Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Filter Y Dyfodol: Preswyl Am Ddim

Postiwyd gan The Filter o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 28/06/2013 am 16:23
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Iechyd, Ffilmiau, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli, Cyffuriau

  • filter

English version // Yn Saesneg

Rydym yn cynnal preswyl tri diwrnod am ddim penwythnos cyntaf fis Medi i gael pobl ifanc yn rhan o drafodaethau yn ymwneud â 'dychmygu Cymru ddi-fwg'.

Bydd y penwythnos, fydd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cynnwys gweithdai creu ffilm gyda Cut Films, siarad bywiog gan bobl fel Natasha Devon (ffrindiau efo Gok Wan) o Body Gossip, yn ogystal â thrafodaethau gweithgar am ysmygu a defnydd tybaco yng Nghymru. Bydd yna ddigon o amser rhydd yn ystod y nosweithiau gyda gweithgareddau a phethau i wneud wedi'u trefnu.

Mae'r penwythnos, 6ed – 8fed o Fedi 2013, yn agored i unrhyw un dan 25 oed. Rydym yn croesawu rhai 11 i 17 oed fel mynychwyr arferol ac yn gofyn i unrhyw un dros 18 ymddwyn fel gwirfoddolwr o fewn eu grŵp ieuenctid neu olygyddol neu gyda ni.

Pa un ai wyt ti'n ysmygu neu beidio, rydym yn sicr bydd gen ti rywbeth i ddweud am y pwnc ac yn mwynhau ein penwythnos preswyl llawn.

Swnian ar dy grŵp golygyddol lleol, procia dy athro (ddim yn llythrennol!) a gwaedda "Dylai ni fynd!" ar dy grŵp ieuenctid. Am wybodaeth bellach ac i gofrestru diddordeb, clicia yma.

Gwybodaeth – Gwneud Ffilmiau ac Animeiddio

Gwybodaeth – Ysmygu ac Alcohol

A-Z Botwm Coch – Tybaco

Sefydliadau – The Filter

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50