Diweddu Newyn Byd
"Mae'r byd efo digon ar gyfer anghenion pawb, ond nid ar gyfer gwanc pawb."
Mae'r dystiolaeth yn ysgytiol. Mae astudiaeth rhyddhawyd y mis yma gan Gorff Bwyd ac Amaethyddiaeth y CU yn nodi bod traean o'r bwyd sydd yn cael ei gynhyrchu ar gyfer defnydd dynol bob blwyddyn – tua 1.3 biliwn tunnell – yn cael ei wastraffu. Yn yr un cyfnod deuddeg mis, bu farw dros ddwy filiwn o blant oherwydd newyn ac, bob nos, mae un ymhob wyth ohonom yn mynd i'r gwely efo stumog wag.
Newyn. Yr anghyfiawnder mwyaf yn ein hoes ni?
Er mor hawdd ydy mynd ar Google i gael dyfyniad gan yr athronydd moesol gwych Mahatma Ghandi, taflu ychydig o ystadegau i mewn a thwtian yn uchel, y realiti ydy wrth i ti ddarllen hwn, mae ein system bwyd toredig yn ffaelu unigolion arferol fel ti a fi. Dydy'r biliwn o bobl sydd yn llwgu pob dydd ddim yn derbyn hawl dynol sylfaenol [gweler Erthygl 25] a dwi'n gobeithio dy fod di'n cytuno, dydy hyn ddim yn iawn.
Felly beth ydym ni am wneud am hyn? Mae'r ymgyrch Enough Food IF yn symudiad newydd o dros 100 o sefydliadau elusennol mawr, gan gynnwys Action Aid, Oxfam, Islamic Relief a Chymorth Cristnogol, sydd yn gobeithio arbed miliynau o fywydau a rhoi'r grym i bobl fwydo eu hunain am genedlaethau i ddod. A'i brif ffocws? I daro'r Gynhadledd G8 ym mis Mehefin gyda'n galwadau am weithrediadau yn y pedwar adran ganlynol:
1) Cymorth - Yn 2013, mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wario 0.7% o'n hincwm cenedlaethol ar gymorth ac wedi addo arian ychwanegol i helpu gwledydd tlawd i ymdopi gyda newid hinsawdd, sydd yn ei gwneud yn anoddach i gymunedau amddifadus i dyfu bwyd.
2) Tir - Bob dydd, allan o olwg archwiliad y cyfryngau prif lif, mae tir yn cael ei gipio gan rhai o ffermwyr tlotaf y byd er mwyn i'r corfforaethau enfawr dyfu, fwyfwy, biodanwydd ar gyfer cerbydau yn y Gorllewin. Mae'r stripio o adnoddau gan gymunedau lleol yn cael ei gynorthwyo gan Fanc y Byd ac mae'n rhaid iddo stopio. Nawr.
3) Treth - Mae yna ormod o gwmnïoedd mawr sydd ddim yn talu'r trethi sydd yn ddyledus i wledydd tlawd ac maent yn osgoi miliynau o bunnoedd yn ddyddiol. Y bwriad ydy i gael arweinyddion y G8 i gytuno ar gytundeb treth newydd i gau cloerdyllau rhyngwladol, yn helpu gwledydd datblygiadol i gadw gafael ar y trethi sydd yn ddyledus iddynt.
4) Tryloywder - Mae nifer o lywodraethau a chwmnïoedd mawr yn cuddio tu ôl i len o gyfrinachedd ac mae'r effaith negyddol maent yn ei gael ar fywydau pobl a'r amgylchedd yn cael ei guddio. Trwy gryfhau'r cyfreithiau sydd yn gorfodi nhw i fod yn agored ac yn onest, gallem sicrhau bod nhw'n atebol am y gweithrediadau sydd yn golygu bod newyn yn parhau.
Mae cefnogaeth i'r ymgyrch, gafodd ei lansio yng nghanol Llundain wythnos diwethaf, wedi bod yn gryf yn barod. Gyda dros 40,000 o bobl wedi arwyddo i fyny ar-lein yn ogystal â chefnogaeth gan enwogion mawr fel Bill Nighy, Keeley Hawes, Ewan McGregor, Rita Ora, Eddie Izzard a Lauren Laverne, mae'r momentwm yn tyfu.
Mae'r cefnogwr Enough Food IF, yr Archesgob Desmond Tutu, yn ei roi yn dda: "Dydy newyn ddim yn afiechyd anwelladwy na'n trasiedi anocheladwy. Wrth weithredu nawr, gallem ni wneud newyn yn broblem y gorffennol; mae'n hen bryd rhoi diwedd ar y dioddef dianghenraid sydd yn cael ei achosi gan fethiant y system bwyd presennol."
Os wyt ti eisiau ymuno'r miloedd o bobl sydd yn mynnu cyfiawnder bwyd gan arweinyddion y byd, yna ychwanega dy lais i'r ymgyrch Enough Food IF yma.
Newyddion – Categorïau – Bwyd a Diod
Gwybodaeth – Maetheg a Gweithgarwch Corfforol
Erthyglau Perthnasol
DELWEDDAU: Enough Food IF










