Ffilm Cymru Wales: Arolwg
Mae'r arolwg byr yma yn cael ei gynnal gan Ffilm Cymru Wales, gyllidwr cyhoeddus sy' cefnogi'r sector ffilm yng Nghymru a gwella mynediad at ffilmiau a'i fanteision ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.
Rydym am i bawb yng Nghymru i gael mynediad at ystod eang o ffilmiau, ni waeth ble maent yn byw, eu hoedran neu eu cefndir. Ar hyn o bryd rydym yn meddwl am y ffordd orau o gyflawni hyn, a dyna pam mae angen eich help.
Rydym eisiau gwybod am y ffordd yr ydych yn gwylio ffilmiau, lle rydych yn eu gwylio, a'r mathau o ffilmiau rydych yn ei fwynhau. Rydym hefyd am ddeall pam efallai na fyddwch yn gweld ffilmiau - efallai oherwydd diffyg sinema yn ddigon agos i chi, y gost, y dewis o ffilmiau sydd ar gael neu'r math o brofiad a gynigir. Sut hoffech chi'r profiad ffilm i fod?
Dyma eich cyfle i'n helpu i benderfynu sut y gallwn wella'r cynnig ar gyfer cynulleidfaoedd yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys sut yr ydym yn cefnogi gwyliau ffilm, ganolfannau celf annibynnol a sinemâu, yn ogystal â dod â dangosiadau ffilm ‘pop-up’ i gymunedau (megis dangosiadau cyhoeddus mewn neuaddau tref, cartrefi gofal, ysgolion) a lleoliadau eraill (megis dangosiadau y tu allan, safleoedd hanesyddol ac yn cymryd drosodd siopau stryd fawr segur neu sydd bellach ddim yn cael ei defnyddio).
Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i'w lenwi ac mae’r atebion yn gwbl gyfrinachol. Diolch!
Cliciwch fan hyn i gymryd rhan yn yr arolwg
Gwybodaeth // Pethau I'w Gwneud // Y Celfyddydau
Erthyglau // Categorïau // Ffilmiau
Llun: Leo Hidalgo (@yompyz) trwy Compfight cc