Diweddariad Cymru Ifanc: Chwefror 2015
Croeso i ddiweddariad mis Chwefror ar gyfer Cymru Ifanc, y prosiect newydd a fydd yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw ac yn effeithio arnynt, a bod eu lleisiau'n cael effaith ar Lywodraeth Cymru. Clicia yma i gael rhagor o wybodaeth am brosiect Cymru Ifanc.
Mae gwefan Cymru Ifanc yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Nes bod y safle'n cael ei lansio, bydd diweddariadau ar wefan Plant yng Nghymru, ac ar ein cyfrif CLICarlein.
Cyfarfod Cyfranogiad Cymru Ifanc
Daeth Cymru Ifanc â swyddogion cyfranogiad a gweithwyr fforymau ieuenctid at ei gilydd i gynnal cyfarfod. Byddwn ni'n cydweithio'n agos yn ystod y tair blynedd nesaf, ac roedd hwn yn gyfle iddyn nhw ddysgu mwy am y prosiect a llywio ei ddatblygiad.
Cyflwynodd Plant yng Nghymru bedwar Arweinydd Rhanbarthol, y bydd pob un ohonynt yn cysylltu â'r fforymau yn eu rhan nhw o Gymru. Bydd y rôl yn cynnwys gwella cysylltiadau er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl ifanc mewn fforymau yn gwybod am y prosiectau, a bod Cymru Ifanc yn gwybod pa waith sy'n cael ei wneud.
Nodi blaenoriaethau cenedlaethol
Ar hyn o bryd mae'r Arweinwyr Rhanbarthol yn trefnu ymweliadau â phob fforwm yn ystod yr wythnosau nesaf, er mwyn darganfod beth mae fforymau'n ei wneud nawr a materion eraill allweddol. Bydd gwybod am y materion lleol yn ein helpu i nodi blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae'r ymweliadau eisoes wedi cychwyn, ac mae'r fforymau wedi nodi materion sy'n cynnwys trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig, gwrthfwlio a iechyd meddwl.
Os ydych chi'n ymwneud â fforwm ieuenctid a dydyn ni ddim wedi ymweld â chi eto, rydyn ni'n edrych ymlaen at gwrdd â chi yn ystod yr wythnosau nesa.
Cyfathrebu
Mae gwefan Cymru Ifanc yn dal i gael ei datblygu, a bydd yn rhywle lle gallwch chi ddysgu mwy am y prosiect. Bydd hefyd yn cynnwys newyddion a manylion am y gwahanol brosiectau a blaenoriaethau, ac yn cynnwys adnoddau sydd wedi cael eu datblygu'n lleol ac yn genedlaethol. Mae'r safle'n cael ei llunio i'w defnyddio gan blant a phobl ifanc, a bydd yn addas ar gyfer ffonau symudol a thabledi.
Rydyn ni hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o gadw mewn cysylltiad rheolaidd â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, e-friffiadau, diweddariadau papur a chylchgronau. Bydd yr ymweliadau â'r fforymau ieuenctid yn cynnwys edrych ar eu syniadau o ran pa lwyfannau cyfryngau cymdeithasol sydd orau i blant a phobl ifanc, beth maen nhw eisiau ei weld ar wefan, a syniadau ar gyfer ffyrdd eraill o gadw mewn cysylltiad.
Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol
Mae'r Safonau'n rhoi gwybod i bobl ifanc beth dylen nhw ei ddisgwyl gan eu gwasanaethau, ac yn dweud wrth sefydliadau beth dylen nhw fod yn ei ddarparu. Pan gwrddon ni'r swyddogion cyfranogiad, roedden nhw'n teimlo bod y Safonau'n dal yn bwysig, a bod angen gwneud mwy i sicrhau bod gwasanaethau'n defnyddio'r Safonau yn eu gwaith.
Nawr rydyn ni wedi ffurfio grŵp o weithwyr Safonau sydd â diddordeb mewn datblygu'r gwaith yma.
I gael rhagor o wybodaeth am waith Cymru Ifanc, e-bostia Cymru.Ifanc@plantyngnghymru.org.uk, (neu Young.Wales@childreninwales.org.uk) neu cysyllta ag Ed Janes (Swyddog Datblygu Cyfranogiad) ar 029 2034 2434
Eisiau ennill crys-T Sprout? Llenwa Arolwg Bodlonrwydd theSprout!
*Cyflwyna dy stwff i'w gyhoeddi yma*
Erthyglau Perthnasol:
Delwedd: Jez Bills







