Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Geiriau, Hiliaeth A Hiliaeth Yn Erbyn Cymru

Postiwyd gan dirty o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 09/01/2012 am 11:25
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Materion Cyfoes

  • wn

English version

Gwadiad: Mae'r erthygl yma yn defnyddio esiamplau o iaith hiliol.

Mae geiriau yn bethau od. Gall pob gair feddwl nifer o bethau ar bapur, ac yna mae homoffonau, pan gall un gair gael ei ysgrifennu mewn gwahanol ffyrdd i olygu gwahanol bethau, fel 'hair' a 'hare', yn ychwanegu i'r holl glwstwr dryslyd.

Mae yna rai geiriau mewn Saesneg sydd ddim hyd yn oed yn gallu cael ei gyfieithu i mewn i ieithoedd eraill, fel 'serendipity'. Mae yna rai geiriau yn Gymraeg nad all gyfieithu i Saesneg, fel 'hiraeth'. Mae'n gysyniad mor haniaethol fel mai dim ond yn Portuguese gall ei ddarganfod. Fedra i ddim pinio'r union ystyr i lawr, ond mae'n golygu hiraethu am rywbeth gall un ai fod yn y gorffennol, neu'r presennol, a gall ddigwydd ar unrhyw amser.

Ond mae rhai geiriau yn rhyngwladol ac yn trosgynnu cylch dealltwriaeth ddiwylliannol a hanes. Geiriau fel y gair-N, a'r gair-P, talfyriad o'r wlad Pakistan. Mae Slut wedi cael ei adfer hefyd, yn l pob sn. Mae llawer o symudiadau wedi bod i geisio 'adfer' y gair yma. Mae hip hop wedi trio adfer o, a byddai rhai yn dweud bod nhw wedi.

I air gael ei adfer, mae'r grym angen mynd ohono. Dwi ddim yn meddwl gall y gair-N byth gael ei adfer. Y gair diwethaf cyn i Stephen Lawrence farw oedd y gair-N.

Dwi ddim yn teimlo'n gyffyrddus yn ei ddefnyddio yn fan hyn. Dwi ddim yn teimlo'n gyffyrddus yn teipio'r gair chwe llythyren yna. Ond os wyt ti eisiau defnyddio'r gair yna, dwi'n iawn efo hynny. Os wyt ti'n teimlo'n gyffyrddus yn gwneud hynny yna dwi'n teimlo'n gyffyrddus yn dy allu i wneud hynny. Ond nid yw i fi.

Mae'r grym yn gorfod gadael y cysyniad iddo gael ei ddefnyddio. Mae dwsinau o sarhad ar gael, ond does yr un yn taro gartref cymaint i mi 'Paci' a'r gair-N.

Mae'r achos Stephen Lawrence wedi bod yn y newyddion. Cafodd ei ladd yn 18 oed tua 18 a hanner o flynyddoedd yn l. Roedd ei rieni wedi lobio yn ddiddiwedd i ddod 'i lofruddwyr i gyfiawnder, ac o'r diwedd fe wnaethant, wythnos yma. Roedd y fyddin heddlu oedd yn edrych ar l yr achos, Heddlu Metropolitan Llundain, wedi cael ei barnu’n 'sefydliad hiliol' gan yr Arglwydd oedd yn gyfrifol dros yr ymchwiliad i mewn i ddiffygion yr achos (oedd yn cynnwys tystiolaeth wedi'i fwnglera, wedi'i wneud gan yr heddlu), yr Arglwydd Macpherson.

Dwi ddim yn meddwl fod hiliaeth wedi mynd o unlle, a dwi'n meddwl bod hiliaeth yn dal i fodoli heddiw. Mae'r ffaith fod teulu Stephen Lawrence wedi gorfod ymgyrchu am mor dystiolaeth o hynny. Dydy hiliaeth ddim yn unig yn effeithio'r bobl o wahanol gefndiroedd sydd ddim yn angenrheidiol yn wyn. Roedd Cymru yn destun hiliaeth pan geisiodd Llywodraeth Prydain wahardd Cymraeg a cheisio'i ladd yn ieithyddol. Os oeddet ti'n siarad Cymraeg yn yr ysgol, roedd rhaid i ti wisgo'r Welsh Not.

Dwi'n meddwl fod holl hiliaeth mor ddrwg 'i gilydd. Wedi sylweddoli sut mae pobl Cymraeg yn wastad yn bwnc jc yn y cyfryngau Prydeinig, neu'n cael eu gweld yn 'annigonol'? Cymera'r ddau gymeriad Cymraeg yn Skins fel esiampl, y Pennaeth poenus o annigonol, Doug, sydd yn ffaelu fel athro, ac yna'r athro Seicoleg sydd yn cysgu gydag un o'i myfyrwyr, Chris. Neu'r holl jcs 'sheep-shagger', ymatebodd Rob Brydon i hyn mewn cwestiwn ar QI Stephen Fry.

Mae'r holl beth wedi gwneud i mi feddwl, y sgandal Diane Abbott, yr achos Stephen Lawrence a beth mae 'hiliaeth' yn ei feddwl go iawn, a sut mae wedi cael ei wyrgamu. Beth wyt ti'n feddwl o eiriau a chysyniadau fel hyn? A beth wyt ti'n feddwl am sut mae'r Gymru yn cael eu portreadu yn y cyfryngau? Wyt ti'n meddwl fod hyn yn deg? Wyt ti, fel fi, yn gwylltio hefyd? Mae blwch sylwadau isod, gad i mi wybod beth ti'n ei feddwl.

Gwybodaeth - Hiliaeth

Erthyglau Perthnasol:

Prydain Amlddiwylliannol?

Hiliaeth: Fy Stori


Hiliaeth: Rhywbeth Welais I

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50