Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cystadleuaeth #DoligDychmygol

Postiwyd gan Megan_ProMo o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 03/12/2015 am 14:01
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Yn Gymraeg

  • sprout1

Oes gen ti ddawn gyda geiriau? Hoff o adrodd straeon? Gelli di greu'r Star Wars nesaf?

O heddiw hyd at 25ain Rhagfyr (Dydd Nadolig), rydym ni'n gofyn am eich sgwennu creadigol neu ffilm gorau - am gyfle i ennill cwpl o anrhegion Nadolig i chi eich hun.

Gei di gyflwyno gymaint o ddarnau rwyt ti eisiau, os wyt ti'n dilyn cwpl o reolau:

  1. Mae rhaid i'r darn fod yn "Nadoligaidd"
  2. Cadwch ddarnau ysgrifenedig i tua 250-300 gair ar y fwyaf (hwn yw hyd y rhan fwyaf o'n herthyglau)
  3. Mae rhaid i'ch teitl dechrau gyda "#DoligDychmygol" - neu bydd eich darn ddim yn cael ei ystyried
  4. Os wyt ti am gynnig fideo, ychwanegwch y ddolen i'r erthygl yn y ffordd arferol. Bydd angen i ti llwytho'r fideo i YouTube yn gyntaf.

Bydd yr enillydd yn cael ei chyhoeddi ar Ddydd Llun 4ydd Ionawr - bydd cyfle i bleidleisio am eich hoff ddarn rhwng 25ain Rhagfyr a 3ydd Ionawr.

Mwynhewch!

Llun gan: Leo Reynolds trwy Compfightcc

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50