Dibyniaeth: Fy Stori
Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer categori Erthygl Fwyaf Doniol yng Ngwobrau CLIC 2011.
Ar wyliau, mae pobl yn tueddu ymddwyn yn wahanol i sut maent fel arfer.
Maen nhw'n meddwl fod pethau sydd fel arfer yn ddrwg, yn anfoesol neu'n anghyfreithlon, yn dda, cyfreithlon ac iawn, os ydy beth sydd yn digwydd ar wyliau, yn aros ar wyliau.
Mae fy stori i yn cychwyn gyda gwyliau i Ffrainc, haf 2009.
Roedd yn wyliau teulu, y gwyliau olaf bydda'r teulu yn ei gael gyda'i gilydd, gan fod fy chwaer yn gadael am y brifysgol yn yr hydref. Gan fod mam yn rhugl yn Ffrangeg, byddwn yn aml yn mynd i Ffrainc, gan amlaf Llydaw, am gwpl o wythnosau. Ond y tro hyn, nid oedd popeth mor dda ag yr oedd wedi bod yn y gorffennol.
Roedd fy chwaer wedi mynd allan efo myfyrwyr Ffrangeg roedd hi wedi'i gyfarfod, ychydig yn h?n na hithau, ac roeddent i gyd yn yfed rhywbeth. Roedd hi'n teimlo fod rhaid iddi gael o hefyd, er mwyn ffitio i mewn. Roedd o wir yn rhywbeth hyfryd. Roedd yn ei gwneud yn llawer mwy hapus pan roedd hi'n ei gael, felly penderfynais i ei drio hefyd. Ac felly dyma gychwyn fy nibyniaeth ofnadwy am de rhew eirinen wlanog (Peach Iced Tea).
Rhwng y ddau ohonom, roedd fy chwaer a finnau yn gallu yfed 15 litr y dydd, a pam oeddem ni ddim yn yfed, roeddem yn mynd allan i brynu mwy. Roedd yn costio ffortiwn i'r teulu, ond mae'r Te Rhew yma yn rhyfeddol o hawdd i gael gafael arno yn Ffrainc. Roeddem yn dod yn dreisgar iawn i unrhyw un oedd yn dweud ein bod yn yfed gormod, a hyd yn oed yn siarad yn l i'n rhieni. Roedd yn gyfnod stormus iawn i'n teulu ni.
Pan gyrhaeddom yn l ym Mhrydain, darganfuwyd nad oedd Te Rhew mor hawdd i'w gael ag yr oedd yn Ffrainc. Nid oedd ar gael mewn unrhyw archfarchnad, ac felly roedd rhaid troi at y farchnad ddu, yn mewnfudo pobl o Ffrainc oedd efo boteli llawn Te Rhew wedi'i smyglo i mewn dan eu crys. Mae'n syndod na chafodd neb eu dal; roedd y rhai gafodd eu cwestiynu yn honni eu bod nhw'n feichiog, rheswm digon da i Reolaeth Ffin.
Roedd y smyglwyr Ffrangeg yma yn dechrau drwy ddod 'r stwff yma i ni fel ffafr, ond wrth i amser fynd yn ei flaen roeddent yn dechrau mynnu cael arian am eu gwasanaethau, yn dweud os nad byddwn yn talu am eu tocyn trn yna byddant yn stopio dod The Rhew i ni.
Ond doedd ein harian wedi'i gyfuno ddim yn ddigon am un trip i'n ffrindiau oedd yn smyglo, felly roedd rhaid i mi a'm chwaer wneud rhywbeth ofnadwy i gasglu arian. Roeddem yn gwerthu cardiau Pokmon ffug i'n ffrindiau. I gychwyn doedden nhw ddim callach, ond yna dechreuodd y cwestiynau ddod, rhai na allwn ateb. Cyn i ni ddeall beth oedd yn digwydd, roeddem wedi cael ein sugno i mewn i'r byd tywyll o'r Farchnad Cardiau Cyfnewid Ffug.
Roedd ein cyflenwr o'r cardiau ffug yn ddyn Rwsiad oedd yn cael ei adnabod fel Red. Dywedodd wrthym fod ei wrthwynebwr mwyaf, Blue, yn ddyn Swedaidd oedd ddim yn trin y cardiau gyda'r parch cywir. Roedd fy chwaer a finnau wedi'n ffieiddio gan ymddygiad honedig Blue, ac felly, cychwynnom gael i mewn i frwydron gyda phobl oedd yn ymglymedig Blue. Un diwrnod, aethom i gyfarfod un o ddelwyr gorau Blue, oedd yn cael ei alw'n Eevee. Roedd y frwydr yn ffiaidd, a pharhaodd am nifer o oriau. Roeddwn i yn lwcus, a dim ond ychydig o greithiau oedd gen i. Ond fe gollodd fy chwaer ei chlust dde a'r bawd oddi ar ei throed chwith. Dyna pan sylweddolom fod pethau wedi mynd yn rhy bell. Roedd rhaid i hyn ddod i ben.
I gychwyn, roedd rhaid cael allan o'r farchnad Cardiau Cyfnewid Ffug. Roedd yn anodd, ond llwyddom i wneud hyn. Yna roedd rhaid mynd i'r heddlu am amddiffyniad tyst, fel bod Red ddim yn gallu dod o hyd i ni a'n llad ni am adael. Unwaith ti'n rhan o'r Farchnad Cardiau Cyfnewid Ffug, mae'n anodd iawn gadael. Roedd rhaid adleoli o Ogledd Llandaf i Bentref Llandaf, ac roedd rhaid i'm chwaer liwio ei gwallt o felyn llychlyd i felyn mefus. Cychwynnais wisgo sbectol fel na fyddwn yn cael fy adnabod, a symudais ysgol, o Ysgol Dinas Llandaf i Ysgol Esgob Llandaf. Roedd y trawsnewid yn anodd, ond yn werth hyn, i gael allan o'r Farchnad Cyfnewid Cardiau Ffug.
Er, yn anesboniadwy, bod Te Rhew Eirinen Wlanog ddim yn cael ei restru, efallai hoffet edrych yn ein hadran gwybodaeth ar gamddefnyddio sylweddau.
Gwybodaeth – Iechyd – Camddefnyddio Sylweddau
Gwybodaeth – Addysg – Addysg Uwch
Gwybodaeth – Cyfraith a Hawliau – Trosedd – Twyll
Gwybodaeth – Cyfraith a Hawliau – Y Gyfraith a'r Heddlu – Yr Heddlu
Gwybodaeth – Byd, Ewrop, DU a Chymru – Gwyliau a Theithio
Gwybodaeth – Cyfraith a Hawliau – Dioddefwyr Trosedd – Diogelwch Personol
Gwybodaeth – Teulu a Pherthnasau – Bod yn Rhiant – Beichiogrwydd
DELWEDD: the seal gan Daniel *1977







