Ffarwel O CLICarlein
Gyda thristwch rydym yn cyhoeddi diwedd CLICarlein. Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dod 'r cyllid i ben ar 30 Ebrill 2015.
Tra bydd rhai o'r gwefannau lleol yn dal i fodoli, ni fyddant yn cael eu cysylltu gan rwydwaith cenedlaethol CLIC ddim mwy.
Ers i ProMo-Cymru gymryd y prosiect yn 2008 mae wedi tyfu o wefan oedd yn derbyn 800 o ymweliadau'r mis i rwydwaith cenedlaethol ymhob sir yng Nghymru, yn derbyn 57,000.
Y peth rydym yn fwyaf balch ohono ydy'r nifer o bobl ifanc sydd wedi defnyddio a buddio o CLICarlein yn ystod y cyfnod yna. Mae pobl ifanc ledled Cymru wedi defnyddio CLICarlein i helpu cael gwaith, dylanwadau ar weinidogion a chael tocynnau'r wasg am ddim i adolygu cannoedd o gigiau, gwyliau a sioeau.
Mae wedi bod yn ddiawl o reid ac rydym yn drist i'w weld yn dod i ben. Hoffwn wybod am dy adegau gorau ar y siwrnai CLIC ac annog ti i rannu'r rhain un ai mewn erthyglau a sylwadau i'r wefan neu ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #storiCLIC.
Rhanna Dy #storiCLIC
Rydym eisiau i CLIC fynd allan gyda gwledd a dweud wrth y byd faint o effaith mae wedi'i gael ar fywydau pobl ifanc ledled Cymru.
Rydym eisiau i ti rannu dy adegau gorau: erthyglau, fideos, lluniau ac atgofion. Gwaedda am y peth! Neu, defnyddia'r hashnod #storiCLIC yn unrhyw le ac ym mhobman. Bydd y wefan yn rhedeg tan ddiwedd Ebrill felly cyflwyna unrhyw beth a phopeth ar ffurf erthyglau a sylwadau hefyd.
Yn dymuno'r gorau i ti,
- Y T'm CLIC
1 Comment – Postiwch sylw
Bearshead
Rhoddwyd sylw 14 mis yn ôl - 27th February 2015 - 19:37pm
Nath CLIC creu gymaint o gyfleuon i mi, mae'n anodd deall pam na gafon nhw'r cyllideb o'n nhw'n haeddu. Alla i ddim a chredu bod Llywodraeth Cymru mor barod i weld nwyddau angenrheidiol a chyfeillgar diflannu fel hyn. Roedd CLIC yn hybu creadigrwydd; yn cynorthwyo'r rhai odd ei hangen hi fwya; ac yn blatfform i nifer cyrraedd eu potensial.
CLIC yw'r rheswm mae gen i swydd llawn amser. CLIC yw'r rheswm mae gen i'r hyder i herio'r hyn sydd yn anghywir neu anaddas, ac i leisio fy marn pob cyfle y gaf i. Nath CLIC cynnig gymaint i bobl ifanc, gan gynnwys y rhai ar ffiniau grwpiau 'normal'. Llwyddodd CLIC i ddylanwadu miloedd o bobl ifanc, a rhoi llais i'r rhai oedd yn gweld hi'n anodd gwneud. Mewn byd o anghyfartaledd, roedd CLIC yn barod i dderbyn pawb.
Mae CLIC yn wasanaeth anhygoel, a ni ddylwn gadael iddi diflannu dros mater diffyg gweld,gwrando a deall.
Roedd Gerallt yn gywir: ni all sŵn ennill Senedd. Trueni hynny.