Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

E-Sigaréts: Beth Wyt Ti'n Ei Wybod?

Postiwyd gan The Filter o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 18/11/2013 am 12:33
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Iechyd, Materion Cyfoes, Cyffuriau

  • filt

English version // Yn Saesneg

Mae e-sigaréts yn dod yn fwy ac yn fwy poblogaidd bob wythnos.

Rhag ofn nad wyt ti'n sicr, y ffon fach yna sy'n edrych fel sigaréts neu bibelli lliwgar ydyn nhw.

Y gwahaniaeth rhyngddynt a sigaréts arferol ydy nad ydynt yn cynhyrchu mwg (maent yn gollwng anwedd sy'n edrych fel mwg) a ddim yn cynnwys tar na'r pethau ffiaidd sydd yn gwneud ti'n sâl pan ti'n ysmygu. Ond maent yn cynnwys nicotin, y rhan caethiwus mewn tybaco.

Felly dyma ble ti'n dod i mewn.

Rydym eisiau gwybod beth wyt ti'n gwybod amdanynt mewn arolwg bychan. Wir, mae'n sydyn iawn ac yn gyfrinachol. Nid oes posib cynnig gwobr ond gallem gynnig yr ymwybyddiaeth dy fod di'n helpu ymchwil gallai achub cannoedd o fywydau bob blwyddyn yng Nghymru a dylanwadu ar y bobl sy'n gwneud y penderfyniadau mawr yn ein gwlad.

Felly dechreua glicio – https://www.surveymonkey.com/s/ecigarettesandyoungpeople

Gwybodaeth – Ysmygu ac Alcohol

Erthyglau – Categorïau – Iechyd

A-Z Y Botwm Coch – Tybaco

Sefydliadau – The Filter

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50