Gwirfoddoli A Chreu Llonni
Chwilio am rywbeth i roi hwb i dy CV?
Efo ychydig oriau yn rhydd bob mis?
Wel, mae gennym ni rôl newydd a chyffrous sydd yn rhoi'r cyfle i ti gymryd rhan ym mhrosiect The Filter yn dy ran di o Gymru.
Rydym yn chwilio am Arweinwyr Gwirfoddolwyr Ardal rhwng 16 a 24 oed i hyrwyddo prif negeseuon y rhaglen, helpu i recriwtio tîm o wirfoddolwyr a chynrychioli barn pobl ifanc yn dy ardal leol ar ysmygu a thybaco.
Rydym angen i ti fod yn frwdfrydig am y prosiect ac eisiau helpu'r rhai yn dy ardal di i ddysgu mwy am y problemau iechyd gall ysmygu ei greu, atal pobl ifanc rhag cychwyn ysmygu a hyd yn oed cefnogi'r rhai ti'n adnabod i roi'r gorau i ysmygu. Byddwn yn rhoi hyfforddiant llawn am ddim a llety i ti dros dri diwrnod yng Nghaerdydd mis Awst.
Mae'r wybodaeth i gyd ar ein gwefan: http://thefilterwales.org/cy/join-in/volunteer/
Dyddiad cau: Dydd Llun 20fed Mai 2013
Gobeithio gweld ti'n o fuan!
Digwyddiadau – Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout Mai 2013
Gwybodaeth – Ysmygu ac Alcohol







