Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Distractor – Yr App Newydd, Creadigol, Am Ddim

Postiwyd gan The Filter o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 15/01/2014 am 14:25
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Iechyd, Technoleg, Yn Gymraeg, Cyffuriau

  • app

English version // Yn Saesneg

Rydym wedi lansio ein app symudol cyntaf i ddathlu ein pen-blwydd yn un oed!

Mae Distractor, ein app am ddim, yn darparu gwrthdyniad creadigol i helpu ti i ymdopi gyda'r ysfa am dybaco, ynghyd â mynediad o'r app i'n gwefan a gwasanaeth cyngor.

Prif ran yr app ydy'r distractor, ble ti'n cael thema ac mae gofyn i ti greu delwedd wedi'i selio arno, gydag amserydd yn cyfri i lawr o dri munud. Y bwriad ydy darparu gwrthdyniad digon hir i'r ysfa ysmygu basio.

Gyda'i ochr creadigol, mae'r app yn apelio i ysmygwyr a rhai sydd ddim yn ysmygu. I greu delweddau, mae yna balet lliw llawn, offer brwsh paent, sticeri a'r opsiwn i ychwanegu llun gan ddefnyddio camera'r ffôn. Pan mae'r tri munud wedi dod i ben, gall cadw neu rannu'r ddelwedd dros amrywiaeth o rwydweithiau cymdeithasol a'u llwytho i oriel yr app i ddefnyddwyr eraill gael gweld.

Mae ein gwefan a'r gwasanaeth cyngor negeseuo sydyn hefyd wedi cael eu hadeiladu i mewn i'r app. Mae'r gwasanaeth cyngor ar gael ar ddiwrnodau gwaith o 3yp – 8yh.

Mae'r app yn gwbl ddwyieithog ac ar gael ar ddyfeisiau Android ac Apple (iPhone/iPod), felly dechreua lawrlwytho!

Perthnasol:

Erthyglau – Ysmygu

Digwyddiadau – Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout Ionawr 2014

Gwybodaeth – Ysmygu

TheSproutDirect – Categorïau – Iechyd – ASH Wales

Erthyglau – Categorïau - Iechyd

A-Z Red Button – Tybaco

Sefydliadau – The Filter

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50