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Gwirfoddoli