Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

David Cameron Yn Dal Ei Dir Am Fudd-daliadau

Postiwyd gan archifCLICarchive o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 28/10/2010 am 16:13
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Materion Cyfoes

  • Cameron

English version

Cyhoeddodd David Cameron ddoe fod y glymblaid yn gorfodi cap tai o £400 yr wythnos am eiddo pedwar llofft i lawr o 10% fydd yn gadael y rhai sydd ar fudd-daliadau ar golled o £9 yr wythnos.

Mae’r glymblaid wedi mynegi fod y toriadau yn dod o ganlyn y miloedd sydd yn camddefnyddio’r system budd-daliadau tra mae’r canol ‘gwasgiad’, a’r rhai ar incwm llai, yn cael eu gorfodi i dalu trethi cynyddol wrth i’r farchnad economaidd barhau i dynhau.

Mae Ed Miliband wedi disgrifio’r penderfyniad i dorri’r budd-daliadau tai fel ‘glanhau cymdeithasol’ er mwyn cynnal ehangu Llundain Ceidwadol. Ond mae Maer Llundain, Boris Johnson, wedi dial yn erbyn David Cameron drwy ddweud byddai ‘allfudiad torfol’ allan o Lundain fyddai mewn effaith, yn arwain at lai o arian yn cael ei roi i mewn i economi’r brifddinas.

Dwi’n bersonol yn teimlo fod y glymblaid wedi cymryd y trywydd cywir ar y cap tai a dylai’r toriadau fod yn ysgogiad i gael mwy o bobl yn l i’r gwaith,  wrth iddynt sylwi fod gweithio nid yn unig yn mynd i fod yn welliant cymdeithasol ar eu bywydau, ond hefyd yn galluogi iddynt ennill mwy o arian na fyddent ar fudd-daliadau. Mae’n amser i’r cyhoedd sydd yn gweithio’n galed ac yn talu trethi i beidio cael eu gorfodi i gael eu beichio gan y rhai sydd yn camddefnyddio’r system, a dylai’r rhai sydd yn camddefnyddio’r system gael eu cosbi.

Y ddadl ydy’r ffactor gall tenantiaid ymdrechu i dalu eu rhent ar y budd-daliadau byddent yn derbyn. Mae landlordiaid wedi codi pryderon dros y mater hwn, yn ei chael yn anodd troi allan tenantiaid sydd yn gwrthod symud, a byddai llawer yn goffi gweld y cyngor lleol yn prydlesu’r eiddo oddi ar y landlord am gyfnod [efallai blwyddyn], a byddai’r cyngor yn rhoi pris cystadleuol (yn ddibynnol ar y lleoliad, felly am Lundain canolog £1000 y mis o rent dros 12 mis).

Mae landlordiaid yn credu byddai hyn yn ddewis llawer fwy priodol yn y troad am ei lawr economaidd gan y byddai yn cael yr arian yn syth a byddai’r cyngor efo’r awdurdod i symud unrhyw denantiaid sydd ddim yn talu.

Beth sydd yn benodol o ddiddorol ydy’r dadansoddiad o bob eiddo ar sail y nifer o lofftydd, felly byddai rhywun sydd yn byw ar ben ei hun neu efo partner mewn eiddo un llofft yn cael £250, yn hytrach na rhywun sydd yn byw mewn eiddo pedwar llofft yn cael £400. Gall dadlau os gall fforddio eiddo pedwar llofft yna nid wyt angen y budd-daliadau tai o gwbl, ac mewn byd delfrydol byddai pawb yn cael ei ymdrin ar sail unigol o beth maent yn ennill a gwerth ei eiddo.

Gyda mwy o bobl nawr nac erioed yn penderfynu byw ar ben eu hunain byddai’n ddiddorol gweld pa gymhareb o’r 150,000 cartref sydd mewn gwirionedd ar gyfer tenantiaid sengl a’r gymhareb benodol am deuluoedd. Amser a ddengys.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50