Gwaharddiad Menthol Yn Erbyn Fy Nain
Mae mam wastad wedi dweud os bydda'n rhaid i nain stopio ysmygu bydd yn ei lladd.
Mae'n fath o ddatganiad croes bydda fy nheulu i yn ei ddweud ond mae rhan ohonof yn ei gredu.
Mae nain yn… wel, dylwn i ddim dweud gan ei bod hi'n ddynes fonheddig ond gad i mi ei roi fel hyn: fe welodd hi gychwyn yr Ail Ryfel Byd, felly dylai hynny roi syniad go dda i ti o'i hoed. Ar hyd fy oes dwi wedi gweld hi'n ysmygu'r un pacedi gwyrdd ac arian o sigaréts menthol. Un ar ôl y llall wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen mae hi'n tynnu sigarét allan, yn ei ddal yn goeth rhwng ei bysedd i'w oleuo ac yna dwi'n gwylio wrth i'r coethder yna ddiflannu ynghyd â'r sigarét sy'n llosgi. Mae hi wedi bod yn ysmygu mor hir nawr fel fy mod i bob tro yn meddwl amdani gyda sigarét ac yn arogli o menthol. Yn anffodus, dwi wir yn credu mai dyma'r unig beth mae hi'n mwynhau gwneud y dyddiau hyn; iddi hi nid yw'n arferiad yn unig, ond yn rhan ohoni hi.
Cafodd ei magu mewn oes wahanol: pan roedd hi'n iau roedd y cwmnïau tybaco yn gwerthu'r mwyafrif o'u cynnyrch i ddynion, a gan mai'r unig ffordd o werthu mwy oedd annog merched i ysmygu dechreuom dargedu'r hysbysebion at gynulleidfa fenywaidd. Sloganau fel: "To keep a slender figure no one can deny, reach for a Lucky [Strike] instead of a sweet," a delweddau o ferched coeth yn eistedd o gwmpas ac yn chwerthin, yn "enjoying the simple pleasure of Benson & Hedges." Does syndod ei bod hi wedi cychwyn ysmygu; roedd yn honni i gadw ti'n denau, yn goeth ac yn ddewis y ferch ei hun. Nawr mae'r dewis yna wedi cael ei gymryd oddi wrthi.
Mae'r UE wedi bod yn ceisio ymgyrchu yn erbyn y cwmnïoedd tybaco am flynyddoedd trwy leihau'r math o hysbysebion sydd wedi dylanwadu cenedlaethau a chynyddu maint y rhybuddion iechyd ar y pacedi. Nawr mae pethau'n mynd yn fwy difrifol ac mae'r rhybuddion yn cael eu cynyddu eto i orchuddio 65% o’r pacedi, yn gwahardd y pacedi llai a thybaco gyda blas, gan gynnwys rhai menthol. Y rheswm, meddai'r UE, ydy fod y pacedi llai a thybaco blas yn gwneud ysmygu yn fwy hygyrch ac yn apelio mwy i bobl ifanc a drwy wahardd nhw maent yn lleihau'r perygl o bobl ifanc yn cychwyn ysmygu.
Dwi ddim yn gweld bai arnyn nhw, yn ôl ystadegau mae 94% o ysmygwyr wedi codi'r arferiad cyn iddynt droi'n 25 oed ac, i'm siom, mae fy mywyd i yn gallu cadarnhau’r ffeithiau. Pan roeddwn i'n 15 roeddwn i'n ysmygwr, wedi cychwyn efo fy ffrindiau a chyn hir yn gwario arian cinio ar baced o 10 i gadw yn fy mag i ysmygu ar y ffordd i ac o'r ysgol.
Doeddwn i ddim yn ysmygu llawer: efallai 3-5 y dydd. Nid oedd gen i lawer o arian ac roeddwn i wedi gweld gormod o'r hysbysebion hunllefus o bobl efo tyllau yn eu gwddf ac wedi clywed gormod o fygythiadau gan fy nhad i ddechrau yn iawn, ond roeddwn i'n hoffi'r ffordd roedd yn stopio fi rhag bwyta ac roeddwn yn hoffi'r ffaith ei fod yn rhywbeth drwg gallwn i wneud yn gyfrinachol. Roeddwn i wedi ysmygu am gwpl o flynyddoedd yn ysbeidiol. Roeddwn i'n cael gormod o ymosodiadau asthma i gysidro ysmygu dim mwy felly roeddwn i wedi rhoi'r gorau tair waith cyn iddo lynu. Gallaf i ddweud yn onest os na fyddai'r pacedi llai wedi bod ar gael pan oeddwn i yn yr ysgol yna mae'n debyg na fyddwn i wedi ysmygu mwy na chwpl o sigaréts yn fy mywyd. Mae gwahardd y pacedi bach yn rhywbeth dwi wir yn credu ynddo, a gallaf weld y doethineb mewn gwahardd rhai gyda blas hefyd, ond na ddylai fod yn ddewis personol i roi'r gorau i ysmygu yn union fel yr oedd i gychwyn?
Dydy ysmygwyr menthol ymhobman ddim am stopio ysmygu, yn enwedig pobl hŷn fel nain sydd wedi addunedu i byth stopio ysmygu ac mae hi mor ystyfnig fel nad ydym am gychwyn ceisio perswadio hi fel arall. Dwi'n poeni sut bydd y gwaharddiad yn effeithio hi: fydd hi'n dechrau hel cartonau sigaréts yn y tŷ, yn troi'r lle yn fwy o warws tybaco na gofod byw addas i hen ddynes? Neu bydd hi'n troi i fywyd o droseddu, yn prynu sigaréts ar y farchnad ddu a chyfarfod gyda phobl amheus i gael ei dos?
Byddwn i wir ddim yn synnu, dyma'r ddynes oedd yn rhedeg beth oedd yn cyfateb i fragdy bach, didrwydded, flamllyd iawn yn ei gardd cefn am dros 20 mlynedd felly dwi'n amau bydd rhyw gyfraith o Frwsel yn stopio hi. A dweud y gwir, y debygoliaeth yw y bydd hi'n perswadio ni (neu'n gwneud i ni deimlo'n euog), ei wyrion ac wyresau diniwed (yn fwy diniwed na hi beth bynnag) i brynu'r nwyddau iddi; yn rhoi cartonau o menthols rhwng ein tyweli a phyjamas ar ein taith yn ôl o America ac yn gweddïo nad ydym yn cael ei dal oherwydd rydym yn gwybod os byddem a bydd y sigaréts yn cael eu cymryd oddi wrthym bydd ein nain, sy'n cael ei gorfodi i roi'r gorau i'w menthols annwyl, efallai yn marw.
Iawn, mae'n debygol na fydd hi'n marw, ond efallai dwi am brynu rhai o'r e-sigaréts menthol yna iddi er mwyn diddyfnu hi o'r stwff go iawn rhag ofn.
Sefydliadau – Llinell gymorth Ysmygu GIG
Am wybodaeth bellach ar dybaco, clicia yma.
I gael cymorth i stopio ysmygu, ymwela â The Filter.
Credyd Llun: Ali Catterall trwy Compfight cc