Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gary Speed: Arwr Cymru

Postiwyd gan Tom_Bevan o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 28/11/2011 am 11:53
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Chwaraeon a Hamdden, Materion Cyfoes

  • speed

English version

Bore ddoe (dydd Sul 27 Tachwedd 2011) darganfwyd rheolwr pl-droed Cymru Gary Speed wedi marw yn ei gartref yn Huntington, Caer.

Mae teyrngedau wedi bod yn llifo i mewn am "berson ysblennydd".

Adroddwyd fod Speed, y rheolwr cenedlaethol am bron i flwyddyn, wedi cael ei ddarganfod wedi'i grogi ac nad oes amgylchiadau amheus.

O fewn munudau o'r newyddion yn torri, roedd teyrngedau  wedi cael eu rhoi gan ffrindiau, cyd-weithwyr ac aelodau'r byd chwaraeon a thu hwnt. Dywedodd ei gyd-chwaraewr tm Cymru cynt, Ryan Giggs: "Dwi'n eithafol o drist. Roedd Gary Speed yn un o'r dynion mwyaf neis ym mhl-droed ac yn rhywun dwi’n falch o gael ei alw'n gyd-chwaraewr ac yn ffrind. Yn amlwg mae fy meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg eithriadol o drist yma."

Dywedodd Y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod yn drist iawn, "Mae hyn yn newyddion ofnadwy ac mae ein meddyliau gyda'i deulu mewn cyfnod sy'n sicr o fod yn anodd iawn iddyn nhw."

Wedi dod trwy rengau hyfforddiant yn Leeds United, roedd Speed yn rhan o'r ochr enillodd y teitl Cynghrair Pl Droed diwethaf yn 1992 ac yn ystod ei yrfa enillodd 85 cap rhyngwladol i Gymru – record i chwaraewr allfaes. Wedi chwarae i Leeds, Everton, Newcastle United a'r Bolton Wanderers, daeth Speed y chwaraewr cyntaf i gyrraedd 500 o ymddangosiadau yn y Prif Gynghrair ac erbyn iddo ymddeol o ddyletswydd ryngwladol yn 2004, roedd wedi bod yn gapten ar Gymru 44 o weithiau. Llynedd, cafodd y swydd uchaf ym mhl-droed Cymru er mai dim ond pedwar mis o brofiad fel rheolwr oedd ganddo – yn cadarnhau'r parch roedd wedi ennill yn y byd pl-droed a'i enw da fel dyn proffesiynol a delfryd ymddwyn gwych.

Tweetiodd ei gyd-chwarewr tm Cymru cynt, Robbie Savage: "Mae'r byd wedi colli dyn gwych yn Gary Speed, dwi mor drist. Byddaf yn ei fethu cymaint. Roedd yn caru bywyd, roedd yn caru ei deulu! Pam!"

Dywedodd Alan Shearer, oedd yn chwarae ochr yn ochr Speed am chwe blynedd yn Newcastle: "Roedd Gary yn berson ysblennydd, yn ddisglair, yn hwyl ac yn ddyn teuluol gwych  - roedd yn goleuo pob ystafell a'i fewn iddo. Dwi'n falch o fod wedi bod yn ffrind iddo a byddaf yn ei fethu'n ofnadwy."

Tweetiodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gilliant: "Mae hwn yn ddiwrnod trist i Bl-droed ac i bawb yng Nghymru. Roedd Gary Speed wedi gwasanaethu ei glwb a'i wlad fel chwaraewr a rheolwr gydag arbenigrwydd mawr."

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones: "Mae'r genedl gyfan mewn sioc – ni fydd yn cael ei anghofio."

Yn Stadiwm Liberty yn Abertawe – ble roedd yr ochr cartref yn chwarae Aston Villa – roedd munud o ddistawrwydd dilynwyd gan funud o gymeradwyo ac yn barod mae sgarffiau a blodau wedi cael ei gadael yn agos i dir cartref Leeds, rhywbeth sydd yn debygol o gael ei ailadrodd mewn llefydd eraill wrth i'r genedl ddod i dderbyn y colled.

Dywedodd Cymdeithas Pl-droed Cymru: "Mae'r drasiedi hon yn digwydd i rywun mor ifanc a thalentog yn golled enfawr nid yn unig i'w deulu a'i ffrindiau, ond i'r genedl gyfan."

Ychwanegodd Phil Pritchard, llywydd Cymdeithas Pl-droed Cymru, y byddant yn "gwneud beth bynnag gallem" i helpu teulu Speed.

Ar nodyn personol, dwi'n cofio cyfarfod Gary Speed pan roeddwn i'n ddeg oed ac yn cofio'n glir ei natur gyfeillgar a'i wen wych. Dim ond ddoe, roeddwn yn ei wylio ar Football Focus wrth iddo siarad am ei ddyfodol fel rheolwr Cymru ac ymddangosai mewn hwyliau da. Bydd colled mawr ar ei l fel rheolwr talentog ac fel bonheddwr parhaol ar ac oddi ar y cae mewn gm sydd diffyg delfrydau ymddwyn dilys,

Mae Speed, gafodd MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2010, yn gadael gwraig a dau o blant. Roedd yn 42.

Sefydliadau – Samariaid
Gwybodaeth – Teulu a Pherthnasau – Gwahaniad a Cholled
Gwybodaeth – Iechyd – Iechyd Emosiynol a Meddyliol – Hunanladdiad

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50